Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Hysbysiad preifatrwydd cofrestru

Bydd y polisi hwn yn esbonio sut y defnyddir yr wybodaeth a gesglir gennym amdanoch a'ch hawliau mewn perthynas â'r wybodaeth honno.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ni gasglu gwybodaeth bersonol gennych er mwyn cofrestru digwyddiad. Y brif ddeddfwriaeth sy'n rheoli casglu gwybodaeth gofrestru yw Deddf Cofrestru Genedigaethau a Marwolaethau 1953, Deddf Priodasau 1949 a Deddf Partneriaeth Sifil 2004. Gall fod yn ofynnol i chi, yn ôl y gyfraith oherwydd y deddfau hyn, a deddfwriaethau eraill, i ddarparu manylion penodol.  Os nad ydych chi'n darparu'r wybodaeth ofynnol, gallech fod yn atebol i dalu dirwy, ymysg pethau eraill, neu efallai na fyddwn yn gallu darparu'r gwasanaeth rydych yn gwneud cais amdano, megis priodas neu bartneriaeth sifil.

Gellir casglu gwybodaeth bersonol gennych os ydych yn cyflwyno cais i'r swyddfa hon, er enghraifft cais ar gyfer tystysgrif neu i gywiro gwybodaeth mewn cofnod cofrestr.

Caiff yr wybodaeth rydych chi'n ei darparu ei chadw a'i phrosesu gan swyddogion cofrestru'r ardal gofrestru hon. 

Mae'r uwch-gofrestrydd yn rheolwr data ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau a marwolaethau, a gallwch anfon e-bost ato yn cofrestryddion@abertawe.gov.uk.

Mae'r awdurdod lleol yn rheolwr data ar gyfer cofrestru partneriaethau sifil a gallwch anfon e-bost ato yn  cofrestryddion@abertawe.gov.uk.

Mae'r Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr yn rheolwr data ar y cyd ar gyfer cofrestru genedigaethau, priodasau, marwolaethau a phartneriaethau sifil a gallwch ysgrifennu i General Register Office, Trafalgar Road, Southport, PR8 2HH.

Gallwch e-bostio'r Swyddog Diogelu Data yn diogelu.data@abertawe.gov.uk.

Caiff copi o unrhyw gofnod mewn cofrestr ei roi i unrhyw ymgeisydd, ar yr amod y bydd yn darparu digon o wybodaeth i ddod o hyd i'r cofnod perthnasol ac yn talu'r ffi briodol. Gellir rhoi copi ar ffurf copi papur ardystiedig ("tystysgrif") yn unig. Gellir cyflwyno cais am dystysgrif hefyd i'r Swyddfa Gofrestru Gyffredinol.

Mae mynegeion ar gyfer digwyddiadau a gofrestrir yn y swyddfa hon ar gael i aelodau'r cyhoedd er mwyn eu helpu i ddod o hyd i'r cofrestriad y gallai fod ei angen arnynt.  Mae mynegeion ar gael mewn fformat papur yn y Swyddfa Gofrestru.

Bydd copi o'r wybodaeth a gasglwyd gan swyddog cofrestru hefyd yn cael ei anfon at y Cofrestrydd Cyffredinol ar gyfer Cymru a Lloegr er mwyn cadw cofnod canolog o bob cofrestriad.

Gall gwybodaeth gofrestru sy'n cael ei chadw yn y swyddfa hon gael ei rhannu â sefydliadau eraill er mwyn i ni gyflawni ein gweithrediadau, neu er mwyn galluogi eraill i wneud hynny. 

Byddwn yn rhannu gwybodaeth ar sail gyfreithlon at y dibenion canlynol yn unig:

  1. Dibenion ystadegol neu ymchwil.
  2. Dibenion gweinyddol gan gyrff swyddogol e.e. sicrhau bod eu cofnodion yn gyfoes er mwyn darparu gwasanaethau cyhoeddus.
  3. Atal neu ddarganfod twyll, dibenion mewnfudo a phasbort.

Mae gwybodaeth bellach am ddata a ddelir gan y gwasanaeth cofrestru a rhestr lawn o'r sefydliadau y rhennir data cofrestru â hwy, y diben a'r sail gyfreithiol ar gyfer rhannu'r data, ar gael yn y ddogfen Gweithgareddau prosesu ar gyfer cofrestryddion, cofrestryddion arolygol ac awdurdodau cofrestru. Fel arall, gall staff y swyddfa hon ddarparu'r wybodaeth.

Mae gennych yr hawl i wneud cais i weld yr wybodaeth bersonol rydym yn ei chadw amdanoch, i gael gwybod sut yr ydym yn casglu ac yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol, i gywiro gwybodaeth anghywir (lle caniateir hyn yn ôl y gyfraith) ac i gyfyngu ar ein gwaith o brosesu'ch gwybodaeth bersonol. Mewn rhai amgylchiadau mae gennych yr hawl i wrthwynebu i'n gwaith prosesu'ch gwybodaeth bersonol. Ni fydd eich gwybodaeth yn destun gwneud penderfyniadau awtomataidd.

Caiff gwybodaeth gofrestru ei chadw'n ddiderfyn yn unol â'r gyfraith. Mae'r awdurdod yn cadw at amserlen gadw ar gyfer gwybodaeth ychwanegol. E-bostiwch cofrestryddion@abertawe.gov.uk am fwy o wybodaeth am hyn.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu bryderon am gasglu, defnyddio neu ddatgelu'ch gwybodaeth bersonol, e-bostiwch cofrestryddion@abertawe.gov.uk.

Mae gennych yr hawl i gyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am sut yr ydym yn ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Mae manylion am sut gallwch wneud hyn yn https://ico.org.uk (Yn agor ffenestr newydd).

Gweithgareddau prosesu ar gyfer cofrestryddion, cofrestryddion arolygol ac awdurdodau cofrestru

Rhestr o weithgareddau prosesu ar gyfer cofrestryddion, cofrestryddion arolygol ac awdurdodau cofrestru.
Close Dewis iaith