Coronafeirws - banciau
Y gefnogaeth sydd ar gael (gwiriwch wefan eich banc am y diweddaraf).
RBS
Gwefan: https://personal.rbs.co.uk/personal/support-centre/coronavirus.html#bank
Llinell gefnogaeth benodol ar gyfer gwsmeriaid dros 70 oed neu'r rheini sy'n hunanynysu a gwasanaeth ar wahân i weithwyr y GIG.
Ffôn: 0800 051 4177
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gwasanaeth danfon arian parod i gwsmeriaid diamddiffyn a staff y GIG. Gall arian gael ei ddanfon i gyfeiriad cartref, gyda hyd at £500 ar gael. Mae bancio symudol a thros y ffôn, yn ogystal â thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Cerdyn cydymaith:
Mae Royal Bank of Scotland wedi lansio Cerdyn Cydymaith newydd - ychwanegiad at eu cyfrifon cyfredol presennol a fydd yn galluogi cwsmeriaid diamddiffyn a'r rheini sy'n hunanynysu am gyfnodau hwy i roi ffordd i'w gwirfoddolwyr dibynadwy dalu am yr hanfodion. Gellir ychwanegu hyd at £100 at y cerdyn bob 5 niwrnod a'i roi i berson neu ofalwr dibynadwy i'w alluogi i brynu ar ran yr unigolyn.
I wella diogelwch, bydd y Cerdyn Cydymaith yn gysylltiedig â chyfrif banc cyfredol y cwsmer ond bydd yn cael ei gadw ar wahân ar systemau'r banc. Nid yw'r cerdyn yn rhannu'r un PIN na'r rhif cerdyn hir â cherdyn debyd presennol y cwsmer ac mae trafodion arian parod mewn peiriannau ATM yn gyfyngedig i £50, yn ogystal â bod yn destun systemau monitro twyll.
Gellir defnyddio'r Cerdyn Cydymaith i brynu siopa yn unig - ni ellir ei ddefnyddio i brynu nwyddau ar-lein. Gall cwsmeriaid gael mynediad at y gwasanaeth danfon arian neu ymholi am Gerdyn Cydymaith drwy ffonio:
Llinellau cwsmeriaid diamddiffyn arbennig Royal Bank of Scotland ar 0800 051 4177.
Polisi mynediad trydydd parti
Gellir darparu côd dros y ffôn y gall cwsmeriaid ei roi i ffrind, cymydog neu wirfoddolwr i godi swm cytunedig o arian parod o beiriant ATM o fewn tair awr o dderbyn y côd. Cysylltwch â RBS am ragor o fanylion.
NatWest
Gwefan: https://personal.natwest.com/personal/support-centre/coronavirus.html
Llinell gefnogaeth benodol ar gyfer cwsmeriaid dros 70 oed neu'r rheini sy'n hunanynysu a gwasanaeth ar wahân i weithwyr y GIG.
Ffôn: 0800 051 4176
Mae'r llinellau ar agor 8.00am-8.00pm bob dydd.
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gwasanaeth danfon arian parod i gwsmeriaid diamddiffyn a staff y GIG. Gall arian gael ei ddanfon i gyfeiriad cartref, gyda hyd at £500 ar gael. Mae bancio symudol a thros y ffôn, yn ogystal â thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Cerdyn Cydymaith:
Mae Natwest hefyd wedi lansio 'Cerdyn Cydymaith' newydd ar gyfer cwsmeriaid diamddiffyn i'w roi i wirfoddolwyr dibynadwy i dalu am nwyddau hanfodol. Gellir ychwanegu hyd at £100 at y cerdyn bob 5 niwrnod a'i roi i berson neu ofalwr dibynadwy i'w alluogi i brynu ar ran yr unigolyn.
