Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am wastraff masnachol

Cwestiynau cyffredin am ein gwasanaethau gwastraff masnachol ac ailgylchu.

Beth yw gwastraff masnachol?

Mae gwastraff masnachol yn cynnwys gwastraff o adeiladau sy'n cael eu defnyddio'n bennaf neu'n gyfan gwbl ar gyfer masnach neu fusnes, neu ar gyfer chwaraeon, hamdden, addysg neu adloniant, ond nid yw'n cynnwys gwastraff cartref, amaethyddol neu ddiwydiannol.

Beth yw gwastraff cyffredinol?

Unrhyw eitemau nad oes modd eu hailgylchu (gweler y ddolen) ond ac eithrio: Ystyrir bod yr eitemau canlynol yn wastraff peryglus - bylbiau golau, batris cerbydau, asbestos, oergelloedd, paent, rhewgelloedd, teiars, teledu/monitorau, poteli nwy, plastrfwrdd, tiwbiau fflworoleuol, olew coginio, olew peiriannau, cynnyrch anifeiliaid ac unrhyw wastraff peryglus o unrhyw fath.

Ni allwn gasglu'r eitemau hyn. Bydd angen gwneud trefniadau arbennig i gael gwared ar yr eitemau hyn.

Pam nad yw cost casglu gwastraff masnachol wedi'i chynnwys mewn ardrethi busnes?

Nid yw taliadau gwastraff wedi'u cynnwys am fod gennych ddewis o ddefnyddio'n gwasanaethau casglu ni neu ddefnyddio gwasanaeth wedi'i ddarparu gan gontractwr preifat awdurdodedig. Mae busnesau'n amrywio o ran maint ac yn cynhyrchu symiau a mathau gwahanol o wastraff. Oherwydd codir tâl ar fusnesau am swm y gwastraff maent yn ei gynhyrchu, byddai'n annheg pennu swm penodol y mae'n rhaid i bob busnes ei dalu. Felly, nid yw taliadau gwastraff yn cael eu cynnwys yn ein system ardrethi busnes.

 phwy mae angen i mi gysylltu i wneud newidiadau i'm gwasanaeth?

Cysylltwch â'r tîm gwastraff masnachol ac ailgylchu i wneud newidiadau i'ch gwasanaeth. 

Beth yw nodyn dyletswydd gofal/trosglwyddo gwastraff a pham mae angen un arnom ni?

Mae gan bob busnes, bach neu fawr, ddyletswydd gofal i sicrhau bod ei wastraff yn cael ei waredu yn gywir. Mae'r ddyletswydd hon wedi ei gorfodi gan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Adran 33). Yn fyr, y ddyletswydd yw sicrhau nad yw'r gwastraff yn llygru'r amgylchedd. Y masnachwr sy'n gyfrifol am sicrhau bod y gwastraff mewn cynhwysydd, ddim yn chwythu o gwmpas a bod 'cludwr gwastraff' ardystiedig yn casglu'r gwastraff. Bydd rhaid i'r cludwr roi nodyn trosglwyddo gwastraff i chi yn nodi natur y gwastraff, swm y gwastraff a sut cafwyd gwared arno.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am eich dyletswydd gofal a sut gallwch gydymffurfio yn hawdd ar wefan Right Waste, Right Place (Yn agor ffenestr newydd).

Pam oes rhaid i mi gwblhau cytundeb?

Os ydych yn penderfynnu defnyddio Dinas a Sir Abertawe fel eich 'cludwr gwastraff' bydd rhaid i chi lofnodi contract.

Mae'r contract yn gytundeb rhwng Dinas a Sir Abertawe a pherchennog y busnes i gasglu gwastraff o'r adeilad. Mae'r contract yn amlinellu cytundeb y perchennog i dalu'r symiau perthnasol fel y nodir yn y cais a'r amodau a thelerau.

Oes rhaid i mi adnewyddu fy nghontract bob blwyddyn? 

Nac oes. Mae'ch contract yn parhau nes byddwch yn ysgrifennu atom i ddweud eich bod chi am ganslo. Gellir gwneud hyn drwy e-bost, trwy ffacs neu trwy'r post.

Mae fy nhaliadau wedi cynyddu. Pam?

Rydym fel arfer yn cynyddu'r costau ym mis Ebrill yn unol â chwyddiant a chyfraddau gwaredu. Nid ydym yn dweud wrth gwsmeriaid am y cynnydd mewn prisiau cyn eu hanfonebu. Os hoffech wybod y prisiau, cysylltwch â ni.

Beth dylwn i ei wneud os yw fy nghasgliad yn cael ei fethu?

Weithiau, gall casgliad cael ei fethu oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i'n rheolaeth. Os yw hyn yn digwydd, cysylltwch â'r tîm gwastraff masnachol. Byddwn yn ceisio casglu eich gwastraff cyn gynted â phosib.

Pryd mae fy niwrnod casglu?

Mae criwiau gwahanol yn gyfrifol am gasglu eich gwastraff cyffredinol a'ch ailgylchu. I ganfod eich diwrnod casglu, cysylltwch â'r tîm gwastraff masnacholBydd eich diwrnod casglu hefyd yn cael ei roi ar eich cytundeb.

A fydd fy nyddiau casglu yr un peth bob amser?

Mae'r cyngor yn cadw'r hawl i newid dyddiau'r gwasanaeth i ddiwallu anghenion gweithredol. Lle bo'n bosib bydd y cwsmer yn cael ei hysbysu ymlaen llaw.

Alla i fynd â'm gwastraff i'r canolfannau ailgylchu gwastraff cartref?

Nid yw'n bosib cludo gwastraff oni bai eich bod yn gludwr gwastraff trwyddedig. Os hoffech gael trwydded cludo gwastraff cysylltwch ag Asiantaeth yr Amgylchedd. Gellir defnyddio'r canolfannau ailgylchu gwastraff cartref ar gyfer cael gwared ar wastraff domestig yn unig ac nid gwastraff masnachol. Os darganfyddir bod busnes yn cludo gwastraff heb y dogfennau perthnasol, neu yn defnyddio canolfannau ailgylchu gwastraff cartref gellir eu dirwyo a'u herlyn.

Pam na allaf losgi fy ngwastraff?

Trwy losgi gwastraff gallwch fod yn torri'r gyfraith a hefyd lygru'r amgylchedd.

Close Dewis iaith