Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyllid a budd-daliadau i ofalwyr

Nid yw'n anghyffredin i ofalwyr gael anawsterau ariannol. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, mae nifer o fudd-daliadau y gallen nhw a'r rhai maen nhw'n gofalu amdanyn nhw eu hawlio.

Mae gan yr Ymddiriedolaeth Gofalwyr a Carers UK wybodaeth ddefnyddiol (yn Saesneg) am gyllid a budd-daliadau ar eu gwefannau.

Gall Canolfan gofalwyr Abertawe roi cyngor ar fudd-daliadau i ofalwyr.  Bydd angen i chi wneud apwyntiad ymlaen llaw.

Mae sefydliadau eraill yn Abertawe sy'n rhoi cyngor ar fudd-daliadau'n cynnwys: Age Cymru Gorllewin Morgannwg, Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot a Yr Uned Cefnogi Tenantiaid.

Lwfans Gofalwyr

Os ydych yn treulio o leiaf 35 awr yr wythnos yn gofalu am rywun â salwch neu anabledd, efallai y byddwch yn gymwys i gael arian ychwanegol o Lwfans Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).

Gallwch gael £76.75 yr wythnos os ydych yn gofalu am rywun eraill am o leiaf 35 awr yr wythnos ac maent yn cael budd-daliadau penodol.

  • Nid oes rhaid i chi fod yn perthyn i, neu'n byw gyda'r person rydych yn gofalu amdano.
  • Ni chewch fwy o dâl os ydych yn gofalu am fwy nag un person.
  • Os yw rhywun arall hefyd yn gofalu am yr un person â chi, dim ond un ohonoch gaiff hawlio Lwfans Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).

Gall Lwfans Gofalwr effeithio ar y budd-daliadau rydych chi a'r person rydych yn gofalu amdano yn eu cael. Mae rhaid i chi dalu treth arno os yw eich incwm dros y Lwfans Personol.

Gall gofalwyr bellach gyflwyno cais am Lwfans Gofalwyr, neu adrodd am newid mewn amgylchiadau ar-lein gan ddefnyddio Gwasanaeth Digidol y Lwfan Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).

Credyd Gofalwyr

Mae Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd) yn gredyd Yswiriant Gwladol sy'n helpu i lenwi'r gwagleoedd yn eich cofnod Yswiriant Gwladol. Mae eich Pensiwn y Wladwriaeth yn seiliedig ar eich cofnod Yswiriant Gwladol.

Gallwch gael Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd) os ydych yn gofalu am rywun am o leiaf 20 awr yr wythnos.

Ni fydd eich incwm, cynilion neu fuddsoddiadau yn effeithio ar eich cymhwysedd am Credyd Gofalwyr (Yn agor ffenestr newydd).

Os ydych yn gofalu am rywun yn eich aelwyd (heblaw am eich partner neu'ch plentyn dan 18 oed), gallai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad.

Carers Trust

Elusen fawr ar gyfer gofalwyr yw Carers Trust sy'n gweithio gyda gofalwyr er lles gofalwyr.

Carers UK

Gall Carers UK roi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid yn darparu cefnogaeth a chyngor sy'n ymwneud â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rheini sy'n rhentu o'r sector preifat.

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.

Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot

Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.

Y Groes Goch Brydeinig

Rydym yn helpu unrhyw un, mewn unrhyw le yn y DU ac o gwmpas y byd, i gael cefnogaeth os bydd argyfwng.

Gostyngiad i ofalwr

Os ydych yn gofalu am rywun yn eich aelwyd (heblaw am eich partner neu'ch plentyn dan 18 oed), gallai'r sawl sy'n gyfrifol am dalu Treth y Cyngor fod yn gymwys am ostyngiad.