I wella diogelwch, bydd y Cerdyn Gofalwyr yn gysylltiedig â chyfrif banc cyfredol y cwsmer ond bydd yn cael ei gadw ar wahân ar systemau'r banc. Nid yw'r cerdyn yn rhannu'r un PIN na'r rhif cerdyn hir â cherdyn debyd presennol y cwsmer ac mae trafodion arian parod mewn peiriannau ATM yn gyfyngedig i £50, yn ogystal â bod yn destun systemau monitro twyll.
Gellir defnyddio'r Cerdyn Cydymaith i brynu siopa yn unig - ni ellir ei ddefnyddio i brynu nwyddau ar-lein. Gall cwsmeriaid gael mynediad at y gwasanaeth danfon arian parod neu ymholi ynghylch Cerdyn Cydymaith drwy ffonio'r llinell gefnogaeth arbennig ar 0800 051 4176 i gael rhagor o fanylion.
Polisi mynediad trydydd parti
Gellir darparu côd dros y ffôn y gall cwsmeriaid ei roi i ffrind, cymydog neu wirfoddolwr i godi swm cytunedig o arian parod o beiriant ATM o fewn tair awr o dderbyn y côd.
Cysylltwch â Natwest am ragor o fanylion.
Ulster NI
Gwefan: https://digital.ulsterbank.co.uk/personal/help-and-support/coronavirus.html
Llinell gefnogaeth benodol ar gyfer cwsmeriaid dros 70 oed neu'r rheini sy'n hunanynysu a gwasanaeth ar wahân i weithwyr y GIG.
Ffôn: 0800 092 4238
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gwasanaeth danfon arian parod i gwsmeriaid diamddiffyn a staff y GIG. Gall arian gael ei ddanfon i gyfeiriad cartref, gyda hyd at £500 ar gael. Mae bancio symudol a thros y ffôn, yn ogystal â thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Cerdyn Cydymaith:
Mae Ulster Bank wedi lansio Cerdyn Cydymaith newydd - ychwanegiad at eu cyfrifon cyfredol presennol a fydd yn galluogi cwsmeriaid diamddiffyn a'r rheini sy'n hunanynysu am gyfnodau hwy i roi ffordd i'w gwirfoddolwyr dibynadwy dalu am yr hanfodion.
Gellir ychwanegu hyd at £100 at y cerdyn bob 5 niwrnod a'i roi i berson neu ofalwr dibynadwy i'w alluogi i brynu ar ran yr unigolyn.
I wella diogelwch, bydd y Cerdyn Gofalwyr yn gysylltiedig â chyfrif banc cyfredol y cwsmer ond bydd yn cael ei gadw ar wahân ar systemau'r banc. Nid yw'r cerdyn yn rhannu'r un PIN na'r rhif cerdyn hir â cherdyn debyd presennol y cwsmer ac mae trafodion arian parod mewn peiriannau ATM yn gyfyngedig i £50, yn ogystal â bod yn destun systemau monitro twyll.
Gellir defnyddio'r Cerdyn Cydymaith i brynu siopa yn unig - ni ellir ei ddefnyddio i brynu nwyddau ar-lein. Gall cwsmeriaid gael mynediad at y gwasanaeth danfon arian parod neu ymholi ynghylch y Cerdyn Cydymaith drwy ffonio llinellau cwsmeriaid diamddiffyn arbennig Ulster Bank ar 0800 092 4238.
Polisi mynediad trydydd parti
Gellir darparu côd dros y ffôn y gall cwsmeriaid ei roi i ffrind, cymydog neu wirfoddolwr i godi swm cytunedig o arian parod o beiriant ATM o fewn tair awr o dderbyn y côd.
Cysylltwch ag Ulster NI am ragor o fanylion.
Santander
Gwefan: https://www.santander.co.uk/personal/coronavirus
Mae Santander wedi adleoli nifer o aelodau staff i gefnogi tîm y ganolfan gyswllt.
Ffôn: 0800 9123 123
Os ydych yn gwsmer diamddiffyn â sefyllfa unigryw ac y mae angen help arnoch ar unwaith, ffoniwch y llinell gymorth ar 0800 015 6382.
