Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyngor ar lifogydd

Gwybodaeth ddefnyddiol os yw eich cartref dan fygythiad llifogydd, neu os bydd llifogydd.

Byddwn ni, ynghyd â'r gwasanaethau brys a Cyfoeth Naturiol Cymru yn eich helpu os gallwn, ond chi sy'n bennaf gyfrifol am amddiffyn eich eiddo eich hun. Pan fydd llifogydd yn gyffredin, nid yw'n bosib ymateb i bob galwad am gymorth ar unwaith, a'n blaenoriaeth yw achub bywydau.

Os yw bywyd mewn perygl, ffoniwch 999 ar unwaith.

Byddwn yn:

  • cynnal system ddraenio'r priffyrdd, gan gynnwys gwacáu rhigolau'r priffyrdd a chadw cwlferi'r priffyrdd yn glir
  • gweithredu gwasanaeth brys 24 awr ac ymateb i lifogydd difrifol er mwyn sicrhau diogelwch ar y briffordd gyhoeddus
  • gweithio i osgoi neu leihau llifogydd ar y briffordd gyhoeddus, a chynnal cwlferi ar dir y cyngor
  • gweithio gyda'r gwasanaethau brys eraill mewn ymateb i argyfyngau difrifol neu fawr 

Gallwch gysylltu â gwasanaeth brys Priffyrdd (24 awr y dydd) drwy ffonio 01792 01792 841657.

I gael gwybodaeth am lifogydd yn eich ardal:

 

Atal llifogydd

Cyfrifoldeb y perchennog yw atal llifogydd ar eiddo preifat. 

Mae mesurau amddiffyn rhag llifogydd y gall perchnogion yr eiddo eu dilyn yn cynnwys:

  1. Darganfod a ydych mewn perygl o lifogydd. Gallwch ddarganfod a yw eich eiddo mewn perygl drwy fynd i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru (Yn agor ffenestr newydd) neu drwy ffonio'r llinell llifogydd ar 0345 988 1188.
  2. Os ydych chi'n byw mewn ardal perygl llifogydd, efallai y byddwch yn gallu cofrestru ar gyfer Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol, a derbyn cyngor am ddim ar lifogydd. Ffoniwch y llinell llifogydd i ddarganfod a oes rhybuddion o lifogydd ar gael. 
  3. Diweddarwch eich 'Cynllun Argyfwng Cartref'. Mae gan Gyfoeth Naturiol Cymru (Yn agor ffenestr newydd) dempled y gallwch ei lawrlwytho. 
  4. Gwella gallu eich eiddo i wrthsefyll llifogydd. 
  5. Os yw'n berthnasol, bydd defnyddio systemau draenio cynaliadwy yn lle arwynebau anathraidd yn helpu i leihau dŵr ffo. 
  6. Rhowch wybod i ni am unrhyw ddraeniau neu gwlferi wedi'u blocio

Os ydych chi'n pryderu am lifogydd, mae'r Fforwm Llifogydd Cenedlaethol yn cynnig cyngor pellach: Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (Yn agor ffenestr newydd)

     

    Paratoi ar gyfer llifogydd

    Drwy baratoi ar gyfer llifogydd, gallwch leihau'r difrod a'r drafferth a achosir yn sylweddol - yn enwedig os ydych yn byw mewn ardal lle mae perygl uchel o lifogydd, neu os ydych wedi cael llifogydd yn y gorffennol.

    Dylech

    • Gadw rhestr o rifau ffôn defnyddiol wrth law e.e. eich cwmni yswiriant, rhif llinell llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru, rhifau ffôn cyswllt mewn argyfwng ar gyfer ffrindiau a theulu.
    • Gwiriwch gyda'r llinell llifogydd os oes unrhyw rybuddion penodol am lifogydd yn eich ardal.
    • Dewch o hyd i sachau tywod neu fodd arall o ddiogelu rhag llifogydd er mwyn blocio drysau a briciau awyru (gan sicrhau bod awyriad digonol) - gweler isod).
      *Sylwer nad oes gennym gyflenwad o sachau tywod*
    • Crëwch becyn llifogydd. Cadwch dortsh, ffôn a gwefrwr, radio â batri, rhifau mewn argyfwng, papur ysgrifennu, pinnau a'ch polisi yswiriant mewn lle diogel.
    • Byddwch yn ymwybodol o leoliad eich switshis ar gyfer eich cyflenwad trydan a nwy.

