
Coronafeirws - Profi, Olrhain, Diogelu
Profi, Olrhain, Diogelu yw strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer profi'r cyhoedd ac olrhain lledaeniad Coronafeirws yng Nghymru.
Mae olrhain cysylltiadau'n rhan o'r strategaeth hon. Mae'n ffordd brofedig o reoli lledaeniad clefydau heintus.
Mae olrhain y bobl y mae person heintiedig wedi bod mewn cysylltiad â nhw yn galluogi'r bobl hynny i gael gwybod am eu risg posib o gael eu heintio, a gallant gael cyngor i osgoi lledaenu'r feirws yn fwy.