Defnyddiwch y rhif hwn dim ond os oes angen cefnogaeth ar frys arnoch ac ni allwch gysylltu â ni ar-lein. Mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9.00am - 5.00pm a dydd Sadwrn, 9.00am - 4.00pm.
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Bancio dros y ffôn, trafodion trydydd parti a thrafodion peiriannau ATM.
Polisi mynediad trydydd parti
Gall trydydd parti gael mynediad at arian parod yn ôl yr angen cyhyd ag yw'r cwsmer yn gallu darparu cadarnhad dros y ffôn/mesurau cefnogi ychwanegol i helpu'r rheini na allant ddangos pwy ydyn nhw i dalu trydydd parti. Gall ddarparu cefnogaeth ac arweiniad i drydydd partïon ynghylch sut gall cwsmeriaid gael gafael arnynt.
Cysylltwch â Santander am ragor o fanylion.
Barclays
Gwefan: https://www.barclays.co.uk/coronavirus/
Ailgyfeirio adnoddau i gefnogi llinellau ffôn. Mae'r timau yn y canghennau hefyd yn cefnogi hyn.
Ffôn: 03457 345 345
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Ar gyfer y rheini sy'n hunanynysu ac y mae angen arian parod arnynt, mae gwasanaeth danfon arian parod ar gael. Bydd Barclays yn talu am gost hyn.
Mae bancio dros y ffôn a thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael o hyd.
Polisi mynediad trydydd parti
Ar gyfer cwsmeriaid diamddiffyn sydd am gael cefnogaeth uniongyrchol gan drydydd parti dibynadwy gyda'u bancio, mae prosesau ar waith ar gyfer cefnogaeth trydydd parti untro, dros dro neu barhaol.
Cysylltwch â Barclays am ragor o fanylion.
HSBC
Gwefan: https://www.hsbc.co.uk/help/coronavirus/
Efallai y cyfeirir cwsmeriaid diamddiffyn sy'n cysylltu â'r banc at dîm cymorth arbenigol.
Ffôn: 03457 404 404
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gweithio gyda chwsmeriaid i ddod o hyd i ddatrysiadau eraill megis archebu cardiau debyd, mynediad trydydd parti, help i reoli cyllidebau a sefydlu mynediad o bell i gwsmeriaid diamddiffyn os oes angen. Maent hefyd yn cynnig gwasanaethau anfon negeseuon testun. Mae bancio dros y ffôn a thrafodion o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Polisi mynediad trydydd parti
Bydd yn gweithio gydag unigolion i gynnig mynediad trydydd parti os nad ydynt yn gallu cael mynediad at fancio ar-lein/symudol/dros y ffôn.
Cysylltwch â HSBC am ragor o fanylion.
TSB
Gwefan: https://www.tsb.co.uk/coronavirus/
Maent yn defnyddio rhai aelodau staff mewnol i helpu i ateb y llinellau ffôn a symud adnoddau o gwmpas i helpu staff rheng flaen.
Ffôn: 03459 758 758
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gallwch fancio ar-lein/codi arian parod o beiriannau ATM. Mae'n bosib y gellir gofyn i rywun ymweld â'r gangen ar ran person arall. Gall cwsmeriaid sgwrsio'n â staff TSB yn fyw ar-lein drwy ddefnyddio 'chat' am y tro cyntaf. Bydd yn rhyddhau staff ar draws y canghennau a'r canolfannau cyswllt fel y gallant gefnogi cwsmeriaid diamddiffyn a'r rheini y mae angen gwasanaethau hanfodol arnynt.
Polisi mynediad trydydd parti
Gall cwsmeriaid nad oes ganddynt fynediad at wasanaethau digidol ffonio'r banc i sefydlu mynediad trydydd parti.
Cysylltwch â TSB am ragor o fanylion.
