Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hyfforddiant i yrwyr beiciau modur

Manylion cyrsiau diogelwch ffyrdd i feicwyr modur.

BikeSafe

Menter beiciau modur genedlaethol a gynhelir gan yr heddlu yw BikeSafe sydd â'r nod o weithio gyda beicwyr modur mewn amgylchedd hamddenol i gynyddu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd a gwerth mynd ymlaen i gyflawni hyfforddiant achrededig ar ôl y prawf.

Mae gweithdai BikeSafe yn cynnwys taith wedi'i harsylwi gan feiciwr modur o'r heddlu neu arsylwr cymeradwy BikeSafe.

Gydag ychydig o amrywiaeth lleol, bwriad gweithdai BikeSafe yw ymdrin â'r canlynol: agwedd y gyrrwr, dulliau systematig, achosiad gwrthdrawiadau, cornelu, lleoliad, goddiweddyd, arsylwi, brecio, sylwi ar beryglon a defnyddio gerau.

I gael rhagor o wybodaeth am ddyddiadau gweithdai a gynhelir yn Abertawe ac i gadw lle, ewch i www.bikesafe.co.uk/southwales/workshops (Yn agor ffenestr newydd) a nodwch y côd taleb SWAN-23 ar gyfer lle â chymhorthdal llawn (am ddim). Mae lleoedd yn brin.

 

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y cyrsiau reidio beic modur sy'n cael eu cynnal yng Nghymru, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith