Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Dwysedd poblogaeth

Ystadegau poblogaeth Abertawe ac ardaloedd lleol.

Mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth ar gael ar gyfer Abertawe a'i hardaloedd lleol, gan gynnwys Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is a Chanol (ACEHI ac ACEHG).  Mae'r ffigyrau hyn yn deillio o rannu'r amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn swyddogol ag arwynebedd y tir mewn cilometrau sgwâr.  Mesurir arwynebedd y tir ar y penllanw cymedrig ac eithrir ardaloedd lle mae dŵr mewndirol, fel a argymhellir gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac Eurostat.

Dwysedd cyfartalog poblogaeth Dinas a Sir Abertawe yw 639 o bobl y cilometr sgwâr (amcangyfrif canol 2022), sef y pedwerydd uchaf o 22 o ardaloedd awdurdod lleol Cymru (cyfartaledd: 151 o bobl y cilometr sgwâr).  Yn Abertawe, mae amcangyfrifon dwysedd poblogaeth leol (Cyfrifiad 2021) yn amrywio o 49 (ar gyfer ACEHG Gorllewin Gŵyr) i 8,394 o bobl fesul cilomedr sgwâr (ACEHG Brynmill).

Cynhwysir ffigurau dwysedd poblogaeth (a'r amcangyfrifon cyfanswm poblogaeth ac arwynebedd tir ategol) yn y ffeil (Excel doc) [116KB] sydd ar y dudalen hon, sy'n cynnwys y taflenni gwaith canlynol ar wahân:

  • Dinas a Sir Abertawe, 1991 i canol 2022
  • Awdurdodau lleol yng Nghymru, canol 2022
  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Is yn Abertawe, Cyfrifiad 2021
  • Ardaloedd Cynnyrch Ehangach Haen Ganol yn Abertawe, Cyfrifiad 2021
  • Wardiau etholiadol yn Abertawe, Cyfrifiad 2021.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch yr amcangyfrifon dwysedd poblogaeth neu ystadegau poblogaeth eraill, cysylltwch â ni.

Close Dewis iaith