Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Eglwys Sant Jwdas, Abertawe

Rhestr Anrhydedd

Mae plwyf Sant Jwdas Abertawe'n cynnwys ardal Mount Pleasant y ddinas, gyda'i strydoedd tai teras clòs nodweddiadol wedi'u hadeiladu ar draws ochr y bryn i'r gogledd o ganol y ddinas. Ar ddiwedd y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Eglwys Sant Jwdas yn newydd iawn: dechreuodd ym 1896 fel adeilad dros dro. Gorffennwyd neuadd yr eglwys ym 1906 ac adeiladwyd eglwys newydd Sant Jwdas ar ei phen ym 1913. Fe'i cyflwynwyd ym 1915 a sefydlwyd plwyf newydd yn 1920.

Yn dilyn hyn, yn 2015, gorfodwyd yr eglwys i gau oherwydd problemau adeileddol yn yr adeilad, a throsglwyddwyd Rhestr y Gwroniaid i'r Gwasanaeth Archifau ynghyd â chofnodion eraill y plwyf.

Mae'n waith celf gwirioneddol wedi'i ddarlunio'n hardd â gorffeniad aur sy'n mesur oddeutu 70cm x 145cm. Dyma'r rhestr gwroniaid fwyaf sydd gennym a'r un sy'n cynnwys y nifer mwyaf o enwau, 744 i gyd. Mae rhan ganolog sy'n cynnwys enwau mewn priflythrennau aur: dyma'r 51 o ddynion y plwyf a fu farw yn y rhyfel. Yr enwau a gofnodir isod mewn inc du yw enau'r dynion hynny a aeth i ymladd, a'r menywod a fu'n nyrsio neu'n gweithio mewn ffatrïoedd arfau rhyfel.

Nid yw llawer o gofebion yn cofnodi enwau menywod o gwbl, ond penderfynodd plwyf Sant Jwdas y dylid coffáu pawb a gyfrannodd yn uniongyrchol at y rhyfel. Yn y gofeb hon, mae'n amhosib dweud sawl un o'r rhai a restrir sy'n fenywod oherwydd llythrennau blaen a chyfenwau'n unig yw'r rhan fwyaf o'r enwau. Er enghraifft, derbyniodd J. Evans y Groes Goch Frenhinol, medal nyrsio a ddyfernid i fenywod yn unig ar y pryd.

Lawrlwythwch fersiwn mawr o'r Rhestr Anrhydedd (PDF) [2MB](Yn agor ffenestr newydd)

Yn ôl i'r rhestr o enwau

Close Dewis iaith