
Dragon Rider Cymru
Cyrsiau i yrwyr beiciau modur sydd â thrwydded lawn. Bydd y cwrs yn gwella eich sgiliau a allai gael gostyngiad ar eich yswiriant.
Menter hyfforddiant ar ôl y prawf yw Dragon Rider, sy'n dilyn maes llafur Cynllun Gwella Beicwyr y DVSAYn agor mewn ffenest newydd ac mae'n datblygu sgiliau, gwybodaeth a hyder beicwyr. Bydd hyfforddwyr cymwysedig yn rhannu eu profiad arbenigol ac yn annog beicwyr sy'n helpu i feithrin perthnasoedd da a chefnogi beicwyr eraill.
Mae'r cwrs yn addas i bob beiciwr â thrwydded lawn sydd:
- wedi pasio'i brawf gyrru'n ddiweddar
- am ddychwelyd at feicio ar ôl cael seibiant
- am uwchraddio i feic modur mwy pwerus
- am wirio'i safonau gyrru
Mae'r hyfforddiant diwrnod llawn yn costio £20 yn unig ac yn cynnwys trafodaeth fer mewn gorsaf dân leol yn Abertawe, ac yna thaith ar y beic gan gymryd saib am ginio ysgafn ar y ffordd.
Byddwn yn defnyddio beiciau'r beicwyr a systemau cyfathrebu'r hyfforddwyr. Cynhelir asesiadau unigol ar y ffyrdd, yn ogystal â rhoi adborth cynhwysfawr a phersonol er mwyn sefydlu arferion da a diogel. Cyflwynir tystysgrifau DVSA ar ôl cwblhau'r hyfforddiant.
Cyrsiau yn rhedeg law neu hindda , a bydd ond yn cael ei ganslo mewn amodau tywydd garw dros ben yn yr achos hwnnw bydd yn cysylltu â chi.
Dyddiad 2020
- 15 Mawrth 2020 - Gorsaf Dân Gorseinon, West Street, Gorseinon, Abertawe SA4 4AZ.
Mae angen cyrraedd am 8.45am i gofrestru.
Pwysig
Dewch â'r dogfennau canlynol - nid llun gopïau yn dderbyniol:
- trwydded yrru (y ddwy ran os oes gennych drwydded cerdyn llun)
- tystysgrif yswiriant
- tystysgrif MOT (os yn berthnasol)
Rhaid i bob peiriant fod mewn cyflwr addas i'r ffordd fawr.
Byddwch yn cwmpasu hyd at 100 milltir yn ystod y dydd , felly gwnewch yn siŵr bod gennych ddigon o danwydd ar gyfer y diwrnod cyfan . Byddwch yn derbyn cinio taleb gwerth hyd at £5.00.