Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffïoedd ar gyfer trwyddedau tai amlfeddiannaeth

Manylion y costau ar gyfer trwyddedau tai amlfeddiannaeth gan gynnwys ffïoedd ar gyfer deiliaid ychwanegol.

Strwythur ffi'r drwydded

Mae'r ffïoedd yn dibynnu ar faint yr HMO. Rhennir y ffi mewn dwy ran:

  • rhan 1 - sy'n ymwneud â chostau gweinyddu a phenderfynu ar y cais am drwydded
  • rhan 2 - sy'n ymwneud â chostau rheoleiddio a gorfodi parhaus.

Gallwch naill ai dalu ffi'r drwydded yn llawn pan rydych chi'n gwneud cais neu mewn dwy ran. Os ydych chi'n talu'n llawn codir ffi am gost ostyngol. Os ydych chi'n penderfynu talu mewn dwy ran, rhaid talu'r rhan gyntaf pan gaiff y cais ei gyflwyno a rhaid talu'r ail cyn i ni gyflwyno'r drwydded.Ni allwn brosesu cais nes ein bod wedi derbyn naill ai'r ffi gyfan neu'r taliad cyntaf.

Nid yw'r cyngor yn gweithredu unrhyw gam neu ddulliau talu rhannol eraill ar gyfer ffïoedd trwyddedau HMOau.

Ym mhob achos, nid ystyrir bod cais yn gyflawn oni bai fod y cyngor wedi derbyn yr holl wybodaeth ofynnol a'r ffi berthnasol.

Ffi adnewyddu gynnar

Os mai chi yw deiliad y drwydded, gallwch adnewyddu'r drwydded ar gyfer HMO o fewn y ddeufis cyn dyddiad dod i ben y drwydded bresennol. Yn yr achosion hyn, cost ostyngol yn berthnasol i ffi adnewyddu'n gynnar. Ystyrir cais a wnaed gan berson arall fel cais am drwydded newydd. Os ydym yn derbyn cais i adnewyddu trwydded ar ôl dyddiad dod i ben y drwydded bresennol, bydd y ffi trwydded newydd yn berthnasol.

Fel arfer bydd y cyngor yn atgoffa deiliaid trwyddedu o ddyddiad dod i ben eu trwydded. Ni ddylai deiliaid trwyddedu ddibynnu ar hyn er mwyn anfon cais adnewyddu ar yr adeg iawn. Deiliad y drwydded sy'n gyfrifol am adnewyddu trwydded.

Ceisiadau i amrywio trwydded

Os bydd unrhyw newidiadau mewn amgylchiadau deiliad neu reolwr y drwydded neu unrhyw un arall sy'n ymwneud â'r eiddo ei hun neu reoli'r eiddo, rhaid rhoi gwybod am hyn i'r cyngor o fewn 14 diwrnod o'r newid. Mae angen amrywio trwydded ar gyfer y mathau hyn o newidiadau. Ni chodir ffi ar gyfer hyn.

Os hoffech gynyddu uchafswm y deiliaid sydd ar drwydded, bydd angen talu £75 ychwanegol fesul deiliad.

Ffïoedd ar gyfer cais newydd neu adnewyddu'n hwyr ffioedd o 1 Ebrill 2024
Nifer y preswylwyrFfi os fe'i telir fel taliad unigol (ffi ymlaen llaw am bris gostyngol)Ffi os fe'i telir mewn dau daliad ar wahân - rhan 1Ffi os fe'i telir mewn dau daliad ar wahân - rhan 2
3£1,061£582£548
4£1,141£527£583
5£1,221£672£618
6£1,301£717£653
7£1,381£762£688
8£1,461£807£723
9£1,541£852£758
10£1,621£897£793
11£1,701£942£828
12£1,781£987£863
13£1,861£1,032£898
14£1,941£1,077£933
15£2,021£1,122£968
16£2,101£1,167£1,003
17£2,181£1,212£1,038
18£2,261£1,257£1,073
19£2,341£1,302£1,108
20£2,421£1,347£1,143

 

Ffïoedd ar gyfer adnewyddu'n gynnar ffioedd o 1 Ebrill 2024
Nifer y preswylwyrFfi os fe'i telir fel taliad unigol (ffi ymlaen llaw am bris gostyngol)Ffi os fe'i telir mewn dau daliad ar wahân - rhan 1Ffi os fe'i telir mewn dau daliad ar wahân - rhan 2
3£997£548£518
4£1,077£593£553
5£1,157£638£588
6£1,237£683£623
7£1,317£728£658
8£1,397£773£693
9£1,477£818£728
10£1,557£863£763
11£1,637£908£798
12£1,717£953£833
13£1,797£998£868
14£1,877£1,043£903
15£1,957£1,088£938
16£2,037£1,133£973
17£2,117£1,178£1,008
18£2,197£1,223£1,043
19£2,277£1,268£1,078
20£2,357£1,313£1,113

 

Close Dewis iaith