
Bwyd a thyfu
Rydym am i bawb yn Abertawe gael y cyfle, y gallu a'r hyder i gael deiet iachus ac addas.
Rydym yn gweithio mewn cymunedau i gynyddu mynediad i fwyd iach a fforddiadwy. Mae hyn yn cynnwys cynyddu swm yr eitemau bwyd iach a fforddiadwy sydd ar gael yn y gymuned, trosglwyddo'r wybodaeth a'r sgiliau i siopa a choginio ar gyllideb a darparu cyfleoedd i 'dyfu eich bwyd eich hun'.
Tyfu Cymunedol
Mae annog pobl i dyfu eu bwyd eu hunain yn eu helpu i fyw bywydau iach a chynaliadwy. Rydym yn gweithio i gynyddu nifer y lleoedd tyfu sydd ar gael i gymunedau ac yn edrych ar ardaloedd lle nad oes unrhyw fannau tyfu neu maent yn brin.
Os oes diddordeb gennych mewn sefydlu prosiect tyfu cymunedol gallwn ddarparu mwy o arweiniad a chynnig arian drwy ein grantiau .
Rhwydwaith Tyfu Cymunedol Abertawe
Nod rhwydwaith tyfu cymunedol Abertawe yw hyrwyddo a chefnogi tyfu cymunedol yn Abertawe: i wella hunangynhaliaeth, sicrwydd bwyd, mynediad i gynnyrch iach, fforddiadwy, cydlyniant a gwydnwch cymunedol.