Toglo gwelededd dewislen symudol

Goleuadau stryd

Mae goleuadau stryd yn helpu pobl i ddefnyddio ffyrdd a throedffyrdd yn ddiogel. Rydym yn gyfrifol am gynnal a chadw 30,000 o oleuadau stryd a 5,000 o arwyddion traffig goleuedig.

Rydym yn annog adroddiadau gan y cyhoedd am ddiffygion a phroblemau er mwyn i ni drefnu eu hatgyweirio.

Adrodd am ddiffyg golau Adrodd am ddiffyg golau

Helpwch ni drwy ddarparu'r wybodaeth ganlynol:

  • Rhif adnabod colofn y golau neu'r arwydd traffig.
  • Cyfeiriad yr eiddo agosaf gan gynnwys ei rif, enw'r ffordd, yr ardal neu'r pentref.
  • Manylion am natur y broblem neu'r difrod.

Beth yw'r weithdrefn ar gyfer atgyweirio goleuadau diffygiol?

Rydym yn ymchwilio i achos diffygion o fewn deng niwrnod gwaith o gael ein hysbysu amdanynt a, lle bynnag y bo modd, rydym yn eu hatgyweirio ar yr ymweliad cyntaf. (Mae'r rhan fwyaf yn cael eu hatgyweirio ar yr ymweliad cyntaf ond weithiau mae angen atgyweiriadau mwy sylweddol neu mae'r broblem yn ymwneud â'r cyflenwad trydan).

Beth sy'n achosi'r diffygion hyn?

Gall diffygion a difrod i oleuadau stryd ac arwyddion goleuedig gael eu hachosi gan:

  • Ymyriadau yn y cyflenwad trydan
  • Tywydd gwael
  • Cydrannau diffygiol
  • Trawiadau gan gerbydau
  • Fandaleiddio.

 

Adrodd am ddiffyg golau

Rhowch wybod i ni am unrhyw broblemau gyda goleuadau stryd fel y gallwn eu trwsio.

Cwestiynau cyffredin am oleuadau stryd

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am oleuadau stryd.
Close Dewis iaith