
Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe
Mae Cyngor Gwasanaeth Gwirfoddol Abertawe'n cefnogi, yn datblygu ac yn cynrychioli sefydliadau gwirfoddol, gwirfoddolwyr a chymunedau ar draws Abertawe.
Mae'n darparu amrywiaeth eang o wybodaeth, cyngor a chefnogaeth ac mae'n cynrychioli barn y sector i'r llywodraeth a'r rhai sy'n llunio polisïau.
Gallant helpu os ydych yn chwilio am gyfleoedd gwirfoddoli yn yr ardal, os hoffech sefydlu grŵp gwirfoddol newydd neu os ydych yn chwilio am gyngor ar ffynonellau ariannu. Gallant helpu hefyd i ddod o hyd i gyfleoedd hyfforddi anffurfiol yn yr ardal.
Cysylltwch â scvs@scvs.org.uk neu defnyddiwch y manylion isod.
7 Walter Road
Abertawe
SA1 5NF
United Kingdom