Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffyrdd a phriffyrdd a fabwysiadwyd

Ffordd, troedffordd neu lwybr ceffyl a gynhelir gan arian cyhoeddus yw priffordd a fabwysiadwyd. Cyngor Abertawe sy'n gwneud y gwaith cynnal a chadw ar y priffyrdd hyn yn Abertawe.

Cynhelir strydoedd preifat (priffyrdd hen eu mabwysiadu) ar draul y perchennog. Efallai mai'r perchennog yw'r preswylwyr sy'n berchen ar y rhan o flaen eu tŷ, neu drydydd parti (datblygwr fel arfer). Nid yw'r cyngor dan unrhyw rwymedigaeth i wneud atgyweiriadau na chynnal a chadw'r stryd, er y gallai fod â hawl tramwy cyhoeddus ac felly'n destun deddfau priffyrdd a thraffig.

Pan fyddwn yn mabwysiadu ffyrdd

Mae ffyrdd newydd sydd wedi eu hadeiladu i'r safonau gofynnol yn cael eu mabwysiadu gennym fel arfer drwy gytundeb â'r datblygwr dan adran 38 Deddf Priffyrdd 1980.

Nid yw ffyrdd presennol yn cael eu mabwysiadu fel arfer oni bai bod perchnogion y ffordd yn sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon. Er enghraifft, gall fod heb balmant, cyrbau, troedffyrdd, carthffosydd dŵr wyneb, gyliau, goleuadau, gall fod yr arwyneb mewn cyflwr gwael neu mae'n bosib bod geometreg y ffordd yn anaddas i'w defnyddio fel priffordd a gynhelir ar draul y cyhoedd.

Y Tîm Rheoli Priffyrdd sy'n gyfrifol am fabwysiadu ffyrdd a chynnal cofnodion y priffyrdd a fabwysiedir.

Canfod a yw ffordd wedi'i mabwysiadu

Ymholiad anffurfiol

Cael gwybod a yw ffordd wedi'i mabwysiadu

Yn ogystal gallwch fynd i'r Ganolfan Ddinesig lle gallwch edrych ar fapiau ar ein systemau cyfrifiadur a chwilio am ffyrdd a llwybrau troed ym mhob rhan o Abertawe. Gofynnwch am gymorth yn y dderbynfa.

Ymholiadau masnachol / proffesiynol

I wneud ymholiad ffurfiol nad yw'n rhan o chwiliad tir lleol (CON29) codir ffi o £42.54 (dim TAW). Er mwyn gwneud hyn, gallwch:

  • gyflwyno cais ar-lein gan ddefnyddio ein ffurflen Cael gwybod a yw ffordd wedi'i mabwysiadu. Byddwch yn gallu talu am y chwiliad a darparu fersiynau electronig o'r cynlluniau. Dewiswch 'ymholiad masnachol/proffesiynol' er mwyn gwneud cais. 
  • ysgrifennwch at: Rheoli Priffyrdd, Canolfan Ddinesig, Heol Ystumllwynarth, Abertawe SA1 3SN. Gwnewch sieciau'n daladwy i 'Dinas Sir Abertawe' a chofiwch gynnwys cynllun o leoliad y ffordd.

Yn anffodus ni allwn ddarparu unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â ffyrdd a fabwysiadwyd dros y ffôn.

Adnoddau gwybodaeth ar gyfer chwiliadau sy'n ymwneud â'r priffyrdd

Ffenestr ar-lein priffyrdd a fabwysiadwyd (Yn agor ffenestr newydd) - Edrychwch ar faint, cytundebau a chynlluniau ffyrdd y priffyrdd a fabwysiadwyd.

Rhestr strydoedd ar-lein (Yn agor ffenestr newydd) - Rhestr y strydoedd sy'n cael eu cynnal a'u cadw ar draul y cyhoedd.

Cwestiynau cyffredin am reoli priffyrdd

Atebion i'r cwestiynau mwy cyffredin sy'n cael eu gofyn i ni.

Cwestiynau cyffredin chwilio priffyrdd

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn.

Tir gofynnol ar gyfer cynlluniau (CON29R-3.2)

Rhestr o ffyrdd lle caffaelwyd tir ar gyfer cynlluniau ffyrdd.

Cynlluniau ffyrdd arfaethedig (CON29R-3.4)

Rhestr o gynlluniau ffyrdd arfaethedig.

Cynlluniau traffig arfaethedig (CON29R-3.6)

List of proposed traffic schemes.

Hysbysiadau priffyrdd (CON29R - 3.7)

Rhestr o briffyrdd lle cyhoeddwyd hysbysiad priffordd i eiddo am ordyfiant, etc, ar y Briffordd.

Cynlluniau rheilffordd arfaethedig (CON29R - 3.5)

Rhestr o gynlluniau sy'n seiliedig ar reilffyrdd.
Close Dewis iaith