Toglo gwelededd dewislen symudol

Digwyddiadau amgylcheddol - Mai

Rhododendron flower

Dydd Llun 1 Mai - Ffair Calan Mai Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr

10.00am - 12 ganol dydd, Maes Isaf Reynoldston, Gŵyr SA3 1AB

Ymunwch ag Ieuenctid Cyfeillion Gŵyr i ddawnsio o amgylch y fedwen haf, dawnsio Morys, gemau a rasys, a choroni'r Frenhines Fai. Dewch â phicnic a'ch teulu.

Tocynnau am ddim, ar gael ar Eventbrite.

Cyswllt: Dawn Thomas, 01792 392919 neu dawn.thomas@reynoldston.com

 

Dydd Mawrth 2 - dydd Gwener 5 Mai - Wythnos Werdd Prifysgol Abertawe

Digwyddiadau trwy gydol yr wythnos mewn gwahanol leoliadau, gan gynnwys glanhau traethau, teithiau beic, sesiynau garddio, teithiau cerdded ystlumod a thaith gerdded llwybr natur. Rhestrir rhai digwyddiadau isod.

I gael rhagor o wybodaeth ac i gadw lle mewn digwyddiadau, ewch i dudalen Eventbrite Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe.

 

Dydd Mercher 3 Mai (a phob bore Mercher) - Taith Beicio Cydymaith BikeAbility Cymru

10.00am - 12 ganol dydd, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Am feicio mewn grŵp am hwyl neu gyfeillgarwch? Ymunwch â ni ar gyfer ein teithiau beicio cydymaith gyda chefnogaeth bob dydd Mercher o'n safle yn Nyfnant. Taith feicio hawdd gyda chymorth oedolion ar gyfer pob gallu. Dim tâl ond croesewir rhoddion.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Mercher 3 Mai - Ffair Wythnos Werdd ar Gampws y Bae 

10.00am, The Hideaway, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian SA1 8EP 

Hyd at 30 o stondinau, gweithdai a sgyrsiau ar bynciau amrywiol fel swyddi gwyrdd a newid yn yr hinsawdd. Dim parcio ar y campws ond ceir llwybrau bws a beicio da yno.

Archebwch trwy Dudalen Eventbrite Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe.

Cyswllt: Gareth Williams, gareth.williams@swansea.ac.uk

 

Dydd Mercher 3 Mai - Glanhau Traeth Twyni Crymlyn

1.00pm, y llwybr estyllod y tu ôl i'r Neuadd Fawr, Campws y Bae Prifysgol Abertawe, Ffordd Fabian SA1 8EN

Ymunwch â'r sesiwn glanhau traeth misol hwn i gael ychydig o awyr iach, ymarfer corff ysgafn a helpu i gadw Twyni Crymlyn yn arbennig. Darperir yr holl offer ac os na allwch gyrraedd erbyn yr amser cychwyn, bydd bagiau, menig a chasglwyr yn cael eu gadael ar y llwybr estyllod fel y gallwch ymuno unrhyw bryd tan 3pm - rhowch gymaint neu gyn lleied o amser ag y gallwch chi. Yn agored i fyfyrwyr, staff a'r gymuned ehangach.

Gallwch gadw lle trwy Eventbrite - www.eventbrite.co.uk/e/bay-beach-clean-tickets-459921957957.

Cyswllt: Ben Sampson, wildlife@swansea.ac.uk

 

Dydd Mercher 3 Mai - Arolwg Gwenoliaid Duon Sgeti

7.45pm, y tu allan i Ganolfan Plwyf St Paul, Sgeti, Abertawe SA2 9AR

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Iau 4 Mai - Sesiwn Lles Coetir Coed Lleol

10.30am - 1.00pm, Coridor Bywyd Gwyllt Townhill, Abertawe (rhoddir manylion y lleoliad wrth archebu)

Dysgwch am fyw yn y gwyllt, chwilota am fwyd a chrefft natur.

Ewch i www.facebook.com/CoedLleolSwansea am fwy o wybodaeth.

Cyswllt: Nico Jenkins, 07902 523567 neu actifwoodsswansea@smallwoods.org.uk i gadw lle.

 

Dydd Sul 7 Mai - Sesiwn Gwirfoddolwyr Chwarel Rosehill

11.00am - 1.00pm, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Sesiwn gwirfoddolwyr reolaidd: codi sbwriel, cynnal a chadw a thasgau cyffredinol eraill. Dewch i archwilio trysor cudd ger canol dinas Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas. Ewch i'r dudalen Facebook i weld gweithgareddau ychwanegol neu newidiadau i drefniadau.

