Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwastraff masnachol ac ailgylchu

Rydym yn darparu amrywiaeth o wasanaethau casglu a gwaredu gwastraff ac ailgylchu ar gyfer eich busnes.

Gellir eu dylunio i ddiwallu'ch anghenion gyda chynwysyddion o wahanol fathau a meintiau ac amlder y gwasanaeth casglu.

Pam dewis ein gwasanaeth casglu gwastraff masnachol?

Yn ogystal â sicrhau eich bod yn bodloni Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle newydd Cymru rydym hefyd yn cynnig:

  • cyfraddau cystadleuol, contractau pris sefydlog heb gostau cudd, ac mae'r holl gostau gweinyddu gan gynnwys nodiadau trosglwyddo gwastraff WEDI'U CYNNWYS
  • tîm lleol profiadol ymroddedig i helpu gydag ymholiadau a darparu ymgynghoriad a dyfynbris heb unrhyw rwymedigaeth 
  • gwahanol gynwysyddion i'ch helpu i wahanu'ch gwastraff a'ch ailgylchu
  • dim tâl am nodyn trosglwyddo gwastraff dyletswydd gofal  
  • dim TAW
  • gwasanaeth hyblyg

Eich gwastraff a'r gyfraith

Yn ôl y gyfraith, o 6 Ebrill 2024 mae'n ofynnol i bob gweithle, gan gynnwys busnesau, cyrff cyhoeddus a'r trydydd sector wahanu deunyddiau y gellir eu hailgylchu o'u gwastraff cyffredinol.

Casgliadau gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gyfer busnesau

Ni waeth faint o wastraff y mae eich busnes yn ei gynhyrchu, gallwn gynnig cynwysyddion addas i storio'ch gwastraff na ellir ei ailgylchu a'i baratoi i'w gasglu.

Casgliadau ailgylchu i fusnesau

O dan y Rheoliadau Ailgylchu yn y Gweithle, o 6 Ebrill 2024 mae gan bob busnes ofyniad cyfreithiol i ailgylchu. Gallwn eich helpu i gydymffurfio.

Archebu casgliad gwastraff masnachol ac ailgylchu

Gallwch drefnu a thalu am gasgliad sbwriel ac ailgylchu gyda cherdyn credyd neu ddebyd gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon.

Talu gyda cherdyn ar-lein am sachau ailgylchu masnachol a sticeri

Gallwch archebu sachau a sticeri newydd ar gyfer ailgylchu, a thalu amdanynt gyda cherdyn credyd neu ddebyd, gan ddefnyddio'r ffurflen gais hon.

Casgliadau gwastraff arbennig ac eitemau swmpus

Gall casgliad arbennig fod yn eitem unigol, yn hanner llwyth neu'n llwyth cyfan ar gyfer eitemau nad ystyrir fel gwastraff cyffredinol a ddarperir i gwsmeriaid â chontract gwastraff presennol gyda'r cyngor yn unig.

Llogi sgipiau ar gyfer gwastraff masnachol

Rydym yn gallu darparu gwasanaeth sgipiau i fusnesau yn yr ardal leol. Mae sgipiau o wahanol feintiau ar gael ar gyfer gwastraff cyffredinol ac ailgylchu.

Cysylltu â gwastraff masnachol

Os oes gennych gwestiynau am ein gwasanaeth gwastraff masnachol ac ailgylchu, cysylltwch â ni.

Sut i dalu eich anfonebau gwastraff masnachol ac ailgylchu

Os ydych yn penderfynu defnyddio gwasanaethau'r cyngor gallwch dalu'ch anfoneb mewn nifer o ffyrdd.
Close Dewis iaith