Toglo gwelededd dewislen symudol

Refeniw a Budd-daliadau - sut rydym yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol

I weinyddu'r gwasanaethau amrywiol y mae'n eu rheoli, bydd Gwasanaeth Refeniw a Budd-daliadau'r cyngor yn casglu data personol amdanoch chi a'ch teulu.

Gwybodaeth a gedwir amdanoch chi

Gall yr wybodaeth hon a gesglir gynnwys:

  • manylion amdanoch chi, megis cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, rhif Yswiriant Gwladol, dyddiad geni, nifer ar yr aelwyd a manylion incwm.
  • wybodaeth berthnasol arall y mae ei hangen i brosesu eich cais megis manylion cyswllt eich landlord neu faint o ofal rydych chi'n ei dderbyn.
  • manylion ynghylch incwm unrhyw bobl nad ydynt yn ddibynyddion sy'n byw gyda chi lle'r ydych yn gwneud hawliad am Fudd-dal Tai neu Ostyngiad Treth y Cyngor. (Rhowch wybod i'r rheini nad ydynt yn ddibynyddion y bydd eu data'n cael eu brosesu gan y cyngor)

Sut byddwn yn defnyddio'r wybodaeth sydd gennym amdanoch?

Byddwn yn casglu gwybodaeth amdanoch er mwyn:

  • cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol megis casglu Treth y Cyngor ac ardrethi busnes annomestig
  • asesu eich ceisiadau am Fudd-dal Tai, Gostyngiad Treth y Cyngor, prydau ysgol am ddim ac asesiadau ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol neu unrhyw drethi, gostyngiadau, gwasanaethau neu fudd-dal lleol arall yr ydych yn cyflwyno cais amdano
  • caniatáu i'r cyngor gyfathrebu a darparu gwasanaethau sy'n briodol i'ch anghenion megis cyflwyno cais am Fathodyn Glas
  • cydymffurfio â rhwymedigaethau cyfreithiol eraill a/neu ganfod troseddau gan gynnwys twyll.
  • Cyflawni'n rhwymedigaethau ar ran Llywodraeth EF a Llywodraeth Cymru i brosesu unrhyw grantiau, lwfansau neu daliadau y mae gofyn i ni eu gweinyddu ar eu rhan.

Caiff gwybodaeth a dderbynnir gan Lywodraeth EF a/neu Lywodraeth Cymru ei defnyddio i gydymffurfio â'n goblygiadau cyfreithiol megis casglu Treth y Cyngor, ardrethi Annomestig, neu gynnal asesiadau ariannol ar gyfer gofal cymdeithasol neu wasanaethau eraill, budd-daliadau neu ostyngiadau y gallwch wneud cais amdanynt.

Efallai y byddwn yn cymharu peth o'r wybodaeth rydych wedi'i darparu â ffynonellau eraill i sicrhau bod eich data'n gywir.

 phwy y byddwn yn rhannu eich gwybodaeth?

I weinyddu unrhyw dreth, gostyngiad, grant, gwasanaeth neu fudd-dal lleol y mae'r cyngor yn gyfrifol amdano, rydym yn rhannu gwybodaeth dan ein rhwymedigaethau cyfreithiol a chyda sefydliadau partner, gan gynnwys:

  • adrannau eraill y cyngor
  • adrannau'r llywodraeth
  • Cyllid a Thollau EM
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Archwilio Cymru
  • cynghorau eraill lle caniateir i ni wneud hynny yn ôl y gyfraith
  • Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS) / Adran dros Ddiogeledd Ynni a Sero Net

Mewn amgylchiadau penodol, rydym yn caniatáu i adrannau eraill o fewn y cyngor gael mynediad cyfyngedig at ein data a Chronfa Bensiwn y cyngor lle mae'n ofyniad statudol iddynt gynnal cyfeiriadau cywir a chyfoes ar gyfer eu cleientiaid.

Ar adegau, efallai y bydd sefydliadau cefnogaeth TG a gontractwyd yn cael gweld eich gwybodaeth wrth gyflwyno cefnogaeth TG. Bydd mynediad gan gefnogaeth TG ar gyfer trwsio materion technegol gyda meddalwedd yn unig.

Sut rydym yn prosesu'ch gwybodaeth?

Mae'r wybodaeth rydym yn ei chasglu gennych yn cael ei phrosesu fel arfer gan unigolyn, ond gall rhai penderfyniadau Budd-dal Tai a Gostyngiadau Treth y Cyngor fod yn rhai awtomataidd pan fydd data personol a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phesniynau yn cael ei fewnforio'n electronig i'n systemau cyfrifiadur. Cewch eich hysbysu'n ysgrifenedig o unrhyw newidiadau i'ch Budd-dal Tai neu Ostyngiadau Treth y Cyngor, a bydd yn cynnwys hawl i ofyn am adolygiad o'r penderfyniad.

Am ba hyd rydym yn cadw eich cofnodion?

Mae ein hamserlen gadw'n nodi pa mor hir rydym yn cadw gwybodaeth bersonol.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Abertawe'n defnyddio'ch data personol, gan gynnwys eich hawliau fel gwrthrych y data, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd corfforaethol.

Close Dewis iaith