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Gwener 5 Mai - Ffair Wythnos Werdd ar Gampws Singleton

10.00am, Theatr Taliesin, Prifysgol Abertawe, Campws Singleton SA2 8PZ

Hyd at 30 o stondinau, gweithdai a sgyrsiau ar bynciau amrywiol fel swyddi gwyrdd a newid yn yr hinsawdd. Dim parcio ar y campws ond ceir llwybrau bws a beicio da yno.

Archebwch trwy Cynaliadwyedd Prifysgol Abertawe Tudalen Eventbrite.

Cyswllt: Gareth Williams, gareth.williams@swansea.ac.uk

 

Dydd Mawrth 9 Mai (a phob dydd Mawrth) - Diwrnod Gwaith Chwarel Rosehill

10.00am - 12 ganol dydd, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Sesiwn waith reolaidd i helpu i gynnal yr ardal bywyd gwyllt a'r man hamdden hyn ger canol Abertawe. Darperir te a choffi os yw'r tywydd yn addas.

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Mercher 10 Mai - Arolwg Gwenoliaid Duon Sandfields

7.45pm, cornel Stryd Glamorgan a Stryd Paxton, Sandfields, Abertawe, SA1 3SY

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Iau 11 Mai - Sesiwn Lles Coetir Coed Lleol

10.30am - 1.00pm, Coridor Bywyd Gwyllt Townhill, Abertawe (rhoddir manylion y lleoliad wrth archebu)

Dysgwch am fyw yn y gwyllt, chwilota am fwyd a chrefft natur.

Ewch i www.facebook.com/CoedLleolSwansea am fwy o wybodaeth.

Cyswllt: Nico Jenkins, 07902 523567 neu actifwoodsswansea@smallwoods.org.uk i gadw lle.

 

Dydd Gwener 12 Mai - Sesiwn Bore Wiggly Worms

10.00am - 11.30am, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Mae sesiynau rhieni a phlant cyn oed ysgol yn ffordd wych o gael hwyl yn yr awyr agored a mwynhau helfa chwilod, celf a chrefft â thema, straeon ac ychydig o fwd! Mae cadw lle yn hanfodol er mwyn sicrhau lle.

Gweler tudalen Eventbrite Fferm Gymunedol Abertawe am fanylion am sut i gadw lle yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Cyswllt: Katie Harkness, 01792 578384

 

Dydd Gwener 12 Mai - Sesiwn Prynhawn Wiggly Worms

1.00pm - 2.30pm, Fferm Gymunedol Abertawe, 2 Heol Pontarddulais, Fforest-fach SA5 4BA

Mae sesiynau rhieni a phlant cyn oed ysgol yn ffordd wych o gael hwyl yn yr awyr agored a mwynhau helfa chwilod, celf a chrefft â thema, straeon ac ychydig o fwd! Mae cadw lle yn hanfodol er mwyn sicrhau lle.

Gweler tudalen Eventbrite Fferm Gymunedol Abertawe am fanylion am sut i gadw lle yn nes at ddyddiad y digwyddiad.

Cyswllt: Katie Harkness, 01792 578384

 

Dydd Sadwrn 13 Mai - Darganfod Natur yng Nghoetir Cymunedol y Crwys

9.00am - 11.00am, mynedfa i Goetir Cymunedol y Crwys, Heol Tirmynydd, Y Crwys, Gŵyr SA4 3PP

Ymunwch â'r Ymddiriedolaeth Natur ar gyfer taith gerdded bywyd gwyllt hamddenol "hygyrch i bawb" ar lwybr gwastad o amgylch trysor o goetir cymunedol. O dan arweiniad y ffotograffydd bywyd gwyllt lleol, yr awdur a'r cadwraethwr, Hugh Lansdown. Mae'r llwybrau a'r llwybrau estyllod yn caniatáu mynediad i bob man ac wedi'u dylunio ar gyfer mynediad i gadeiriau olwyn a chadeiriau gwthio. Mae croeso arbennig i deuluoedd a phobl â symudedd cyfyngedig i gymryd rhan. Rhaid i blant dan 16 oed fod yng nghwmni oedolyn. Bws 22 o Abertawe i'r Crwys.

Gallwch gadw lle ar y digwyddiad rhad ac am ddim hwn ar dudalen Eventbrite yr Ymddiriedolaeth Natur https://www.eventbrite.co.uk/o/wildlife-trust-of-south-amp-west-wales-swansea-group-41422762733.