Metro Bank
Gwefan: https://www.metrobankonline.co.uk/coronavirus/coronavirus-personal-customers/
Mae Metro Bank yn cynyddu nifer y staff ar y llinell gymorth - mae'r llinell gymorth ar gael o ddydd Llun i ddydd Gwener 8.00am - 9.00am ar gyfer cwsmeriaid diamddiffyn a phobl dros 70 oed yn unig.
Ffôn: 0345 08 08 500
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Annog pobl i gysylltu â nhw dros y ffôn os na allant ddefnyddio'r gwasanaethau hunanwasanaeth ar-lein. Darparu cefnogaeth a gwybodaeth ychwanegol i'r rheini sydd am roi cynnig ar fancio ar-lein am y tro cyntaf.
Polisi mynediad trydydd parti
Proses newydd lle gall unigolyn adneuo arian ar ran cwsmer. Bydd angen llythyr wedi'i lofnodi gan y cwsmer a bydd angen cerdyn adnabod ar yr unigolyn sy'n gweithredu ar ei ran.
Cysylltwch â Metro Bank am ragor o fanylion.
Lloyds Bank
Gwefan: https://www.lloydsbank.com/help-guidance/coronavirus.html
Gwasanaeth newydd ar gyfer pobl dros 70 oed, pobl ddiamddiffyn a Gweithwyr y GIG i gynnig cefnogaeth i'r rheini sydd â'r angen mwyaf.
Ffôn: 0345 072 5555
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Esbonio i bobl y gallant ofyn i drydydd parti ymweld â changen ar eu rhan gyda cherdyn adnabod megis pasbort neu drwydded yrru. Mae bancio dros y ffôn a thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Polisi mynediad trydydd parti
Gall cwsmeriaid sy'n hunanynysu a'r rheini na allant fancio'n ddigidol ofyn i barti dibynadwy ymweld â changen gan ddefnyddio'u cerdyn adnabod. Uchafswm o £50 ar gyfer trafodion.
Cysylltwch â Lloyds Bank am ragor o fanylion.
Halifax
Gwefan: https://www.halifax.co.uk/helpcentre/coronavirus/
Gwasanaeth newydd ar gyfer pobl dros 70 oed, pobl ddiamddiffyn a Gweithwyr y GIG i gynnig cefnogaeth i'r rheini sydd â'r angen mwyaf.
Ffôn: 0345 720 3040
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Esbonio i bobl y gallant ofyn i drydydd parti ymweld â changen ar eu rhan gyda cherdyn adnabod megis pasbort neu drwydded yrru. Mae bancio dros y ffôn a thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Polisi mynediad trydydd parti
Gall cwsmeriaid sy'n hunanynysu a'r rheini na allant fancio'n ddigidol ofyn i berson dibynadwy ymweld â changen gan ddefnyddio'u cerdyn adnabod. Uchafswm o £100 ar gyfer trafodion.
Cysylltwch â Halifax am ragor o fanylion.
Bank of Scotland
Gwefan: https://personal.rbs.co.uk/personal/support-centre/coronavirus.html#other
Gwasanaeth newydd ar gyfer pobl dros 70 oed, pobl ddiamddiffyn a Gweithwyr y GIG i gynnig cefnogaeth i'r rheini sydd â'r angen mwyaf.
Ffôn: 0345 721 3141
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gall pobl ofyn i drydydd parti ymweld â changen ar eu rhan gyda cherdyn adnabod, megis pasbort neu drwydded yrru (cysylltwch â Bank of Scotland am ragor o fanylion).
Mae bancio dros y ffôn a thrafodion arian parod o beiriannau ATM hefyd ar gael.
Polisi mynediad trydydd parti
Gall cwsmeriaid sy'n hunanynysu a'r rheini na allant fancio'n ddigidol ofyn i barti dibynadwy ymweld â changen gan ddefnyddio'u cerdyn adnabod. Uchafswm o £100 ar gyfer trafodion.
Cysylltwch â Bank of Scotland am ragor o fanylion.
