Toglo gwelededd dewislen symudol

Tocyn parcio â blaenoriaeth ar gyfer gemau cartref yr Elyrch

Rydym yn cynnig lle parcio gwarantedig ar ddiwrnodau gemau ar gyfer deiliaid y tocynnau â blaenoriaeth yn safle Parcio a Theithio Glandŵr.

Bydd y tocyn parcio â blaenoriaeth yn ddilys ar gyfer gemau cynghrair Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn 2023-24 yn Stadiwm Swansea.com. Gellir gweld y gemau sydd ar ddod yng ngwefan Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe.

Mae'r maes parcio hwn gyferbyn â Stadiwm Swansea.com ac mae'n cynnig mannau parcio gwastad a hygyrch sydd ddigon agos at siopau a bwytai Parc Manwerthu'r Morfa. 

Parcio a Theithio Glandŵr (dolen i'r map)

Hawlen yn ddilys o 1 Tachwedd 2023: £75 - archebwch nawr

Dyddiad cau'r cynnig: 31 Rhagfyr 2023 (neu'n gynt os gwerthwyd pob un)

Caiff tocynnau parcio eu prosesu a'u postio o fewn 7 niwrnod i gyflwyno'r cais.

Gwneud cais ar ddiwrnod gêm - os ydych yn gwneud cais am docyn parcio ar ddiwrnod gêm, yna cyn belled ag yr ydych yn gwneud hynny cyn 12 ganol dydd (ac eithrio penwythnosau) yna gallwn roi eich enw a'ch rhif cofrestru i oruchwylwyr y maes parcio a byddwch yn gallu cael mynediad i'r maes parcio. Ni fydd tocynnau parcio'n cael eu prosesu ar benwythnosau.

Gwneud cais ar ddiwrnod pan nad oes gêm - os ydych yn gwneud cais am docyn parcio ar ddiwrnod pan nad oes gêm (ac eithrio penwythnosau), yna gallwn roi eich enw a'ch rhif cofrestru i oruchwylwyr y maes parcio a byddwch yn gallu cael mynediad i'r maes parcio nes eich bod yn derbyn eich tocyn parcio.

Cwestiynau cyffredin

A gaiff gemau cwpan eu cynnwys?

Nid yw gemau cwpan yn cael eu cynnwys, ond byddwn yn agor y safle Parcio a Theithio ar gyfer gemau cwpan. Ceir manylion am oriau agor a nifer y lleoedd parcio ar-lein cyn y gemau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau eraill, e-bostiwch seasonticketenquiry@abertawe.gov.uk.

Amodau a thelerau

  1. Ceir mynediad i gyfleuster Parcio a Theithio Glandŵr gyda cherdyn.
  2. Mae'r tocyn parcio â blaenoriaeth tymhorol yn ddilys ar gyfer gemau cartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe yn Stadiwm Swansea.com a gellir ei ddefnyddio ar gyfer gemau'r gynghrair a restrwyd yn unig. Rhestr gemau i'w chadarnhau.
  3. Anfonir y cardiau i'r cyfeiriad a ddarparwyd wrth wneud cais am y tocyn parcio tymhorol.
  4. Gellir parcio ar ddiwrnod gêm 2 awr cyn i'r gêm ddechrau, felly byddai'r maes parcio ar agor o 1.00pm tan 7.00pm ar gyfer gêm sy'n dechrau am 3.00pm.
  5. Ni ellir cael ad-daliad am y tocyn tymhorol hwn ac ni ellir ei drosglwyddo.
  6. Gweler Ticketsource ar gyfer dyddiad cau.
  7. Gellir gwneud cais am docynnau parcio a thalu amdanynt ar-lein drwy Ticketsource.
  8. Bydd yn rhaid talu ffi o £25 punt am gerdyn talu newydd yn lle un a gollwyd.
Close Dewis iaith