Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Rhoi gwybod am broblem parcio

Mae gennym gyfrifoldeb i orfodi cyfyngiadau parcio penodol. Gallwch ddweud wrthym am unrhyw broblemau parcio sy'n ymwneud â'r ardaloedd gorfodi hyn drwy ddefnyddio'r ffurflen hon.

Rhowch wybod i ni os yw'r problemau parcio'n ymwneud â'r canlynol: 

  • cerbyd yn rhwystro'ch dreif (efallai yr hoffech wneud cais am farc bar 'H')
  • cilfach barcio i bobl anabl
  • cilfach lwytho
  • parcio llinellau melyn
  • rhwystro cilfach barcio ddynodedig i feddyg
  • rhwystro cwrbyn isel i gerddwyr
  • talu ac arddangos
  • parcio i breswylwyr
  • parcio am gyfnod cyfyngedig
  • cerbydau wedi'u gadael

Heddlu De Cymru sy'n gorfodi tramgwyddau parcio eraill. I adrodd wrth yr heddlu am broblemau parcio, ffoniwch 101. 

Close Dewis iaith