Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2023 / 2024

Rydym bellach yn gwahodd ceisiadau ar gyfer Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2023 / 2024.

Rydym yn chwilio am geisiadau gan ddarparwyr newydd a phresennol sydd wedi ymrwymo i greu a / neu gynnal cyfleoedd gofal plant a chwarae o ansawdd uchel ar draws Abertawe.

Gwybodaeth am y gronfa

Mae Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2023 / 2024 yn gronfa sefydledig sy'n ceisio creu, cefnogi a chynnal cyfleoedd gofal plant a chwarae yn Abertawe. Mae ar agor drwy gydol y flwyddyn i ddarparwyr cofrestredig ac anghofrestredig.

Argaeledd cyllid

Gellir gwneud cais am uchafswm o £5,000 ar gyfer unrhyw gais (gwarchodwyr plant £2,000). Dan amgylchiadau eithriadol yn unig y dyfernir symiau dros y swm hwn mewn unrhyw flwyddyn ariannol. Rhaid i'r cyllid a ddyfarnwyd gael ei wario erbyn 31 Mawrth 2024. Mae swm cyfyngedig o gyllid ar gael. Nid yw ceisiadau wedi'u gwarantu a chânt eu blaenoriaethu yn erbyn meini prawf yn unol ag Arweiniad Cronfa Plant a Phobl Ifanc 2023 / 2024.

 

Gallwch e-bosio'r tîm yn grantiaugofalplantachwarae@abertawe.gov.uk am ragor o wybodaeth am y broses ymgeisio.

Mae staff hefyd ar gael dros y ffôn.

Stephen Cable, Rheolwr Digonolrwydd Gofal Plant a Chwarae: 07919 626728

Ruth James, Swyddog Cyswllt Lleoliadau'r Blynyddoedd Cynnar: 07554 554768

Close Dewis iaith