Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cynnal coed - arweiniad i berchnogion cartrefi a pherchnogion tir

Cyngor sylfaenol ac ymarferol ar yr ymholiadau mwyaf cyffredin a geir gan arddwyr, perchnogion cartrefi a pherchnogion tir yn ymwneud â choed a phlanhigion prennaidd tebyg.

Yn achos materion cymhleth neu os nad eir i'r afael â nhw isod, rydym yn eich cynghori'n gryf i geisio cyngor cyfreithiol proffesiynol. 

Ar y dudalen hon:

Gweler hefyd:

 

Problemau'n ymwneud â ffiniau a golau

Pwy sy'n berchen ar goeden sy'n tyfu ar ffin?

Os yw gwaelod coeden yn sefyll ar y llinell derfyn rhwng dau eiddo, mae'r ddau yn cyd-berchen arni (maent yn cael eu hystyried yn denantiaid ar y cyd). Pe bai un perchennog yn torri'r goeden gyfan heb ganiatâd y perchennog arall, byddai hynny'n ei wneud yn atebol (gan fod hyn yn gyfystyr â thresmasu). Dylid hefyd ofyn am ganiatâd gan y perchennog arall cyn y gwneir gwaith ar y goeden. Bydd syrfëwr yn gallu asesu os oes unrhyw amheuaeth ynghylch ar dir pwy y mae'r goeden yn sefyll.

Pwy sy'n berchen ar blanhigyn dringol sy'n tyfu i fyny wal derfyn?

Mae planhigyn dringol yn berchen i berchennog y pridd y mae'n tyfu ynddo, nid perchennog yr adeilad y mae'n tyfu i fyny. Fodd bynnag, gall perchennog yr eiddo ei dynnu o'r wal heb ganiatâd, ar yr amod nad yw'n ei balu i'r wyneb na'i ddinistrio (naill ai'n fwriadol neu'n anfwriadol).

A oes cyfyngiadau ar yr hyn y gallaf ei blannu yn fy ngardd a ble?

Nac oes. Mae gennych yr hawl i blannu'r hyn rydych ei eisiau, ble rydych ei eisiau yn eich eiddo. Fodd bynnag, mae'n synhwyrol ac yn gymwynasgar ystyried canlyniadau plannu coed neu berthi a allai fod yn fawr yn agos at derfyn a gwneud penderfyniadau plannu i leihau effaith negyddol. Yn y pen draw, byddwch yn dal i fod yn atebol am unrhyw ddifrod a achosir ganddynt.

Beth gallaf ei wneud os bydd coeden cymydog yn rhwystro fy ngolau?

Mae Deddf Hawliau Golau 1959 yn nodi, os yw eiddo wedi cael golau dydd am yr 20 mlynedd diwethaf (y cyfnod penodedig lleiaf), y gallai fod ganddo hawl i barhau i dderbyn y golau hwnnw. Mae hyn yn golygu, os bydd eich cymydog yn adeiladu ffens fawr sy'n cyfyngu ar olau dydd eich eiddo (er enghraifft drwy rwystro golau dydd rhag cyrraedd ffenestr), efallai y gallwch wneud cais i'r llysoedd i adfer eich golau dydd, neu ar gyfer gwaharddeb er mwyn atal ffens arfaethedig rhag cael ei hadeiladu. Mewn theori, gellir gwneud yr un achos ar gyfer coed mawr sy'n atal golau ond anaml y bydd coed yn gysylltiedig am eu bod yn tyfu'n araf ac mae'n anodd bod yn fanwl gywir ynghylch pryd collwyd y golau.

Gallai coed sy'n cyfyngu ar olau sy'n dod o fewn telerau Rhan 8 Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (sy'n ymwneud â gwrychoedd uchel) gael eu herio ar y sail hon yn hytrach na'r Ddeddf Hawliau Golau.

Ym mhob achos arall, nid oes 'hawl i olau' cynhenid mewn perthynas â choed neu berthi.

Canghennau

Alla' i dorri canghennau bargodol?

Gallwch, ar yr amod ei fod yn cael ei wneud heb dresmasu ar eiddo'r person arall. Caniateir dringo i mewn i'r goeden hefyd i wneud y gwaith, unwaith eto ar yr amod nad oes angen mynd i mewn i ardd/dir y cymydog. Sylwer y bydd angen caniatâd ymlaen llaw gennym ni ar gyfer coed sy'n dod dan Orchymyn Cadw Coed (GCC) neu sydd mewn Ardal Gadwraeth.

