Datganiadau i'r wasg Medi 2019

Canolfan yn helpu i godi ysbryd cymuned ym Mount Pleasant
Mae ysbryd cymunedol newydd ym Mount Pleasant ac mae'n dod o fflat ar Stryd Rhondda.

Disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn ysgol 'hapus a chynhwysol'
Yn ôl arolygwyr, mae disgyblion yn gwneud cynnydd da wrth ddysgu yn ystod eu hamser yn Ysgol Gynradd Waunarlwydd ac yn cyflawni'n dda, ac mae'r athrawon yn cynnal gwersi cyffrous, amrywiol sydd wedi'u cynllunio'n dda ar draws amrywiaeth o bynciau.

Cronfa bensiwn y cyngor yn ennill gwobr am fyw'n wyrdd
Cydnabyddir cronfa bensiwn Cyngor Abertawe fel y cynllun llywodraeth leol gorau yn y DU am fuddsoddiad cynaliadwy.
Disgyblion cyffrous yn cael cip ar y cynnydd a wnaed ar eu hysgol newydd
Mae disgyblion cyffrous yn Abertawe wedi bod i weld y cynnydd a wnaed wrth adeiladu eu hysgol newydd.

Gallai cynllun hunanadeiladu tai gael ei dreialu yn Abertawe
Gallai cynllun blaengar i annog mwy o bobl i hunanadeiladu eu tai gael ei dreialu yn Abertawe.

Disgyblion yn gwneud cynnydd da mewn ysgol hynod ofalgar
Mae'r rhan fwyaf o ddisgyblion Ysgol Gynradd Portmead yn gwneud cynnydd da yn eu dysgu ac yn cyflawni'n dda yn ystod eu hamser yn yr ysgol, yn ôl arolygwyr.

Agweddau at ddysgu a lles yn ardderchog mewn ysgol yn ôl arolygwyr
Mae amgylchedd diogel iawn yn Ysgol Gynradd y Crwys yn Abertawe, lle mae disgyblion yn teimlo'n hapus ac yn ddiogel ac maent yn mwynhau dysgu'n fawr, yn ôl arolygwyr Llywodraeth Cymru.

Caniatâd cynllunio wedi'i gymeradwyo ar gyfer safle newydd i ysgol gynradd Gymraeg
Mae cynlluniau am safle newydd ar gyfer ysgol gynradd Gymraeg lwyddiannus â lleoedd ychwanegol ar gyfer disgyblion a chanolfan Dechrau'n Deg wedi'u cymeradwyo'n unfrydol gan gynghorwyr.

Marciau uchel gan fod presenoldeb ysgol yn parhau i wella
Mae ysgolion uwchradd yn Abertawe bellach ymysg y rhai sy'n perfformio orau yng Nghymru o ran sicrhau bod disgyblion yn mynychu gwersi.

Ymgyrch i annog y rheini y mae eu plant wedi gadael cartref i feddwl am faethu
Mae Maethu Abertawe, sef gwasanaeth maethu'r cyngor, yn galw ar rieni sy'n paratoi i ffarwelio â'u plant wrth iddynt adael am y brifysgol neu'r rheini y mae eu plant yn gadael cartref i ystyried maethu.
Prentisiaethau newydd y cyngor yn creu dyfodol disglair
Mae tîm newydd o brentisiaid wedi dechrau creu dyfodol disglair i'w hunain yng Nghyngor Abertawe.

Diolch i wirfoddolwyr am gefnogi canolfannau cymunedol
Mae Cyngor Abertawe wedi diolch yn arbennig i rai o'r gwirfoddolwyr sy'n rhoi o'u hamser eu hunain i gynnal y 38 o ganolfannau cymunedol sydd ar gael yn y ddinas.
Caswell yn chwifio'r faner dros dwristiaeth hygyrch
Mae un o draethau mwyaf poblogaidd Abertawe bellach yn lle mwy croesawgar fyth i ymwelwyr y mae eu symudedd yn gyfyngedig iawn.
Safonau Masnach yn gweithredu i atal gwerthu cyllyll yn anghyfreithlon
Bydd Safonau Masnach yn Abertawe'n parhau i gynnal profion prynu yn y ddinas i atal siopau rhag gwerthu cyllyll i bobl ifanc dan 18 oed.

Teyrngedau i ddau o gyn-gynghorwyr y ddinas
Telir teyrngedau i ddau o gyn-gynghorwyr Abertawe sydd wedi marw o fewn diwrnodau i'w gilydd.
Siopwyr y farchnad i'w dylanwadu gan ben-cogyddion
Bydd nifer o ben-gogyddion talentog yn diddanu ac yn rhannu eu gwybodaeth â siopwyr yng nghanol y ddinas yr wythnos nesaf(nodir: Medi 9-13).

Cyffro wrth i becynnau ras 10k Bae Abertawe Admiral gael eu dosbarthu
Caiff miloedd o becynnau ras eu dosbarthu i redwyr ras 10k Bae Abertawe Admiral dros y dyddiau nesaf.

