Toglo gwelededd dewislen symudol

Grwpiau cymunedol a chwaraeon i gael defnyddio meysydd chwarae a mannau awyr agored y cyngor am ddim

Bydd clybiau chwaraeon lleol, grwpiau cymunedol ac elusennau yn Abertawe yn cael defnyddio meysydd chwarae, parciau, mannau awyr agored sy'n eiddo i'r cyngor am ddim wrth i'r ddinas ddod drwy'r pandemig.

Dan gynigion a fydd yn mynd gerbron Cabinet Cyngor Abertawe, bydd ffïoedd ar gyfer defnyddio cyfleusterau fel meysydd chwarae, parciau a thraethau ar gyfer pêl-droed, rygbi, criced cymunedol, dosbarthiadau ymarfer corff awyr agored yn cael eu hatal tan 31 Mawrth, 2022.

Cyflwynwyd y cam hwn wrth i Abertawe a gweddill Cymru ddod allan o'r cyfnod clo yn yr wythnosau a'r misoedd i ddod.

Dywedodd Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, y bydd atal ffïoedd am ddefnyddio mannau awyr agored yn cefnogi clybiau ac elusennau ac ar yr un pryd yn annog pobl i ddefnyddio mannau awyr agored yn ddiogel.

Meddai'r Cyng. Francis-Davies, "Mae pob un ohonom yn gwybod bod y niferoedd sy'n mynd allan i fwynhau ymarfer corff ac awyr iach wedi cynyddu'n aruthrol yn ystod y pandemig. Ar yr un pryd, mae rhwydwaith ein dinas o glybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol wedi bod ar goll braidd gan fod y rheolau wedi atal sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd cymdeithasol rhag cael eu cynnal. 

"Nawr, wrth i ni ddod allan o'r pandemig rydym am annog pobl i barhau i wneud mwy o ymarfer corff a chefnogi clybiau i ailgychwyn mewn ffordd sy'n ddiogel, yn unol â'r rheolau, ac yn hawdd ei wneud.

"Mae'n golygu y byddwn yn chwarae ein rhan wrth gefnogi cymunedau i fwynhau eu haf a'r tymor nesaf pan, gobeithio, na fydd cyfyngiadau mor rhwystredig ag y buont hyd yn hyn."

Dan y cynlluniau, byddai angen i grwpiau cymunedol, elusennau ac unigolion gadw lle ym mharciau'r cyngor, fel y maent bob amser wedi'i wneud. Mae hyn er mwyn sicrhau nad oes gwrthdaro mewn archebion gyda'r rheini sydd eisoes wedi cadw lle, ac, yn bwysicach, i sicrhau bod pob man yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID-19 i'r holl ddefnyddwyr.

Mae'r ymagwedd hon hefyd yn golygu na chaniateir i bobl gyrraedd y mannau hyn i'w defnyddio heb gadw lle ymlaen llaw. Codir tâl o hyd ar y rheini sydd am ddefnyddio cyfleusterau dan do, caeau chwarae 3G a chyfleusterau gwell tebyg eraill.

Meddai Rob Stewart, Arweinydd y Cyngor, "Addawom gefnogi cymunedau wrth i ni ddod allan o'r pandemig ac mae'r gronfa adfer 20 miliwn yn caniatáu i ni gefnogi clybiau chwaraeon a grwpiau cymunedol yn uniongyrchol ar draws Abertawe. Bydd y gronfa hon yn helpu i leihau costau llogi meysydd chwarae a pharciau a mannau chwarae eraill i sero ar gyfer nifer o bobl.

"Rydym yn cydnabod bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn anodd iawn ac y bydd pobl eisiau dychwelyd i fwynhau dosbarthiadau chwaraeon ac ymarfer corff cymunedol trefnedig yn ein parciau hardd a'n mannau agored. Gofynnwn i bawb barhau i ymddwyn yn gyfrifol wrth ymgymryd â gweithgareddau y tu mewn a'r tu fas ac yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru.

"Yn ogystal â'r gefnogaeth ychwanegol bosib hon ar gyfer grwpiau chwaraeon a chymuned byddwn hefyd yn gohirio ffïoedd ar gyfer digwyddiadau a gweithgareddau cymunedol anfasnachol fel ffeiriau a diwrnodau gweithgareddau pan fydd canllawiau'r Llywodraeth yn caniatáu i bethau o'r fath gael eu cynnal.

"Mae'n ffordd arall y gall y cyngor gyfrannu at adfer bywyd cymunedol yn dilyn y pandemig. Nid yw'r firws wedi diflannu ac mae'n rhaid i ni barhau i ddilyn y rheolau i'n cadw ni a'n teuluoedd yn ddiogel.

"Ond mae mwy o resymau dros wenu o dan y mygydau ar ein hwynebau ac mae'r cyngor yn falch o chwarae ei ran yn hynny nawr a thros yr wythnosau a'r misoedd i ddod."

Ni fydd unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol nes y bydd y cynigion wedi eu hystyried gan y Cabinet. 

Mwy o wybodaeth:

Close Dewis iaith