Toglo gwelededd dewislen symudol

Rhoi gwybod am broblem llygredd

Gallwch roi gwybod i ni am broblem gyda sŵn, dŵr, llygredd tir neu aer. Y peth cyntaf y dylech chi ei wneud yw siarad â'r person neu'r busnes sy'n achosi'r niwsans. Mae'n bosib nad ydynt yn sylweddoli bod problem ac yn aml byddant yn helpu.

Os nad yw hyn wedi helpu'r broblem yna gallwch roi gwybod i ni am y broblem sŵn. Cedwir eich manylion yn gyfrinachol. Sylwer, ni allwn dderbyn cwynion dienw.

Ansawdd dŵr pwll nofio

Dywedwch wrthym ym mha bwll roedd y broblem, y dyddiad a'r amser ac unrhyw symptomau. Ar gyfer ceisiadau nad ydynt yn rhai brys, bydd swyddog yn cysylltu â chi o fewn 5 niwrnod gwaith. Os oes posibilrwydd bod dŵr pwll wedi'i halogi yna bydd swyddog yn cysylltu â chi o fewn 24 awr. Byddwn wedyn yn cymryd samplau dŵr o'r pwll ac yn ymchwilio i reolaeth y pwll. Byddwn yn cysylltu â chi unwaith eto pan fydd y canlyniadau ar gael.

Coelcerthi

Does dim cyfreithiau penodol yn erbyn coelcerthi. Er mwyn iddynt fod yn niwsans cyfreithiol, byddai rhaid bod problem reolaidd a byddai rhaid iddynt fod yn effeithio ar eich iechyd, eich cysur neu fwynhad yn eich eiddo. Mae anodd cymryd camau yn erbyn niwsans os ydych yn cael eich poenydio gan goelcerthi fwy nag un eiddo.

Sŵn

Synau na allwn ddelio â hwy

  • plant neu bobl ifanc sy'n achosi annifyrrwch
  • gweiddi/sgrechian a chlepian drysau
  • sŵn o draffig gan gynnwys pibellau gwacáu swnllyd
  • awyrennau milwrol neu awyrennau sifil
  • tân gwyllt (nid oes gan y cyngor unrhyw reolau lleol am danio tân gwyllt)

Pob cwyn arall

Bydd swyddog yn cysylltu â chi am fwy o wybodaeth lle bo'r angen, o fewn 5 niwrnod gwaith.

Os yw'n well gennych roi gwybod am broblem dros y ffôn, gallwch ffonio Canolfan Alwadau'r Amgylchedd ar 01792 635600 neu e-bostiwch pollution@swansea.gov.uk

Close Dewis iaith