Co-operative Bank
Gwefan: https://www.co-operativebank.co.uk/news/2020/coronavirus-support-personal-customers
Gwiriwch oriau agor y gangen a'r llinellau ffôn i sicrhau ei bod yn gallu gwasanaethu cwsmeriaid y mae angen iddynt ddefnyddio'r gwasanaethau bancio.
Mae'r llinellau ar agor o 8.00am i 6.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener ac o 9.00am tan 5.00pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.
Ffôn: 03457 212 212
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Gweithio i nodi cwsmeriaid nad ydynt yn bancio'n ddigidol ac esbonio'r opsiynau sydd ar gael iddynt. Bydd y banc yn dweud wrthynt sut bydd yn parhau i'w gwasanaethu a'u helpu i ddeall yr opsiynau cefnogaeth sydd ar gael a sut i gael mynediad at arian. Bancio dros y ffôn ar gael.
Polisi mynediad trydydd parti
Mae yna broses eithriadau y gall y banc ei defnyddio ar gyfer cwsmeriaid diamddiffyn y mae angen rhywun arall arnynt i gael mynediad at eu harian ar eu rhan.
Cysylltwch â'r Co-operative Bank am ragor o fanylion.
Nationwide
Gwefan: https://www.nationwide.co.uk/support/coronavirus
Defnyddio adnoddau ychwanegol i helpu â'r galw cynyddol, yn y broses o sefydlu llinell gymorth Coronafeirws bwrpasol.
Ffôn: 0800 30 20 11
Opsiynau nad ydynt ar gael ar-lein:
Dod o hyd i ffyrdd amgen o fancio ar gyfer cwsmeriaid diamddiffyn, a bydd yn cyflwyno cefnogaeth ychwanegol yn ôl yr angen. Bydd yn parhau i ddiweddaru'r dudalen Coronafeirws gyda'r datrysiadau cefnogi perthnasol. Bancio dros y ffôn hefyd ar gael.
Polisi mynediad trydydd parti
Mae rheoliadau llym ynghylch mynediad trydydd parti yn dal i fod yn berthnasol, ond dywed y banc ei fod yn gwneud popeth o fewn ei allu i gynnig cefnogaeth ynghylch Pŵer Atwrnai a deall anghenion pobl ddiamddiffyn.
Gallant gytuno i aelod o'r teulu neu ffrind dibynadwy godi arian neu dalu arian ar eich rhan. Yr enw am hyn yw Mandad Trydydd Parti, sef mesur dros dro y gallwch ei ganslo ar unrhyw adeg.
I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch gangen leol Nationwide.
Banc ar-lein yn unig, Starling Bank - cerdyn Starling Connected
Gwefan: https://www.starlingbank.com/features/connected-shopping-card/
Cerdyn debyd ychwanegol yw cerdyn Starling Connected y gallwch ei roi i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo, fel y gall y person hwnnw brynu beth bynnag sydd ei angen arnoch chi. Daw'r arian allan o 'fan' dynodedig y byddwch chi'n ei sefydlu yn yr ap (yn hytrach na'ch prif gyfrif) ac mae terfyn o £200.
Bydd angen cyfrif cyfredol personol arnoch gyda Starling er mwyn cael cerdyn Connected. Os nad oes gennych gyfrif ond hoffech agor un, gallwch ddechrau drwy lawrlwytho'r ap: https://www.starlingbank.com/features/connected-shopping-card/
Gallwch ychwanegu arian at eich cerdyn Connected pryd bynnag y dymunwch drwy ychwanegu arian at eich 'Connected Space' dynodedig yn yr ap.
Os ydych am stopio'r cerdyn rhag cael ei ddefnyddio, gallwch dynnu'ch arian o'r 'Connected Space.
Monzo
Gwefan: https://monzo.com/i/coronavirus-faq
Yn parhau i gynnig cefnogaeth dros y ffôn, 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.
Ffôn: 0800 023 4567