Ymgynghoriad ar Ganllawiau Cynllunio Atodol (CCA)
Hoffai'r cyngor gael eich barn am y CCA:
- Datblygu a Bioamrywiaeth DRAFFT
- Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd ar Safleoedd Datblygu DRAFFT
- Canllaw Dylunio AoHNE Gŵyr Diwygiedig DRAFFT
Bioamrywiaeth a Chynllunio
Mae amryfal fuddion i'r Ymagwedd Creu Lleoedd a ddisgrifir mewn polisïau cynllunio lleol a chenedlaethol sy'n helpu i wella ansawdd bywyd, mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, lleihau ein hôl-troed carbon a gwella bioamrywiaeth a chydnerthedd ecolegol ar gyfer y dyfodol. Dan y fframwaith deddfwriaethol a pholisi cyfredol yng Nghymru, mae'n rhaid i'r system gynllunio geisio diogelu rhwydweithiau ecolegol cydnerth a sicrhau budd net ar gyfer bioamrywiaeth fel rhan o gynigion datblygu newydd. Mae'n bwysig felly i ystyried pob mater bioamrywiaeth fel rhan hanfodol o geisiadau cynllunio oherwydd gall peidio â gwneud hyn arwain at wrthod neu oedi'r cais.
Mae Tîm Cadwraeth Natur y cyngor yn ymgyngoreion yn y broses ceisiadau cynllunio a byddant yn darparu cyngor i'r Tîm Rheoli Datblygu mewn perthynas â materion bioamrywiaeth.
Mae CDLl Abertawe yn darparu'r fframwaith polisi cynllunio lleol ar gyfer bioamrywiaeth ac mae'r Canllawiau Cynllunio Atodol - Datblygu a Bioamrywiaeth yn darparu arweiniad manwl ar sut y cymhwysir polisïau'r cynllun.
Mae rhagor o wybodaeth dechnegol mewn perthynas â bioamrywiaeth a chynllunio ar gael i'w lawrlwytho yn y nodiadau arweiniol, y strategaethau a'r canllawiau dylunio isod. Mae'r dogfennau hefyd yn cyfeirio at wybodaeth ac arfer da defnyddiol arall.
Gyda'i gilydd mae'r dogfennau hyn yn darparu cyngor i ymgeiswyr ar sut i sicrhau yr ystyrir bioamrywiaeth ar y cam priodol cynharaf o wneud cais cynllunio. Bydd hyn yn helpu i osgoi oediadau a chostau diangen yn ogystal â sicrhau'r canlyniad gorau ar gyfer cydnerthedd bioamrywiaeth ac ecosystemau.