Elusennau allweddol yn elwa o Ras Masgotiaid 10k Bae Abertawe Admiral
Bydd yr RNLI ac Ambiwlans Awyr Cymru ymysg yr elusennau a fydd yn cael sylw yn ystod ras masgotiaid flynyddol 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn.
Tymor ysgol newydd yn golygu llwybrau mwy diogel i blant ysgol Abertawe
Bydd disgyblion yng nghymuned Abertawe'n gallu cerdded i'r ysgol yn haws diolch i gynllun diogelwch ffyrdd newydd a gwblhawyd yn ystod gwyliau'r haf.
Y cyngor yn dod i'r adwy i achub Theatr y Palas
Bydd Cyngor Abertawe'n dod i'r adwy i achub un o drysorau pensaernïol canol y ddinas.
Bardd ar fin lansio ffilm am hil ac amrywiaeth yng nghymunedau Cymru
Mae un o feirdd mwyaf blaenllaw Cymru'n bwriadu ymweld ag Abertawe dros y penwythnos i lansio ffilm newydd am hil ac amrywiaeth yng nghymunedau Cymru.

Sut y gwnaeth Abertawe atgyfodi o lwch y blitz tair noson ar ôl y rhyfel
Mae llyfr newydd am Abertawe ar ôl y rhyfel yn taflu goleuni newydd ar y gwaith i ailadeiladu tref a oedd i ddod yn ddinas.

Ysgol fusnes dros dro'n dychwelyd i Abertawe
Bydd digwyddiad am ddim sy'n rhoi'r sgiliau i gyfranogwyr ddechrau eu busnesau eu hunain heb arian cyfalaf neu gyllid yn dod i Abertawe'r mis hwn.

Gwirfoddolwyr Gorseinon yn gosod cyflymder yn ras 10k Bae Abertawe Admiral
Bydd rhedwyr gosod cyflymder wrth law yn ras 10k Bae Abertawe Admiral y mis hwn i helpu rhedwyr i gwblhau'r ras o fewn yr amser yr oeddent yn anelu amdano.
Cyngor Abertawe'n achub adeilad Theatr y Palas
Bydd Cyngor Abertawe'n dod i'r adwy i achub un o drysorau pensaernïol canol y ddinas.

Translation Required: Kingsway scheme: Benefits for road users and pedestrians
Translation Required: A range of motoring, pedestrian safety and public transport benefits being delivered by Swansea's Kingsway transformation is published today.

Miloedd o bobl ar lan môr Abertawe ar gyfer y ras 10k lwyddiannus flynyddol
Daeth miloedd o redwyr a gwylwyr i strydoedd Abertawe ddydd Sul 22 Medi ar gyfer ras 10k Bae Abertawe Admiral.
Arbenigwr celf o'r ddinas yn helpu i drysorau'r DU fynd ar daith
Mae arbenigwr celf o Abertawe wedi cydweithio â'r Amgueddfa Brydeinig i greu arddangosfa unigryw.
Tridiau'n unig sydd ar ôl i fynegi barn cychwynnol am hen safle Oceana
Tridiau'n unig sydd ar ôl i'r cyhoedd roi mewnbwn cychwynnol ar gynlluniau cyffrous ar gyfer safle hen glwb nos Oceana.
Diego - dyma Darren, un o dy greawdwyr!
Mae Darren Hounsell, parameddyg y GIG, yn dod i adnabod un o weithiau celf mwyaf anghyffredin Abertawe unwaith eto - 33 o flynyddoedd ar ôl iddo helpu i'w greu.
Dathliad Cerddorol Abertawe yn nodi canmlwyddiant ers i'r ddinas ennill statws dinas
Mae gwerth hanner canrif o bethau cerddorol cofiadwy a thrawiadol yn helpu Abertawe i ddathlu ei hanner canmlwyddiant cyntaf ers iddi ennill statws dinas.

Casglu barn ar ganllawiau cynllunio newydd ar gyfer HMO
Gall preswylwyr a landlordiaid yn Abertawe fynegi eu barn bellach ar ganllawiau cynllunio newydd sydd wedi'u llunio i gynorthwyo â chynllunio HMO yn y ddinas yn y dyfodol.

Translation Required: Public to have their say on new HMO planning guidance
Translation Required: New draft planning guidance has been developed to help determine future applications for houses in multiple occupation in Swansea.

Mwy o gartrefi ar y gorwel ar gyfer Abertawe wrth iddi fynd i'r afael â phroblemau'r hinsawdd
Mae Cyngor Abertawe'n adeiladu mwy fyth o gartrefi sy'n llesol i'r amgylchedd yn y ddinas ar ôl derbyn cyfran o grant gan Lywodraeth Cymru sy'n werth £30 miliwn.
Pleidleisiwch dros Abertawe ar gyfer Gwobrau Stryd Fawr Orau Prydain
Mae Stryd Fawr Abertawe yn y ras i ennill gwobr nodedig Stryd Fawr Orau Prydain fel Pencampwr y Stryd Fawr.
Pobl ifanc fentrus yn cynnig mewnwelediad i ddysgu eu gwersi
Daeth disgyblion o saith ysgol yn Abertawe wyneb yn wyneb â'r person sy'n gyfrifol am gwricwlwm newydd Cymru i leisio'u barn am eu gwersi.

Eich cyfle i fod yn archarwr yn Sgwâr y Castell
Rhoddir cyfle i archarwyr y ddinas ddathlu un o'r ffilmiau mwyaf llwyddiannus erioed yn Sgwâr y Castell ar 5 Hydref.
Dyddiad dechrau ym mis Tachwedd ar gyfer cynllun gwella traffig yn Abertawe
Bydd gwaith i wella croesffordd yn Abertawe'n dechrau ym mis Tachwedd.
Myfyrwyr yn cael help i ailgylchu wrth i'r tymor newydd ddechrau
Mae myfyrwyr sy'n cyrraedd Abertawe yn cael eu targedu fel rhan o ymgyrch ar draws y ddinas i'w hannog i ailgylchu.