    Ni ddylech

    • Danbrisio'r difrod y gall llifogydd ei achosi. Cysylltu â'ch cwmni yswiriant i sicrhau bod gennych yswiriant llifogydd digonol.
    • Tybio bob pawb yn gwybod yr hyn i'w wneud. Creu cynllun llifogydd ar gyfer teulu.
    • Aros i'r llifogydd ddigwydd. Gall llifogydd ddigwydd yn gyflym iawn. Paratowch nawr.

     

    Yn ystod llifogydd

    Dylech

    • Gofio y bydd y gwasanaethau brys yn brysur iawn yn ystod llifogydd helaeth. Ffonio am gymorth yn syth os oes perygl i fywyd yn unig.
    • Cadw llygad ar adroddiadau tywydd lleol ar y teledu neu ar sianeli newyddion ar y radio. Peidiwch â theithio yn ystod stormydd glaw trwm oni bai fod gwir angen.
    • Edrychwch ar ôl eich cymdogion, yn enwedig y rhai sy'n ddiamddiffyn. 

    Ni ddylech

    • Geisio gyrru drwy ffyrdd neu rydau dan lifogydd. Yn aml, mae'r dŵr yn ddyfnach nag y mae'n ymddangos a gall fod yn llifo'n gyflym. Gall eich cerbyd gael ei ysgubo i ffwrdd neu fynd yn sownd.
    • Cerdded drwy ardaloedd dan lifogydd. Gall hyd yn oed dŵr bas eich ysgubo oddi ar eich traed a gall fod peryglon eraill na allwch eu gweld megis draeniau sydd ar agor, wynebau ffyrdd wedi'u difrodi, malurion wedi suddo neu sianeli dwfn: gallant achosi anaf difrifol neu farwolaeth hyd yn oed.
    • Cerdded ar hyd afonydd neu gamlesi - mae'n beryg dros ben pan fydd llifogydd.
    • Caniatáu i blant chwarae mewn dŵr llifogydd - gall dŵr llifogydd fod wedi'i lygru gan garthion a chemegau.
    • Peidiwch â smygu, bwyta nac yfed pan fyddwch mewn cysylltiad â dŵr llifogydd, a golchwch eich dwylo'n dda ar ôl.

     

    Os bydd llifogydd yn eich cartref

    Dylech

    • Ddiffodd y cyflenwad trydan wrth y prif gyflenwad, os gallwch wneud hynny'n ddiogel.
    • Dod allan o'r dŵr - symudwch eich teulu, anifeiliaid anwes ac eitemau sentimental i fyny'r grisiau neu i dir uwch.
    • Sicrhau bod yr holl gylchedau trydan wedi'u sychu'n llawn ac wedi'u gwirio gan beiriannydd trydanol ar ôl y llifogydd cyn eu cynnau.
    • Os oes difrod i'ch cartref neu'ch eiddo, cysylltwch â'ch cwmni yswiriant. Gofyn am ei farn cyn dechrau glanhau.
    • Mae gan wefan y Fforwm Llifogydd Cenedlaethol (Yn agor ffenestr newydd) amrywiaeth o gyngor defnyddiol a gwybodaeth bellach am yr hyn i'w wneud os effeithir arnoch gan lifogydd. 

    Ni ddylech

    • Geisio diffodd y cyflenwad trydan wrth sefyll mewn dŵr.

     

    Cyngor ar ddiogelwch llifogydd

    • Peidiwch â dychwelyd i adeiladau a wacawyd oni bai eich bod yn derbyn cyfarwyddyd i wneud hynny.
    • Osgowch ffynonellau trydan a pheidiwch â difodd y cyflenwad trydan wrth sefyll mewn dŵr.
    • Gofynnwch i beiriannydd gwasanaeth cymeradwy i wirio cyfleustodau eich eiddo (nwy, trydan a dŵr) cyn troi'r trydan ymlaen unwaith eto er mwyn sicrhau bod yr holl gylchedau trydan wedi'u sychu'n gyfan gwbl.
    • Byddwch yn ymwybodol o ddŵr halogedig a gwrthrychau miniog sy'n gorwedd yn nŵr y llifogydd.
    • Sicrhewch fod gennych larymau tân sy'n gweithio am fod perygl cynyddol o dân oherwydd offer trydanol gwlyb. Bydd y gwasanaeth tân yn darparu ymweliad 'Diogel ac Iach' os oes angen: Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru - ymweliad diogel ac iach (Yn agor ffenestr newydd)
    • Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio canhwyllau a thannau agored.

    Ardal perygl llifogydd Cwm Tawe Isaf

    Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth i breswylwyr a busnesau yng Nghwm Tawe Isaf sydd mewn perygl llifogydd o afon Tawe, Nant-y-Fendrod a Nant Bran.
    Close Dewis iaith