Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Gwneud cais am dai cyngor

Bydd rhaid i chi gyflwyno cais i ymuno â'n cofrestr anghenion tai.

Os ydych chi'n ddigartref neu os ydych mewn perygl o fod yn ddigartref yn ystod y 7 niwrnod nesaf, ffoniwch 01792 533100. Ar gyfer pob ymholiad arall am ddigartrefedd ac i wneud cais i fod ar y rhestr aros, llenwch y ffurflen isod ac atodwch unrhyw wybodaeth berthnasol. Mae ein llinellau ffôn yn brysur iawn, ond caiff eich galwad ffôn ei hateb.

Mae gennym ôl-groniad o geisiadau ar hyn o bryd oherwydd faint sy'n cael eu derbyn a'r oedi yn sgîl COVID-19. O ganlyniad i hyn, mae'r broses gychwynnol i gofrestru ceisiadau bellach yn cymryd 8 wythnos.

Mae terfyn amser o 20 munud ar gyfer llenwi'r ffurflen hon, fodd bynnag mae opsiwn i chi arbed pob tudalen a bydd e-bost yn cael ei anfon atoch gyda dolen sy'n eich caniatáu i lenwi gweddill y ffurflen ar adeg arall.

Close Dewis iaith