Toglo gwelededd dewislen symudol

Pobl ifanc - sut rydym yn defnyddio dy wybodaeth (fersiwn fer)

Weithiau bydd angen i Gyngor Abertawe wybod rhai pethau amdanat ti. Mae hyn yn dweud sut yr ydym yn defnyddio'ch gwybodaeth.

Weithiau bydd angen i Gyngor Abertawe wybod rhai pethau amdanat ti, fel dy enw, dy ben-blwydd ac pha ysgol rwyt ti'n mynd iddi.

Mae angen i ni wybod hyn gan ei fod yn ein helpu ni i roi'r pethau y mae eu hangen arnat ti, i wneud dy orau glas yn yr ysgol ac i sicrhau dy fod yn tyfu i fod yn iach ac yn heini.

Rydym yn ysgrifennu'r hyn rydym yn ei wybod amdanat ti ar y cyfrifiadur ac ar bapur. Dim ond rhai pobl sy'n cael gweld y pethau rydym wedi'u hysgrifennu amdanat ti.

Os ydym yn darganfod bod rhywun yn  ceisio edrych ar yr hyn sydd wedi'i ysgrifennu amdanat ti heb ganiatâd, gall fynd i drafferth mawr.

Byddwn yn cadw'r hyn rydym wedi'i ysgrifennu amdanat ti gyhyd ag y mae hawl gennym i wneud hynny.

Weithiau, efallai y bydd yn rhaid i ni rannu'r hyn rydym wedi'i ysgrifennu amdanat ti â phobl eraill. Efallai bydd rhaid gwneud hyn oherwydd bod pethau wedi bod yn anodd iawn i ti ac efallai bydd rhaid gofyn i bobl eraill dy helpu di.

Byddwn fel arfer yn gofyn i ti neu dy rieni os bydd angen i ni rannu'r hyn rydym wedi'i ysgrifennu oni bai ei fod yn golygu na fyddi di'n ddiogel os nad ydym yn ei rannu'n syth.

Os wyt ti byth yn anhapus am yr hyn rydym wedi ysgrifennu amdanat ti neu'n anhapus â'r hyn rydym yn ei wneud â'r wybodaeth, rwyt ti'n gallu ysgrifennu atom neu anfon e-bost atom os yw'n well gennyt.

Byddwn yn ystyried y rhesymau pam rwyt ti'n anhapus ac yn dweud wrthyt pan fyddwn wedi gwneud penderfyniad.

Gelli di ysgrifennu atom:

Swyddog Diogelu Data
Canolfan Ddinesig
Abertawe
SA1 3SN.

Neu anfona e-bost at: diogelu.data@abertawe.gov.uk

 

Close Dewis iaith