Storio gwastraff masnachol
Dewch o hyd i wybodaeth am storio'ch gwastraff gan ddefnyddio ein biniau gydag olwynion a'n sachau gwastraff.
Sut gallwch chi'n helpu ni a chydymffurfio â'ch dyletswydd gofal. Mae'n rhaid i chi storio gwastraff yn gywir. I wneud hyn:
- rhowch eich holl wastraff/ailgylchu yn y cynhwysydd priodol a ddarparwyd i chi er enghraifft mewn bin neu sachau
- caewch gaead y bin a pheidiwch â gadael gwastraff wrth ochr y bin neu ar ei ben
- cyflwynwch gardbord yn wastad neu mewn blwch mwy
- peidiwch â gadael gwastraff ychwanegol, gan gynnwys cardbord, ar y stryd y tu hwnt i'r diwrnod a'r amser casglu
- peidiwch â rhoi gwydr wedi torri neu wrthrychau miniog yn y sachau
- peidiwch â llenwi'ch bin yn ormodol na gadael unrhyw wastraff ychwanegol wrth ochr neu ar ben eich bin
- peidiwch â rhoi mwy o wastraff allan na'r swm a nodwyd yn eich cytundeb. Os ydych yn gwneud hyn, rydych yn rhoi gwastraff allan nad ydych wedi talu amdano ac ni fydd yn cael ei gasglu
- os ydym yn methu casgliad neu os oes yna broblem gadewch i ni wybod cyn gynted â phosib fel ein bod ni'n gallu gwneud trefniadau i'w gasglu
- rhowch wastraff/ailgylchu allan ar y stryd ar yr amser a nodwyd yn eich cytundeb yn unig. Os yw'ch busnes mewn ardal lle mae yna ardaloedd casgliadau gwastraff wedi'u hamseru mae'n rhaid i chi hefyd ddilyn y cynllun hwn
Sawl cynhwysydd y mae eu hangen arnaf?
Mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich cynhwysydd yn ddigon mawr ar gyfer yr holl wastraff yr ydych yn ei greu. Os oes gennych unrhyw wastraff ychwanegol ni fyddwn yn ei gasglu oni bai y cytunwyd ar hyn ymlaen llaw. Os yw'ch gwastraff yn amrywio o wythnos i wythnos mae'n rhaid i chi sicrhau bod eich cynhwysydd yn ddigon mawr i ddal y rhan fwyaf o'r gwastraff y gallech ei greu. Os nad oes gennych le ar gyfer bin mae'n bosib y bydd angen math gwahanol o gynhwysydd arnoch, er enghraifft y rhif cyfwerth o sachau yn lle bin. Rydym yn cyfrifo bod bin 360l yn dal tua 5 sach safonol 70l a bin 1100l yn dal tua 15 sach.