Cyswllt: SwanseaWTGroup@outlook.com

 

Dydd Sadwrn 13 Mai - Kites & Dippers: Gwenyn, Ieir Bach yr Haf a Thrychfilod

10.00am - 12 ganol dydd, maes parcio Gwarchodfa Cwm Clydach, Heol Lone, Clydach, Abertawe SA6 5SU

Ymunwch â Kites & Dippers i archwilio byd peillwyr a phryfed eraill. Ar gyfer pobl 8-18 oed sy'n hoffi bywyd gwyllt.

Cyswllt: Ben Bonham, Kites and Dippers Cwm Clydach, BSBonham@outlook.com / 07498 577495

 

Dydd Sul 14 Mai - Taith Gwylio Adar yn Chwarel Rosehill

9.00am, Chwarel Rosehill, oddi ar Heol Teras, Mount Pleasant, Abertawe SA1 6HU

Dewch i ddysgu sut i adnabod adar yn y parc cymunedol hyfryd hwn sy'n agos at ganol Abertawe. Byddwn yn cyfarfod ar ben y lôn sy'n arwain i fyny at y Chwarel o Ffordd Teras. Nid oes parcio ar y safle felly parcio ar y stryd yn unig. Am ddim ond croesewir cyfraniadau.

Cyswllt: Rhian ar 07840 197175 neu Viv ar 07917 569263

 

Dydd Llun 15 Mai - Grŵp Cerdded Coed Lleol Coed Clun

10.00am - 12.30pm, Coedwig Clun, Abertawe (rhoddir manylion y lleoliad wrth archebu)

Un o gyfres o deithiau cerdded hamddenol o dan arweiniad Andrew Price o Dryad Bushcraft, sy'n addas ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd. Dysgwch am hanes cyfoethog Coedwig Clun a'r gwahanol blanhigion, ffyngau a choed a welir ar hyd y daith. Mae'r teithiau cerdded am ddim ond mae cadw lle yn hanfodol.

Ewch i www.facebook.com/CoedLleolSwansea am fwy o wybodaeth.

Cyswllt: Nico Jenkins, 07902 523567 neu actifwoodsswansea@smallwoods.org.uk i gadw lle.

 

Dydd Mercher 17 Mai - Arolwg Gwenoliaid Duon Uplands

8.00pm, Parc Cwmdoncyn (Ardal Chwarae), 24 Eden Ave, Uplands, SA2 0PS

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Iau 18 Mai - Sesiwn Lles Coetir Coed Lleol

10.30am - 1.00pm, Coridor Bywyd Gwyllt Townhill, Abertawe (rhoddir manylion y lleoliad wrth archebu)

Dysgwch am fyw yn y gwyllt, chwilota am fwyd a chrefft natur.

Ewch i www.facebook.com/CoedLleolSwansea am fwy o wybodaeth.

Cyswllt: Nico Jenkins, 07902 523567 neu actifwoodsswansea@smallwoods.org.uk i gadw lle.

 

Dydd Sadwrn 20 Mai - Caffi Trwsio Beyond Recycling

10.30am - 1.30pm, Canolfan yr Amgylchedd, Stryd y Pier, Abertawe SA1 1RY

Dewch â'ch eitem sydd wedi torri neu wedi'i difrodi gyda chi a bydd ein hatgyweiriwyr gwirfoddol yn ceisio ei thrwsio, am ddim. Gallwch fwynhau paned o de neu goffi a sgwrsio â'ch cymdogion tra byddwch yn aros.

Ewch i www.facebook.com/BeyondRecyclingSwansea am fanylion.

Cyswllt: chris@environmentcentre.org.uk

 

Dydd Sadwrn 20 Mai - Taith Gerdded y Gwlyptir gyda Warden

11.30am - 1.00pm, Canolfan y Gwlyptir Llanelli, Penclacwydd, Llanelli, SA14 9SH

Nid oes angen cadw lle. Wedi'i gynnwys yn y tâl mynediad (am ddim i aelodau). Dewch i gwrdd â'r tywyswyr arbenigol cyfeillgar wrth y ddesg wybodaeth a byddant yn eich helpu i weld uchafbwyntiau'r tymor. Dysgwch sut i chwilio am arwyddion cynnil ac adnabod rhai rhywogaethau. Yn addas i bawb, ar lwybrau gwastad, hygyrch. Os dymunwch, gallwch ein gadael ar hyd y ffordd. Mae croeso i chi ddod â chamerâu neu ysbienddrych. Gwisgwch ddillad addas i'r tywydd ar y diwrnod.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.wwt.org.uk/wetland-centres/llanelli/whats-on.

