
Cynadleddau ac achlysuron
Mae llawer o ystafelloedd ar gael yn Neuadd Brangwyn a Neuadd y Ddinas ar gyfer cynadleddau a chyfarfodydd.
Mae Neuadd Brangwyn mewn lleoliad da yn Abertawe, tro byr yn unig o draeth tywodlyd Bae Abertawe, a thaith gerdded 10 munud neu daith bws 5 munud o ganol y ddinas .
Gyda'r môr dafliad carreg i ffwrdd yn unig, gall Neuadd Brangwyn fod yn lleoliad delfrydol ar gyfer amgylchedd gwaith gwych y tu allan i'r swyddfa.
Mae Penrhyn Gŵyr gerllaw, a gall gynnig hoe y mae mawr angen amdano i gynadleddwyr rhag amserlen brysur y gynhadledd, gyda thraethau godidog a chefn gwlad anhygoel sy'n eich galluogi i gynnig rhaglen ddiddorol a gwreiddiol y tu allan i'r neuadd gynadledda.
Rhowch wybod i ni beth hoffech ei gael yn eich digwyddiad gan ddefnyddio ffurflen gais cadw lle ar gyfer digwyddiad yn Neuadd Brangwyn.
Dewis eang
P'un ai ydych yn chwilio am le i gynnal cynhadledd fawr, diwrnod hyfforddi, gweithgareddau adeiladu tîm neu adloniant corfforaethol, gallwn gynnig ystafelloedd amrywiol eu maint i ddiwallu eich anghenion.
Mae 9 ystafell ar gael, o ystafelloedd pwyllgor bach ar gyfer hyd at 16 o gynadleddwyr yn eistedd o gwmpas bwrdd, i Neuadd Brangwyn ei hun sydd â seddau arddull theatr i 1070 o bobl.
Mewn dwylo da
Yn Neuadd Brangwyn, Chi yw ein blaenoriaeth - hoffem sicrhau eich bod yn cael lleoliad sy'n addas ar gyfer eich anghenion.
Felly, ffoniwch ni ar 01792 635432, a byddwn yn trafod eich holl anghenion er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn cael yr ystafell gywir a gwerth gwych am arian.