Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio

Mae gallu ymholi ynghylch materion cynllunio cyn cyflwyno cais cynllunio ffurfiol yn rhoi cyfle i ymgeiswyr ystyried y materion hyn ac, os oes angen, i ddiwygio'r cynigion cyn eu cwblhau a'u cyflwyno fel ceisiadau cynllunio.

Mae cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio wedi'i rannu i ddau gategori: statudol ac anstatudol.

Y prif wahaniaeth rhwng y ddau fath yw y cedwir ymgeiswyr sy'n cyflwyno cais am gyngor anstatudol yn gyfrinachol a byddant hefyd yn gallu cyfarfod ag un o'n swyddogion cynllunio. Fel arall, os ydych am gyflwyno cais am gyngor statudol cyn cyflwyno cais cynllunio a chael cyfarfod ag un o'n swyddogion, yna mae hynny hefyd yn opsiwn.

Ffïoedd a gwasanaethau atodol ar gyfer cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio Ffïoedd a gwasanaethau atodol ar gyfer cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio

Beth fyddwch chi'n ei gael - statudol ac anstatudol

Byddwn yn rhoi'r canlynol i chi:

  1. hanes cynllunio'r tir y bwriedir codi'r datblygiad arfaethedig arno, ar yr amod ei fod yn berthnasol i'r cais arfaethedig
  2. darpariaethau'r cynllun datblygu, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais arfaethedig
  3. unrhyw ganllawiau cynllunio atodol, i'r graddau y mae'n berthnasol i'r cais arfaethedig
  4. unrhyw ystyriaethau eraill sydd neu a allai fod yn berthnasol ym marn yr awdurdod
  5. asesiad cychwynnol o'r datblygiad arfaethedig ar sail yr wybodaeth a ddarparwyd dan baragraffau (a) i (ch).

Ar gyfer datblygiadau mawr, gallwn hefyd ddweud wrthych:

  1. a yw'n debygol y bydd goblygiadau cynllunio (o fewn yr ystyr a geir yn adran 106 Deddf (goblygiadau cynllunio) 1990 yn ofynnol, ac os felly, syniad o gwmpas tebygol goblygiadau cynllunio o'r fath, gan gynnwys syniad o unrhyw swm y gall fod angen ei dalu i'r awdurdod
  2. a fydd atebolrwydd i dalu Ardoll Isadeiledd Gymunedol yn debygol, ac os felly, syniad o'r swm tebygol
  3. manylion unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth y byddai ei hangen er mwyn i gais dilynol fod yn gais dilys.

Ar gyfer ymgeiswyr anstatudol:

  • cedwir eu hymholiadau'n gyfrinachol
  • gallant gael cyfarfod ag un o'n swyddogion cynllunio
  • byddant yn talu TAW ar ben y ffi

Ffurflenni cais

Ffïoedd a gwasanaethau atodol ar gyfer cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio

Ffïoedd a thaliadau ar gyfer cyngor cyffredinol cyn cyflwyno cais cynllunio. Mae hefyd nifer o wasanaethau ychwanegol ar gael ar gyfer cyngor safonol cyn cyflwyno cais cynllunio.
Close Dewis iaith