Cyswllt: Canolfan y Gwlyptir Llanelli, 01554 741087

 

Dydd Sul 21 Mai - Taith Gerdded yr RSPB o amgylch Parc Gwledig Llyn Llech Owain

9.30am, Parc Gwledig Llyn Llech Owain, Heol yr Eglwys, Gorslas, Sir Gaerfyrddin SA14 7NF

Taith gerdded gwylio adar yn y bore. Mae'n bosib bydd angen dillad diddos a bŵts. Gadewch eich cŵn gartref os gwelwch yn dda. Eich cyfrifoldeb chi yw eich diogelwch ar hyd y daith.

Ewch i'r wefan am fwy o fanylion: group.rspb.org.uk/swanseaanddistrict

Cyswllt: rspbswandistgrp@gmail.com

 

Dydd Llun 22 Mai - Grŵp Cerdded Coed Lleol Coedwig Clun

10.00am - 12.30pm, Coedwig Clun, Abertawe (rhoddir manylion y lleoliad wrth archebu)

Un o gyfres o deithiau cerdded hamddenol o dan arweiniad Andrew Price o Dryad Bushcraft, sy'n addas ar gyfer y rhan fwyaf o alluoedd. Dysgwch am hanes cyfoethog Coedwig Clun a'r gwahanol blanhigion, ffyngau a choed a welir ar hyd y daith. Mae'r teithiau cerdded am ddim ond mae cadw lle yn hanfodol.

Ewch i www.facebook.com/CoedLleolSwansea am fwy o wybodaeth.

Cyswllt: Nico Jenkins, 07902 523567 neu actifwoodsswansea@smallwoods.org.uk i gadw lle.

 

Dydd Iau 25 Mai - Sesiwn Lles Coetir Coed Lleol

10.30am - 1.00pm, Coridor Bywyd Gwyllt Townhill, Abertawe (rhoddir manylion y lleoliad wrth archebu)

Dysgwch am fyw yn y gwyllt, chwilota am fwyd a chrefft natur.

Ewch i www.facebook.com/CoedLleolSwansea am fwy o wybodaeth.

Cyswllt: Nico Jenkins, 07902 523567 neu actifwoodsswansea@smallwoods.org.uk i gadw lle.

 

Dydd Iau 25 Mai - Arolwg Gwenoliaid Duon Brynmill 

8.15pm, maes chwarae Parc Brynmill, Heol Oakwood, Brynmill, Abertawe, SA2 0DN

Mae croeso i bawb i helpu gyda'n Harolygon Gwenoliaid Duon 2023 fel rhan o ymgyrch Achub Gwenoliaid Duon Abertawe. Yn dibynnu ar y tywydd. Rhaid i blant fod gydag oedolyn. Mae croeso i gŵn sy'n ymddwyn yn dda hefyd, os ydynt ar dennyn, ond rhowch wybod i ni ymlaen llaw.

Am fwy o wybodaeth ac i gadw lle ewch i bit.ly/swifts2023.

Cyswllt: defnyddiwch yr opsiwn 'Cysylltu â'r trefnydd' ar y dudalen archebu.

 

Dydd Mawrth 30 Mai - Plantos ar Deiars gyda BikeAbility Cymru

12.00pm - 1.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Blantos a phlant bach, dewch i chwarae gyda ni. Mae gennym sgwteri, treiciau, beiciau cydbwysedd a llawer mwy. Dechrau arni'n ifanc a chael ychydig o hwyl. £6 y plentyn

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Mawrth 30 Mai - Sgiliau Beicio gyda BikeAbility Cymru

2.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

emau beicio, cynnal a chadw sylfaenol beiciau a hyfforddiant sgiliau beicio wrth baratoi ar gyfer Lefel 1 y Safonau Cenedlaethol. £10 y plentyn.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 

Dydd Mercher 31 Mai - Hyfforddiant Beicio Diogelwch Ffyrdd: Lefel 1

1.00pm - 3.00pm, BikeAbility Cymru, Clwb Rygbi Dyfnant, Cilâ, Abertawe SA2 7RU

Lefel 1 y Safonau Diogelwch Ffyrdd Cenedlaethol i blant 8 oed ac yn hŷn. Cynhelir yr hyfforddiant mewn ardal heb draffig yn ein lleoliad. Rhaid i'r hyfforddeion allu reidio beic. £25 y person.

Cyswllt: BikeAbility Cymru, 07584 044284 neu info@bikeabilitywales.org.uk

 


Sylwer bod gwybodaeth am ddigwyddiadau a gynhelir gan sefydliadau eraill yn cael ei chyhoeddi'n ddidwyll ac ni all Cyngor Abertawe fod yn gyfrifol am anghywirdebau.

Close Dewis iaith