Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Beth gallaf ei ddefnyddio fel prawf i ymaelodi â PIH?

Edrychwch drwy'r tabl isod i bennu pa fath o dystiolaeth y bydd ei hangen arnoch.

Prawf cyfeiriad

Pob ymgeisydd: Gofynnir am brawf o gyfeiriad ar gyfer pob ymgeisydd, e.e. bil cyfleustod neu fil Treth y Cyngor. Os cewch unrhyw anawsterau, e-bostiwch eich ymholiad at pih@abertawe.gov.uk a byddwn yn ymateb cyn gynted â phosib.

Prawf o Fudd-daliadau

Gweler isod fanylion ynghylch y math o fudd-dal a pha dystiolaeth sydd ei hangen.

  • Budd-dal Tai
    Nid oes angen cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y budd-dal hwn oherwydd bydd Cyngor Abertawe'n ei gwirio.
  • Budd-dal Treth y Cyngor
    Nid oes angen cyflwyno tystiolaeth ar gyfer y budd-dal hwn oherwydd bydd Cyngor Abertawe'n ei gwirio.
  • Cymhorthdal Incwm
    Y llythyr dyfarniad, neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal.
  • Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm)
    I brofi Lwfans Ceiswyr Swydd (yn seiliedig ar incwm) mae'n rhaid dangos y llythyr datganiad budd-dal tair tudalen i gyd a roddir pan dderbynnir y budd-dal cyntaf.
  • Credyd Pensiwn Gwarantedig
    Y llythyr dyfarniad neu lythyr diweddar yn cadarnhau derbyn budd-dal.
  • Credyd Treth i Deuluoedd sy'n Gweithio a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG
    Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim.
  • Credyd Treth Plentyn a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG
    Y Llythyr Dyfarniad a Thystysgrif Rhyddhad Credyd Treth y GIG yn dangos eich bod yn derbyn gofal optegol a deintyddol am ddim.
  • Credyd Cynhwysol
    Y llythyr dyfarnu Credyd Cynhwysol sy'n cadarnhau lefel eich enillion.
  • Cynllun Incwm Isel y GIG
    Y dystysgrif HC2 ar gyfer gofal optegol a deintyddol y GIG am ddim.
  • 17-19 oed mewn addysg llawn amser/hyfforddiant wedi'i enwi ar gais rhieni am fudd-dal
    Prawf o statws myfyriwr llawn amser/gynhwysiad ar gynllun hyfforddi a gymeradwywyd (gweler isod) a phrawf eich bod wedi'ch cynnwys ar gais eich rhieni/gwarcheidwaid am fudd-dal:
    • Wedi cofrestru ar gyfer addysg heblaw addysg uwch:
      • TGAU a Safon Uwch
      • NVQ lefel 1, 2 neu 3
      • Diploma Cenedlaethol BTEC, tystysgrif genedlaethol a Diploma 1af
      • Tystysgrif Addysg Albanaidd Gradd Uwch neu gyfwerth.
    • Wedi cofrestru ar gynllun hyfforddiant a gymeradwywyd:
      • Adeiladu Sgiliau
      • Prentisiaethau Modern Sylfaenol neu Brentisiaethau Modern
  • Oedolyn Ifanc a Gynorthwyir
    Os ydych chi yn y categori hwn, bydd rhaid i'ch cynrychiolydd Gwasanaethau Cymdeithasol gysylltu â'r Swyddfa PTL i drefnu prawf cymhwyster a mynediad i'r cynllun.
  • Ceiswyr Lloches
    Cerdyn adnabod Swyddfa Gartref y Gwasanaeth Cynnal Cenedlaethol i Geiswyr Lloches (CCC) neu ffurflen HC2W y GIG neu lythyr caniatâd gan Gyngor Ffoaduriaid Cymru.

I gael cyngor ar basport i hamdden, gallwch e-bostio pih@abertawe.gov.uk neu ffonio 01792 635353 rhwng 10.00am a 3.00pm o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Close Dewis iaith