Toglo gwelededd dewislen symudol

Pwy yw Pwy ym Myd Twristiaeth?

Mwy o wybodaeth am bwy sy'n gwneud beth yn y diwydiant twristiaeth yng Nghymru a'r DU.

Mae Tîm Twristiaeth Cyngor Abertawe'n gyfrifol am hyrwyddo Bae Abertawe, y Mwmbwls a phenrhyn Gŵyr ar draws y DU trwy fasnachu'r cyrchfannau, datblygu twristiaeth, gwneud ymchwil a darparu gwybodaeth i ymwelwyr. Gwefan swyddogol ein cyrchfan yw www.croesobaeabertawe.com

Mae Visit Britain (Yn agor ffenestr newydd) yn marchnata Prydain i weddill y byd, yn ogystal â marchnata Lloegr i'r farchnad Brydeinig.

Croeso Cymru (Yn agor ffenestr newydd) - yw tîm twristiaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru, o fewn yr Adran Treftadaeth. Mae Croeso Cymru bellach yn cyflawni swyddogaethau hen Fwrdd Croeso Cymru ac mae'n gyfrifol am hyrwyddo a datblygu twristiaeth yng Nghymru. Mae'n cynnig gwybodaeth ymarferol am gynlluniau sêr graddio, cynlluniau grantiau twristiaeth, gwybodaeth am ymchwil i dwristiaeth, newyddion am y diwylliant, etc. 

Busnes Cymru (Yn agor ffenestr newydd) - Cangen cefnogi busnes Llywodraeth Cymru. Ydych chi'n meddwl am ddechrau busnes twristiaeth? Neu'n tyfu eich busnes? Mae'r holl wybodaeth, cyngor ac arweiniad y mae ei angen arnoch ar ei gwefan.

Cynghrair Twristiaeth Cymru (Yn agor ffenestr newydd) yw'r corff ymbarél  swyddogol ar gyfer ymgynghori â'r diwydiant twristiaeth a'i gynrychioli.

Mae Twristiaeth Bae Abertawe (Yn agor ffenestr newydd) yn  gymdeithas fasnachu'n seiliedig ar aelodaeth ar gyfer busnesau twristiaeth yn Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot. Mae'n eu cynrychioli'n lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol fel llais annibynnol gweithredwyr twristiaeth yr ardal.

Close Dewis iaith