A oes rhaid i mi gael caniatâd gan fy nghymydog neu roi rhybudd iddo fy mod am dorri'r canghennau bargodol?

Nac oes. Mae eich gweithredoedd yn cael eu hystyried yn 'atal niwsans' nad oes angen caniatâd ar eu cyfer. Byddai angen caniatâd mewn sefyllfaoedd lle mae angen mynediad i'w dir yn unig i ymgymryd â'r gwaith. Yn yr un modd, mae angen caniatâd ymlaen llaw gennym ni ar gyfer coed sydd â GCC neu sydd mewn Ardal Gadwraeth.

Beth ydw i'n ei wneud gyda'r toriadau coed?

Unwaith y bydd canghennau wedi cael eu torri, dylid eu cynnig yn ôl i berchennog y goeden. Os nad yw'r perchennog am eu cael yna chi fydd yn gyfrifol am gael gwared ar y toriadau coed; ni allwch eu taflu dros y terfyn i ardd eich cymydog.

Alla' i dorri'n ôl ymhellach na'r terfyn i atal aildyfiant rhag achosi problem?

Na allwch.

Beth os bydd fy nghymydog yn cwyno am sut olwg sydd ar y goeden ar ôl i mi dorri'r canghennau sy'n tyfu dros y terfyn?

Nid oes ganddo unrhyw hawl gyfreithiol ond er budd perthnasoedd cymdogol da gallech ystyried opsiynau ar gyfer cyfaddawdu, fel rhannu cost meddyg coed i greu canopi cytbwys.

Ydw i'n atebol os ydw i'n achosi difrod i goeden cymydog o ganlyniad?

Ydych. Yn ôl y gyfraith, byddech yn cael eich ystyried yn esgeulus. Weithiau gall torri canghennau arwain at fethiant coed oherwydd clefyd, newid yng nghydbwysedd y goeden, neu lwyth gwynt gwahanol sy'n peri i'r goeden chwythu drosodd. Am y rhesymau hyn, mae'n bwysig cyflogi meddyg coed neu dyfwr coed cymwys a allai leihau risg ac a fyddai'n ysgwyddo'r atebolrwydd am y gwaith (gwiriwch fod ganddo yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyn eich bod yn trefnu iddo wneud y gwaith).

Ffrwythau

A allaf gasglu a chadw'r ffrwythau o ganghennau bargodol?

Na allwch, nid heb ganiatâd y perchennog.

Alla' i gasglu ffrwythau cwympedig o goeden cymydog sy'n bargodi fy ngardd?

Na allwch, nid heb eu caniatâd. Mae ffrwythau cwympedig yn dal i berthyn i'r perchennog.

Mae ffrwythau cwympedig o goed sy'n dwyn ffrwyth mewn man cyhoeddus neu ar dir comin yn iawn i'w fforio'n amlach na pheidio. Os oes gennych unrhyw amheuaeth, gwiriwch i weld pwy sy'n berchen ar y tir a gofynnwch am ganiatâd yn gyntaf.

Beth am atebolrwydd am ffrwythau, hadau neu ddail gwenwynig?

Bydd perchennog y goeden (neu'r berth) yn atebol am ddifrod a achosir gan ffrwythau, hadau neu ddeiliach ond dim ond os yw'n bargodi'r terfyn.

Dail

Alla' i ddweud wrth fy nghymydog am ddod draw ac ysgubo'r dail o'i goeden fargodol?

Na allwch. Nid oes rheidrwydd ar berchennog coeden i glirio dail sydd wedi cwympo. Yr eithriad yw os bydd difrod yn digwydd o ganlyniad iddo (e.e. draeniau blociedig) ac os felly, fe'ch cynghorir i hysbysu perchennog y goeden trwy lythyr.

Gwreiddiau

Alla' i dorri gwreiddiau sy'n tyfu i mewn i'm heiddo?

Gallwch. Mae gennych yr un hawliau (a rhwymedigaethau) ag ar gyfer torri canghennau. Mae angen caniatâd ymlaen llaw gennym ni os oes gan y goeden GCC neu os ydyw mewn Ardal Gadwraeth.

