Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffynonellau cyngor pellach i ofalwyr

Sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig mwy o gyngor a chefnogaeth i chi.

Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia a Dementia Hwb

Mae Abertawe sy'n Ystyriol o Ddementia'n canolbwyntio ar wella ansawdd bywyd i bobl sy'n byw gyda dementia.

Age Cymru Gorllewin Morgannwg

Cofrestrwch nawr i gael cymorth a chyngor am ddim.

Atgofion Chwaraeon

Elusen a menter gymdeithasol yw Atgofion Chwaraeon sy'n helpu pobl hŷn i gofio, ail-fyw ac ail-gysylltu drwy bŵer chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Brainkind

Elusen genedlaethol sy'n darparu gofal, darpariaeth ailsefydlu ac atebion cymorth i bobl a chanddynt namau corfforol difrifol, anaf i'r ymennydd ac anawsterau dysgu, yn ogystal â phlant ac oedolion ag awtistiaeth.

CISS (Gwasanaethau Gwybodaeth a Chymorth Canser)

Cefnogaeth i'r rheini â chanser, eu gofalwyr, teulu a ffrindiau yn ne-orllewin Cymru.

Canolfan gofalwyr Abertawe

Mae Canolfan gofalwyr Abertawe yn darparu cymorth a gwybodaeth i ofalwyr ar draws Abertawe drwy ddarparu cyngor ar fudd-daliadau lles; mynediad at grantiau a chronfeydd arbennig; gwasanaeth cwnsela; gofal seibiant; cymorth cyflogaeth; Mae ganddynt rieni sy'n ofalwyr ymroddedig, gofalwyr sy'n oedolion ifanc, gofalwyr gwrywaidd a gwasanaethau dementia.

Carers Trust

Elusen fawr ar gyfer gofalwyr yw Carers Trust sy'n gweithio gyda gofalwyr er lles gofalwyr.

Carers UK

Gall Carers UK roi cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth dros y ffôn ac ar-lein.

Cartrefi Cymru

Mae Cartrefi yn cefnogi pobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, ymddygiadau heriol, pobl hŷn a gofalwyr yn bennaf.

Comisiynydd Pobl Hŷn

Llais a hyrwyddwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ar draws Cymru.

Contact Cymru

Elusen sy'n cynnig cymorth i deuluoedd a chanddynt blant anabl.

Cydlynwyr ardaloedd lleol

Gall eich cydlynydd ardal leol eich helpu i ddod o hyd i gyngor a chefnogaeth yn eich cymuned.

Cymdeithas Alzheimer

Cymorth i bobl y mae dementia yn effeithio arnynt.

Côr Musical Memories

Côr â Phwrpas yw Côr Musical Memories! Dechreuwyd y côr yn 2014 allan o ddymuniad i roi'r cyfle i bobl sy'n byw gyda dementia a gofalwyr ddod at ei gilydd i brofi buddion canu a chyfeillgarwch pobl eraill sy'n byw trwy brofiadau tebyg.

Dementia Carers Count

Dementia Carers Count are working for a world where all family and friends taking care of someone with dementia feel confident, supported, and heard. They provide free online and face-to-face courses for unpaid carers.

Dementia UK a Nyrsys Admiral

Nyrsys dementia arbenigol yw Nyrsys Admiral. Maent yn cael eu cefnogi a'u datblygu'n barhaus gan Dementia UK, maent yn darparu cefnogaeth sy'n newid byd i deuluoedd yr effeithir arnynt gan bob math o ddementia - gan gynnwys clefyd Alzheimer.

Fforwm Rhieni Ofalwyr Abertawe

Gwybodaeth ddefnyddiol i ofalwyr sy'n rhieni am wasanaethau'r Awdurdod Lleol, darpariaeth iechyd, cymorth iechyd meddwl a lles, cefnogaeth yn y gweithle

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Abertawe (FIS) yn siop dan yr unto, gan ddarparu gwybodaeth ddiduedd o safon am ddim am amrywiaeth eang o faterion gofal plant, plant, cymorth teuluoedd ac sy'n ymwneud â theuluoedd a, lle bo'n berthnasol, gwasanaeth cyfeirio

Gweithred dwyllodrus

Twyll yw cynllun sydd wedi'i greu i'ch twyllo i roi eich arian, eich manylion personol neu eich nwyddau. Mae'n anodd iawn i gael y rhain yn ôl os ydych wedi'u rhoi i dwyllwyr.

Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L)

Mae'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n dioddef gofid meddyliol yn ogystal â'u ffrindiau, eu gofalwyr a'u perthnasau

Maggie's Abertawe

Os ydych chi neu rywun sy'n annwyl i chi wedi cael diagnosis o ganser, gall Maggie's Abertawe helpu.

The Exchange

The-Exchange yn arbenigo mewn cefnogi lles seicolegol plant, pobl ifanc a theuluoedd.

YMCA Abertawe

Nod YMCA Abertawe yw trechu tlodi; gwella iechyd a lles; hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth; a gwella ansawdd bywyd plant, pobl ifanc a chymunedau yn Abertawe a'r ardaloedd cyfagos.

Yr Uned Cefnogi Tenantiaid

Mae'r Uned Cefnogi Tenantiaid yn darparu cefnogaeth a chyngor sy'n ymwneud â thai i berchnogion tai, tenantiaid cymdeithasau tai, tenantiaid cyngor a'r rheini sy'n rhentu o'r sector preifat.
Close Dewis iaith