Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cwestiynau cyffredin am drwyddedu tacsis

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am drwyddedu tacsis.

Faint o drwyddedau tacsis mae'r cyngor wedi'u rhoi eleni? (cywir ar Mai 2023)

Rydym ni'n dosbarthu trwydded/bathodynnau deuol yn ddyddiol, ac felly, cyfanswm amcangyfrifiedig y gyrwyr sydd wedi'u trwyddedu ar hyn o bryd yw 1511. Amcangyfrif yw'r ffigurau hyn:

  • Cerbydau Hacni - 361
  • Cerbydau Hurio Preifat - 645
  • Gweithredwr Hurio Preifat - 46
  • Nifer y gyrwyr y rhoddwyd bathodynnau deuol iddynt - 978
Tacsis sy'n addas i gadeiriau olwyn (cywir ar Ebrill 2023)
 Nifer y tacsis sy'n addas i gadeiriau olwynCyfanswm nifer y tacsisCanran y rheini sy'n addas i gadeiriau olwyn
Cerbydau hacni25636171%
Hurio preifat166452%

A yw'r cyngor yn rhannu/dilysu unrhyw wybodaeth a roddir fel rhan o'r broses hon â phartïon allanol heblaw am yr ymgeisydd?

Gall wybodaeth a roddir fel rhan o'r broses cyflwyno cais gael ei dilysu gyda'r Swyddfa Gartref lle bo angen. Gellir rhannu'r wybodaeth ag asiantaethau eraill ac fel rhan o geisiadau Rhyddid Gwybodaeth lle bo'n berthnasol.

Sut mae'r wybodaeth a roddir wrth wneud cais yn cael ei chadw (ac am ba hyd) ar ôl i gais gael ei brosesu?

Mae gwybodaeth a roddir wrth wneud cais am drwydded yn cael ei chadw'n electronig ac ar bapur. Caiff ei chadw am 7 mlynedd ar ôl i gais gael ei gwblhau fel arfer. Fodd bynnag, gellir cadw manylion am gyfnod o 25 mlynedd yn dibynnu ar y cais a dderbynnir. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch ar y mater hwn, cysylltwch â ni.

Faint o arian mae'r cyngor wedi'i dderbyn gan yrwyr tacsi?

Gellir dod o hyd i gyfrifon cyhoeddus ar gyfer trwyddedu tacsis, am sawl blwyddyn ariannol, ar y dudalen  Datganiad o Gyfrifon.

Close Dewis iaith