Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Blociau tŵr Abertawe

Ffeithiau allweddol am flociau tŵr rydym yn berchen arnynt.

Ein Heiddo

  • Rydym yn berchen ar 11 o flociau tŵr preswyl, gyda chyfanswm o 671 o fflatiau.
  • Dyma'r lleoliadau: Stryd Croft, Dyfaty (dau floc); Jeffreys Court, Pen-lan (un bloc); Street Matthew, Dyfaty (dau floc); Stryd Griffith John, Dyfaty (dau floc); Clyne Court, Sgeti (tri bloc); Rheidol Court, y Clâs (un bloc).
  • Cafodd pob un ei adeiladu ym 1963-64.
  • Mae gan ddau floc dros 11 o loriau; nid oes cladin ar y naill na'r llall. Mae gan naw bloc lai nag 11 o loriau; nid oes cladin ar ddau ohonynt.
  • Nid ydym wedi defnyddio unrhyw gynnyrch ACM â'r craidd polyethelen mwy fflamadwy, ac mae'r holl systemau cladin wedi'u cydnabod yn rhai mwy diogel gan arbenigwyr diogelwch tân.
  • Mae prosiectau presennol a'r rhai a gwblhawyd yn ein blociau wedi defnyddio cladin a fframiau gosod nad ydynt yn llosgadwy. Maent yn destun archwiliad manwl a chymeradwyaeth.
  • Fflatiau uchel sy'n eiddo i Gyngor Abertawe (Word doc) [23KB]

Nodweddion diogelwch tân

  • Mae gan bob fflat synwyryddion mwg gwifredig sy'n cael eu profi'n flynyddol fel rhan o'n harchwiliad gwasanaeth nwy.
  • Mae gan bob fflat ac ardal gymunedol ddrws tân gwrthsafol gradd FD60 un awr.
  • Mae pibelli codi sych - pibelli integredig sy'n gallu bwydo symiau mawr o ddŵr i bob llawr os bydd tân - wedi'u gosod ym mhob tŵr. Mae hyn yn golygu bod gan ymladdwyr tân fynediad i'r dŵr y mae ei angen arnynt i gyrraedd pob eiddo os bydd digwyddiad.
  • Mae bylchau tân wedi'u gosod yno; Mae'r rhain yn lleihau'r perygl o dân yn lledaenu.

Cyngor diogelwch tân a roddir i'n tenantiaid

  • Os oes tân yn eich fflat:
    • rhybuddiwch bawb yn eich fflat i'w gadael.
    • caewch y drws ar eich ôl.
    • ewch i lawr y grisiau - peidiwch byth â defnyddio'r lifftiau.
    • pan fyddwch y tu allan, ffoniwch 999 a gofynnwch am y gwasanaeth tân.
  • Os oes tân yn rhywle arall yn eich bloc:
    • rydych yn ddiogel i aros yn eich fflat a derbyn cyngor ac arweiniad gan y gwasanaeth tân
    • fodd bynnag, os ydych yn teimlo dan fygythiad - neu os yw'ch larwm tân yn seinio - gadewch y bloc.
    • mae'r polisi "aros yn yr unfan" yn cael ei weithredu gan bob un o'n blociau uchel. Rydym wedi cadarnhau gyda'r gwasanaeth tân fod hyn yn briodol oherwydd y safonau diogelwch tân uchel yn ein fflatiau.
  • Cyngor ar ddiogelwch tân i denantiaid y cyngor

Prosesau diogelwch tân

Ein gwaith presennol

  • Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r gwasanaeth tân i adolygu diogelwch a byddwn yn ystyried y gwersi a ddysgwyd o drychineb Tŵr Grenfell.
  • Byddwn yn gwneud ein gorau glas i gadw tenantiaid yn ddiogel a rhoi gwybodaeth iddynt - mae ymrwymiad i osod systemau taenellu dŵr ym mhob bloc yn gadarnhad o hyn.
  • Rydym yn ceisio rhoi cymaint o wybodaeth â phosib i'r cyhoedd mewn ffordd ragweithiol i'w galluogi i ddeall y sefyllfa o ran systemau cladin a diogelwch yn Abertawe.
  • Mae'r systemau taenellu yn Jeffreys Court a'r 2 floc fflatiau ar Stryd Matthew ynghyd â'r ardaloedd cymdeithasol bellach yn gweithio'n iawn. Mae gwaith wedi dechrau ar y systemau taenellu yn Clyne Court ac mae'r gwaith ar floc 1 bron wedi'i gwblhau.

Ysgolion

  • Cynhelir archwiliadau diogelwch tân gan yr ysgol unigol a bydd ysgolion unigol yn cadw cofnodion o'r archwiliadau hyn. Gan fod ysgolion eu hunain yn rheolwyr data, rhaid anfon unrhyw gais am wybodaeth i'r ysgol.
  • Dod o hyd i fanylion cyswllt yr ysgol
Close Dewis iaith