Beth os yw'r goeden yn syrthio ar ôl i mi dorri'r gwreiddiau?

Yn ogystal â hawliau, mae gennych yr un rhwymedigaethau ar gyfer torri canghennau. Felly, er enghraifft, os yw'r goeden wedi'i gwanhau ac yn syrthio o ganlyniad i'r ffaith eich bod wedi torri drwy wreiddiau coed eich cymydog, byddech yn atebol am unrhyw ddifrod y mae'n ei achosi. Felly mae'n bwysig ymarfer gofal rhesymol cyn torri unrhyw wreiddiau coed a chael cyngor proffesiynol ar gyfer unrhyw beth ond y gwaith lleiaf.

Yswiriant ac atebolrwydd

A yw difrod o goed yn dod dan fy yswiriant cartref?

Bydd rhai yswirwyr yn gofyn pa mor bell i ffwrdd yw'r coed o'ch cartref, ac mae'n bwysig gwirio amodau a thelerau eich polisi i weld beth yw sefyllfa'r yswiriwr tuag at goed. Yn gyffredinol, mae polisïau yswiriant cartref, fel arfer, yn cwmpasu difrod i dai (eich cartref chi neu gartref eich cymydog) a achosir gan goed a changhennau sy'n cwympo, ond gwiriwch eiriad eich yswiriant ar gyfer unrhyw eithriadau.

Rhywbeth sy'n gallu bod yn fwy problematig yw'r rhan o'r goeden na allwch ei gweld - y gwreiddiau sy'n tyfu o dan y ddaear. Gofynnir i chi, hyd eithaf eich gwybodaeth, a effeithiwyd ar yr eiddo erioed gan ymsuddiant, tirlithriad, gwthiad, neu ddifrod gwreiddiau coed.

Beth sy'n digwydd os bydd coeden yn achosi difrod i eiddo drwy ymsuddiant ond nad oedd yr adeiladwr wedi cloddio'r sylfeini'n ddigon dwfn?

Dylai adeiladwyr fod yn ymwybodol o goed sy'n bodoli eisoes ac mae canllawiau cenedlaethol sy'n cynghori ar ddyfnder y sylfeini. Fodd bynnag, fe'i hystyrir fel arfer fel bai'r goeden am gael gwreiddiau sy'n tresmasu. Yn ffodus, mae gan Reoliadau Adeiladu modern systemau diogelu eiddo gwell ar waith felly mae achosion o ymsuddiant sy'n gysylltiedig â choed ar gartrefi newydd yn brin iawn.

Alla' i ddadlau nad oeddwn yn plannu'r goeden ac felly nad wyf yn gyfrifol amdani?

Na allwch, nid os ydych chi'n berchen ar y tir y mae'r goeden yn tyfu arno. Ni waeth pwy blannodd y goeden. Hyd yn oed pe bai wedi cael ei phlannu gan berchennog blaenorol neu'n hunanheuedig, y perchennog tir presennol sy'n atebol am y goeden.

Os yw fy nghoeden yn achosi difrod, alla' i gael fy erlyn neu a yw'r cyfan yn 'waith Duw?'

Mae gan berchennog coed ddyletswydd gofal cyffredinol i beidio ag anafu ei gymydog. Gall perchennog fod yn atebol o ran esgeulustod os:

  • oes cangen yn cwympo o'r goeden 
  • mai canlyniad hyn yw anaf neu niwed
  • oedd yr anaf neu'r niwed yn rhagweladwy
  • oedd y person a anafwyd neu a gafodd ei niweidio'n rhywun yr oedd gan y perchennog ddyletswydd gofal amdano
  • oedd yr anaf neu'r niwed yn torri'r ddyletswydd honno

Beth petawn i wedi cael gwybod bod y goeden yn beryglus ac na wnes i unrhyw beth ynghylch y peth?

Byddech yn atebol pe na baech yn cymryd y camau gweithredu angenrheidiol ar ôl archwiliad (gweler rhagor o wybodaeth ac argymhellion ynghylch archwilio coed).

Onid yw'r cyngor yn gofalu am goed sy'n bargodi'r briffordd?

Nac ydyn, dim ond os yw'r coed yn tyfu ar dir y cyngor. Os yw'r goeden ar dir preifat yna'r perchennog tir sy'n gyfrifol.

