Hysbysebu ar wefan abertawe.gov.uk
Mae 20% o le ar gael ar wefan y cyngor i osod baneri, gan ganiatáu i hyd at bum hysbysebwr gael 4% o'r lle hysbysebu bob dydd.
Ar gyfartaledd, ceir mwy na 40,000 o ymweliadau â'n hafan bob mis.
Ar gyfartaledd, ceir mwy na 1,100,000 o ymweliadau â'n gwe-dudalennau bob mis (ffigurau mis Ionawr 2020).
Codir tâl o £350 fesul mis calendr am hysbyseb baner ar y wefan. Mae hyn yn cychwyn ar ddiwrnod cyntaf bob mis.
Ceir 5 hysbysebwr ar y mwyaf ar unrhyw adeg.
Rhaid i dîm y wefan gymeradwyo'r hysbyseb.
Rhaid i'r hysbyseb fod yn barod i'w chyhoeddi mewn fformat jpeg 728 x 90 picsel.
Sylwer:Ychwanegir TAW at bob pris.
Caiff yr hysbysebion eu cylchdroi ar hap.