Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Man storio bagiau yng nghanol y ddinas

Gadewch eich bagiau a'ch nwyddau mewn lle diogel wrth i chi siopa.

Mae 16 o loceri meintiau gwahanol ar gael yn y siop Llogi Cyfarpar Symudedd Abertawe i chi adael eich pethau yno.

Prisiau storio bagiau
Maint y locerNifer y loceri sydd ar gaelCyfradd ddyddiol lawn*Cyfradd hanner diwrnod*
Safonol6£3.15£2.10
Canolig4£4.20£3.15
Mawr4£5.25£4.20
Mawr iawn (maint cês ddillad) 2£6.30£5.25
Mae cyfleuster storio dros nos hefyd ar gael am ffi o £16.

* ceir hefyd ffi allwedd ddychweladwy o £3 ar ben y cyfraddau hyn.

Cyntaf i'r felin fydd hi i gael locer a byddant ond ar gael yn ystod oriau agor y siop llogi cyfarpar symudedd.

Bydd angen i ddefnyddwyr ddarparu ID, cwblhau ffurflen syml a llofnodi i ddweud y byddant yn cadw at yr amodau defnyddio.

Close Dewis iaith