Gallwn ni, neu'r Asiantaeth Priffyrdd, gyflwyno hysbysiad i berchennog y goeden i'w gwneud yn ofynnol i berthi neu goed, sy'n amharu ar balmentydd neu ffyrdd, gael eu clirio'n ddigonol. Os nad yw'r perchennog yn ymgymryd â'r gwaith, gall yr awdurdod wneud hyn ac yna anfon bil at y perchennog.

Mae gan gwmnïau cebl (e.e. trydan) yr hawl i gadw ceblau gwasanaeth cyhoeddus yn glir ond dylent gyflwyno hysbysiad cyn gwneud y gwaith.

Pa gyfrifoldebau sydd gennyf o ran bywyd gwyllt a choed?

Mae Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 yn berthnasol, o ystyried ei bod yn drosedd difrodi neu ddinistrio clwydi ystlumod a nyth unrhyw aderyn gwyllt tra'i fod yn cael ei ddefnyddio neu'n cael ei adeiladu. Ceisiwch osgoi gwneud gwaith coed ar rai adegau o'r flwyddyn ac archwiliwch hen goed am graciau a thyllau cyn gwneud unrhyw waith coed, neu tynnwch nhw i sylw'r meddyg coed cyn iddo ddechrau ar y gwaith.

Rhagor o wybodaeth ac argymhellion

Archwilio coed

Nid oes unrhyw beth wedi'i nodi ynghylch pa mor aml y dylid archwilio coeden. Fodd bynnag, os ydych yn berchen ar goeden ac yn peidio â'i harchwilio, ystyrir eich bod yn esgeulus pe bai rhywbeth yn digwydd. Yn yr un modd, yn ôl y gyfraith os yw'n amlwg i leygwr fod rhywbeth o'i le ar goeden ac nad yw'n gwneud unrhyw beth yn ei gylch, yna mae'n esgeulus. Mae'n arbennig o bwysig archwilio coed ar ôl gwyntoedd cryfion.

Gall perchennog y goeden wneud archwiliad. Mae 'Common sense risk assessment of trees' y National Tree Safety Group (Ymchwil y Comisiwn Coedwigaeth) (Yn agor ffenestr newydd) yn lle da i ddod o hyd i wybodaeth. Fodd bynnag, ar gyfer coed mewn ardaloedd risg uchel (e.e. bargodi llwybr troed cyhoeddus) neu lle mae unrhyw bryder ynghylch diogelwch coeden, mae'n well cael archwiliad proffesiynol (gweler isod).

Defnyddio gweithwyr proffesiynol

Mae'n bwysig cyflogi meddyg coed neu dyfwr coed proffesiynol ar gyfer unrhyw beth ond y gwaith coed lleiaf (h.y. y gellir ei wneud gyda llawlif). Mae gan The Arboricultural Association (Yn agor ffenestr newydd) gyfeirlyfr o aelodau.

Os ydych yn cyflogi meddyg coed neu ymgynghorydd coedyddiaeth nad yw'n aelod o gorff proffesiynol, dylech ofyn, yn ddelfrydol, am sicrwydd bod ganddynt:

  • yswiriant indemniad proffesiynol
  • yswiriant atebolrwydd cyhoeddus
  • cymhwyster coedyddiaeth lefel 3

Penderfynwch a oes angen ymgynghorydd neu gontractwr arnoch (gall 'meddyg coed' fod y naill neu'r llall neu'r ddau). Bydd ymgynghorydd yn rhoi cyngor proffesiynol ar iechyd a diogelwch coeden, ar yr effaith bosib ar unrhyw adeiladau arfaethedig neu adeiladau sy'n bodoli eisoes neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â choed gan gynnwys Gorchmynion Cadw Coed a rheoliadau cynllunio. Fel arfer, bydd contractwr yn gwneud gwaith tocio, clymu, plannu a gweithrediadau cymynu coed ac yn gallu adnabod a rheoli plâu a chlefydau coed (lle y bo'n ymarferol).

Ac os ydych yn dymuno iddo ddarparu archwiliad coeden llawn, gwiriwch fod ganddo gymhwyster hyfforddiant Archwiliad Coed Proffesiynol Lantra. Bydd adroddiad ysgrifenedig yn cael ei anfon at y perchennog a ddylai wedyn wneud unrhyw waith a argymhellir.

Close Dewis iaith