Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Canllaw i PCNau (hysbysiadau o dâl cosb)

Bydd y canllaw hwn yn rhoi mwy o fanylion i chi am y gwahanol daliadau a p'un a allwch herio'ch PCN.

Unwaith y byddwch yn gwybod y rheoliad a dorrwyd gennych, byddwch yn gallu gwneud y penderfyniad i herio'r ddirwy. Dylid nodi mai canllaw yn unig yw hwn a bod pob her yn cael ei hystyried ar ei rhinweddau unigol.

Os talwch eich dirwy, caiff eich achos apêl ei gau, felly peidiwch â gwneud unrhyw daliad nes bod eich apêl wedi'i hystyried. Pan heriwch eich hysbysiad tâl cosb, caiff ei ohirio ac ni fydd y swm yn cynyddu. Ein nod yw ymateb i bob her o fewn 28 diwrnod.

Sylwer mai dim ond heriau gan y ceidwad cofrestredig y gallwn eu derbyn.

Mae'r cod tramgwyddo yn ymddangos ar y hysbysiad tâl cosb a roddwyd i'ch cerbyd. Mae'r tudalennau isod yn egluro beth yw pob tramgwydd ac yn rhoi arweiniad ar herio'r hysbysiad.

Close Dewis iaith