Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwneud cais i gynnal digwyddiad ar dir y cyngor neu fannau agored yn Abertawe

Dylech gwblhau'r ffurflen hon os ydych am gynnal digwyddiad ar dir sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe, neu os hoffech ddefnyddio tir sy'n eiddo i'r cyngor yn Abertawe ar gyfer eich gweithgaredd grŵp/dosbarth.

Ar gyfer digwyddiadau

Cyn i chi gwblhau'r ffurflen hon gwiriwch fod gennych y manylion canlynol. Byddwch yn derbyn y cyfle i lanlwytho unrhyw ddogfennau ategol fel rhan o'r cais. Sicrhewch fod y rhain wedi'u storio ar eich cyfrifiadur ar ffurf ffeil electronig neu gopi wedi'i sganio.

  • Os oes gan drefnwyr y digwyddiad unrhyw brofiad blaenorol o drefnu digwyddiad, darparwch fanylion.
  • Oes bydd gweithgareddau trwyddedadwy'n cael eu cynnal e.e. gwerthu neu ddarparu alcohol, adloniant rheoledig (cerddoriaeth, dawnsio, ffilmiau, dramâu, digwyddiadau chwaraeon dan do), lluniaeth gyda'r hwyr (bwyd poeth neu ddiod rhwng 11.00pm a 5.00am) mae'n rhaid gwneud cais am Hysbysiadau digwyddiad dros dro (TEN). Dylai hyn fod o leiaf 10 niwrnod cyn y digwyddiad.
  • Mae'n rhaid bod gennych Yswiriant Atebolrwydd Cyhoeddus ar gyfer eich digwyddiad (isafswm o £5 miliwn)
  • Rhaid i chi wneud asesiad risg llawn ar gyfer y digwyddiad sy'n amlygu'r holl beryglon posib a mesurau diogelwch lliniarol. Rhaid darparu copi o'r asesiad risg hwn gyda'ch cais.
  • Dylech gwblhau a lanlwytho cynllun safle gan gynnwys mynedfeydd/allanfeydd,  mynedfeydd/allanfeydd cerbydau, allanfeydd argyfwng, mannau dŵr, prif leoliad trefnydd y digwyddiad, lleoliad personél cymorth cyntaf, lleoliad unrhyw gyfarpar ymladd tân.
  • Dylid lanlwytho rhestr o'r holl weithwyr arlwyo a masnachwyr a fydd yn gweithredu ar y safle.
  • Dylid hefyd lanlwytho asesiad risg tân llawn.


Ar gyfer defnyddio mannau agored

Rydym yn croesawu ceisiadau gan fusnesau, unigolion neu grwpiau wedi'u trefnu i ddefnyddio mannau agored y cyngor i gynnal eu dosbarthiadau/grwpiau. Gall man agored fod yn barc cyhoeddus, yn faes parcio ac yn ardal llawr caled, y promenâd etc.

Fel rhan o'r broses cadw lle, byddwn hefyd yn gofyn i chi ddarparu'r canlynol:

  • Prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus (bydd angen i hwn fod yn ddilys ar gyfer pob dosbarth/gweithgaredd a gynhelir a dylai'r yswiriant fod yn werth o leiaf £5 miliwn)
  • Tystiolaeth o gymhwyster hyfforddwr os yw'n briodol.

Bydd pob sesiwn yn para awr a hanner (sesiwn 1 awr gyda 15 munud cyn ac ar ôl y sesiwn er mwyn cyrraedd/gadael etc).

Bydd gofyn i unrhyw unigolion/sefydliadau sydd â chwsmeriaid sy'n talu ffi dalu am ddefnyddio'n mannau agored. Codir ffïoedd yn fisol cyn i unrhyw sesiwn ddechrau. Ni roddir unrhyw ad-daliadau (gan gynnwys o ganlyniad i dywydd garw).

Close Dewis iaith