Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am ffotograffiaeth priodasau

Gwnewch gais i dynnu ffotograffau priodas yn rhai o barciau syfrdanol Abertawe.

Treuliwch ychydig o funudau yn cwblhau'r ffurflen hon mor fanwl â phosib fel y gall eich cais gael ei ystyried.

Sylwer:

Cadarnhad

  • Yn dilyn derbyn eich cais, bydd y Tîm Digwyddiadau'n gwirio argaeledd y parc o'ch dewis.
  • Os yw'r parc ar gael ar y dyddiad/yr amser a ddewisir gennych, byddwch yn derbyn cadarnhad yn ysgrifenedig.
  • Dylech fynd â chopi o'ch cadarnhad gyda chi ar y diwrnod hwnnw rhag ofn y cewch eich herio gan aelodau staff y parciau neu unrhyw berson arall â buddiant.
  • Caniatewch hyd at 14 o ddiwrnodau ar gyfer y broses cadarnhau.

Cerbydau

  • Os caiff y cais ei gymeradwyo efallai y bydd yn bosib mynd â cherbydau i mewn i'r parc. Caiff hyn ei gadarnhau gyda chi cyn y diwrnod.
  • Os caiff cerbydau eu hawdurdodi, car y priodferch a'r priodfab a char y ffotograffydd caiff eu cymeradwyo yn unig. 
  • Bydd angen i unrhyw gerbydau sy'n gyrru yn y parc deithio ar uchafswm o 5mya gyda goleuadau rhybudd y cerbyd yn fflachio. 
  • Dylid cymryd gofal i beidio â pharcio'ch cerbydau mewn ardaloedd lle gallant fynd yn sownd neu achosi difrod i'r parc.
Close Dewis iaith