Chwilio'r wefan
English

Mal Pope [CHANSLO]

Noson o Straeon a Chaneuon.

Mal Pope
4 Tach 2020
7.45PM.
Theatr y Grand Abertawe
Stryd Singleton, Abertawe SA1 3QJ

O'i ddyddiau'n recordio gydag Elton John yn Abbey Road i sioeau cerdd megis Cappuccino Girls ac Amazing Grace a werthodd bob tocyn mewn theatrau ar draws y wlad, bydd yn adrodd hanesion am y blynyddoedd a dreuliodd yn teithio'r byd gydag Art Garfunkel a Belinda Carlisle yn ogystal â rhannu sut brofiad oedd cynhyrchu a chyfansoddi'r gerddoriaeth ar gyfer y ffilm "Jack to a King".
Bydd y perfformiad personol hwn yn cynnwys caneuon y mae Mal wedi'u hysgrifennu ar gyfer artistiaid megis Cliff Richard a'r Hollies a'r deuawdau y mae wedi'u recordio gyda Bonnie Tyler ac Aled Jones. Mae'n bosib y cewch gyfle i holi ambell gwestiwn i Mal am y straeon y tu ôl i'r caneuon hefyd.

Wedi'i bweru gan GOSS iCM