Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gweithio Abertawe - Arweiniad llwyfannau cyfryngau cymdeithasol a phroffesiynol

Mae creu argraff dda ar ddarpar gyflogwyr yn cynnwys bod yn broffesiynol o ran eich presenoldeb ar-lein, fel cyfryngau cymdeithasol.

  • Beth yw llwyfannau proffesiynol?
  • Beth yw llwyfannau cymdeithasol?
  • Sut ydw i'n sicrhau bod fy nhudalen cyfryngau cymdeithasol yn gosod y naws gywir?

Ystyrir unrhyw wefan, dudalen neu ap ar-lein y gellir eu gweld gan gynulleidfa yn llwyfan cyfryngau cymdeithasol. Gallai hyn fod yn wefan neu'n dudalen rydych chi wedi'u sefydlu gydag un o'r prif lwyfannau cyfryngau isod. Gwiriwch nifer y defnyddwyr sydd wedi'u cofrestru i ddefnyddio pob llwyfan.

Social media platforms

Facebook

2,500,000,000

YouTube

2,000,000,000

Instagram

1,000,000,000

Twitter

330,000,000

Pinterest

200,000,000

LinkedIn

106,000,000

Mae'r gwahaniaeth rhwng llwyfannau cymdeithasol a phroffesiynol yn llinell aneglur i lawer. Os ydych yn ystyried eich hun yn berson proffesiynol, efallai bydd angen i chi ymddwyn yn yr un modd ar-lein. Meddyliwch yn strategol.

Gall cymdeithas fod yn anfaddeugar iawn yn anffodus.

Bydd rhai cyflogwyr yn edrych ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol cyn cynnig swydd i chi, felly cofiwch hyn a gofynnwch i chi'ch hun, ydy fy mhresenoldeb ar-lein yn fy adlewyrchu mewn golau da?

Mae angen i bobl sydd am weithio yn y maes Gwasanaeth Cyhoeddus neu mewn swydd gyfrifol (Heddwas, er enghraifft), ystyried effaith bosib gweithgarwch ar-lein ar eu swyddi.

Nid ydym yn gyfrifol am y ffordd y mae pobl yn dehongli pyst ar-lein, ond mae defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn gyfrifol yn dangos i gyflogwyr posib y gallant ymddiried ynom.

 

Meddyliwch am y gwerthoedd rydych yn eu dewis wrth symud ymlaen gan mai'r gwerthoedd hyn fydd yn eich diffinio.

Mae gofalu am eich diogelwch eich hun ar-lein hefyd yn hanfodol er mwyn osgoi twyllwyr. Cadwch yn ddiogel drwy gymryd cip ar: https://www.ageuk.org.uk/internet-security 

Bydd pobl yn cael eu denu i'ch tudalen gyfryngau gan eich gallu creadigol unigryw, eich sgiliau dylunio eithriadol a'ch cynnwys cyffredinol. Defnyddiwch eich tudalen i ddenu sylw'r rheini rydych yn eu targedu drwy fod yn ymwybodol o anghenion eich cynulleidfa ac ysbrydolwch nhw fel eu bod eisiau eich cynnyrch, neu eisiau gwella eu hunain. Ceisiwch osgoi ymddangos yn anobeithiol neu'n gamarweiniol os ydych chi'n ceisio gwerthu cynnyrch. Dylai pobl allu gweld y gwerth a dehongli'r hyn rydych chi'n ei ddweud yn glir.

Bydd deall angen eich cynulleidfa caniatáu i chi ei harwain i'r cyfeiriad cywir.

Dylai'r cynnwys ganolbwyntio ar negeseuon cadarnhaol ac annog eraill i weld pwyslais a gwerth yn eich gwaith.

Close Dewis iaith