Toglo gwelededd dewislen symudol

Cais am fynediad at ddarnau o ffilm CCTV

Sylwer: gallwch gyflwyno cais testun am wybodaeth lle rydych chi'n ymddangos yn bersonol yn ein darnau o ffilm CCTV yn unig.

Am y rheswm hwn, mae'n rhaid i chi gyflwyno dogfen adnabod yn ogystal a'r cais hwn sy'n dangos eich wyneb (e.e. pasbort neu drwydded yrru cerdyn-llun).

Mae ceisiadau am ddarnau o ffilm yn gyfyngedig i chwiliad o un awr o hyd, felly ceisiwch fod mor fanwl a phosib am amser a dyddiad y digwyddiad. Oherwydd swm yr wybodaeth bersonol trydydd parti a all fod mewn unrhyw ddarn o ffilm, nid ydym yn gallu rhoi mynediad i chi at fwy o'n darn o ffilm CCTV.

Ystyrir eich cais ochr a hawliau preifatrwydd unrhyw unigolion eraill a all fod yn yr un ffilm. Gallwn wrthod eich cais os oes gennym unrhyw bryderon ynghylch y perygl o ragfarn neu niwed i unrhyw unigolion drwy eu hadnabod.

Os yw'ch cais yn ymwneud a difrod i'ch cerbyd pan oedd wedi'i barcio a heb oruchwyliaeth, gallwch ofyn i'ch cwmni yswiriant wneud cais testun am wybodaeth ar eich rhan, ond nid yw'n gallu defnyddio#r broses hon.

Close Dewis iaith