* Bydd Plantasia ar gau o 7 Ionawr 2019 ar gyfer gwaith cynnal a chadw/gwella. Cadwch lygad ar y wefan am y diweddaraf am bryd bydd y lleoliad yn ailagor *

Plantasia
Dewch i archwilio ein hafan drofannol unigryw yng nghanol y ddinas sy'n llawn planhigion ac anifeiliaid gwych.
Pam Plantasia?
Mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe'n ystyried ei gyfrifoldeb amgylcheddol o ddifrif ac roedd yn ysbrydolus ac yn flaengar pan benderfynodd greu coedwig law yng nghanol y ddinas i amlygu'r angen i ddiogelu'r byd rydym yn byw ynddo a phwysigrwydd hyn. Mae coedwigoedd glaw mor bwysig gan mai dyma ysgyfaint y byd ac ynddynt y mae hanner rhywogaethau planhigion ac anifeiliaid y byd.
Ond, a wyddech chi...bob eiliad mae maint maes pêl-droed yn cael ei ddinistrio, hynny yw 86,400 o feysydd pêl-droed y dydd, neu dros 31 miliwn o feysydd pêl-droed o goedwigoedd glaw'r flwyddyn!
Felly yma yn Plantasia, rydym yn gobeithio dangos pwysigrwydd achub ein coedwigoedd glaw! Felly, dewch i grwydro ein paradwys drofannol, cymerwch amser i ddysgu am y planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw yn y coedwigoedd glaw prydferth.