Toglo gwelededd dewislen symudol

Mabwysiadu neu roddi coeden

Byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i bersonoli, wedi'i ysgythru a'r geriau o'ch dewis ar y goeden a fabwysiedir neu a roddir o'ch dewis.

Mae cynllun 'Mabwysiadu Coeden' Cyngor Abertawe'n ffordd wych o gefnogi a mwynhau parciau a gerddi Abertawe y mae llawer o bobl yn eu mwynhau gyda'u teuluoedd ac mae'n rhoi lle i breswylwyr eistedd ac ymlacio ynddynt boed law neu hindda.

Mae rhoi cyfraniad tuag at fabwysiadau coeden bresennol neu roi rhodd o goeden newydd yn ffordd ddelfrydol o nodi carreg filltir, digwyddiad neu i goffau bywyd anwylyn neu anifail anwes.

Mae'r cynllun yn cynnig cyfle i fusnesau, sefydliadau neu unigolion gael lle penodol yn un o'n gerddi, parciau neu ardaloedd hamdden hyfryd.

Adoption / donation details

Rhoi coeden newydd:

Pris ar gyfer preswylwyr - £399 (ac eithrio TAW)

Pris ar gyfer busnesau - £478.80 (gan gynnwys TAW)

Mabwysiadu coeden bresennol:

Pris ar gyfer preswylwyr - £254 (ac eithrio TAW)

Pris ar gyfer busnesau - £304.80 (gan gynnwys TAW)

Er mwyn cydnabod y cyfraniad, byddwn yn gosod plac dur gwrthstaen wedi'i ysgythru a'r geiriau o'ch dewis ar goeden o'ch dewis. Bydd y rhodd yn ariannu ac yn cynnal y goeden a'r plac wedi'i ysgythru. Bydd y goeden yn cael ei phlannu yn ystod mis Ionawr a Chwefror fel arfer, neu pan fydd yr amodau'n addas.

Gellir ond rhoddi neu fabwysiadu coed dan y cynllun hwn ar dir y mae Cyngor Abertawe'n berchen arno. Byddwn yn caniatau mabwysiadu neu roddi coeden mewn unrhyw barc neu ardal hamdden. Y ffactorau cyfyngu fyddai'r math o goeden ddewisol a'r lle sydd ar gael. Cadarnheir hyn gan y parciau.

Does dim safleoedd pellach ar ôl yng Ngerddi Clun ar gyfer coed coffa neu goed a fabwysiadwyd.

Sut mae cyflwyno cais

Unwaith rydych wedi penderfynu ar eich lleoliad ac rydych wedi darllen yr amodau a'r telerau, ac rydych am fwrw ymlaen i fabwysiadu / roddi, cwblhewch y ffurflen ymholiad ar-lein isod.

Mabwysiadu neu roddi coeden - gwneud cais ar-lein Mabwysiadu neu roddi coeden - gwneud cais ar-lein

Unwaith bydd y ffurflen ymholiad wedi'i derbyn ac mae manylion eich archeb wedi'u cadarnhau, bydd dolen i'r ffurflen talu ar-lein yn cael ei hanfon yn uniongyrchol atoch. Os nad yw'n bosib i chi dalu ar-lein, darperir opsiynau eraill.

Caiff y ffioedd am goed a roddir neu a fabwysiedir eu hadolygu'n flynyddol ac efallai y byddant yn destun cynnydd, gydag unrhyw gynnydd o'r fath yn weithredol o 1 Ebrill tan 31 Mawrth bob blwyddyn, a bydd angen i'r cyngor gael taliad llawn ymlaen llaw. Ni osodir yr archeb am y goeden a'r gwaith nes derbyn y taliad.

Caiff archebion ar gyfer coed NEWYDD a gyflwynwyd ar ol 1 Ionawr 2023 eu plannu ym mis Ionawr / Chwefror 2024.

Mabwysiadu neu roddi coeden - gwneud cais ar-lein

Gallwch gyflwyno cais ar-lein i fabwysiadu neu roi coeden.

Mabwysiadu neu roddi coeden - amodau a thelerau

Mae'r cynllun presennol yn canitau rhoddi coeden newydd neu fabwysiadu coeden bresennol drwy bryniant arbennig. Bydd hyn yn ddibynnol ar oes lleoliadau addas ar gael ac wedi cytuno arnynt gan y parc ac argaeledd y goeden.
Close Dewis iaith