Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Swyddi gwag cyfredol

Swyddi sydd ar gael gyda Dinas a Sir Abertawe neu sefydliadau partneriaeth.

Carer helping someone up

Dylid cyflwyno ffurflenni cais erbyn 11.59pm ar y dyddiad cau.

Mae ffurflenni cais ar gael mewn amrywiaeth o fformatau, e.e. print bras/braille/tâp sain. Ffoniwch 01792 636098 os oes angen unrhyw un o'r cyfleusterau hyn arnoch.

Blaenoriaethir y gweithwyr hynny y mae eu swyddi mewn perygl.

Os ydych eisoes yn gweithio i'r cyngor, rydych hefyd yn gymwys i wneud cais am y swyddi gwag mewnol sydd ar gael.

Awgrymiadau ar gwblhau eich ffurflen gais (PDF) [30KB]

Hoffwch ni ar Facebook (Yn agor ffenestr newydd) neu dilynwch ni ar Twitter (Yn agor ffenestr newydd) i gael y newyddion diweddaraf am swyddi.

Seicolegydd Addysg Locwm (llawn-amser neu ran-amser)

Yn sgil galw cynyddol, mae Gwasanaeth Seicoleg Addysg Abertawe (EPS) yn chwilio am seicolegydd addysg locwm (LEP).

Cynorthwywyr Personol Gofal Cymdeithasol

O £12.00 yr awr. Cyflogir Cynorthwyydd Personol Gofal Cymdeithasol i gefnogi unigolyn i fyw mor annibynnol â phosib. Mae amrywiaeth o swyddi ar gael yn ardal Abertawe i gefnogi unigolion o bob oed (gan gynnwys plant ac oedolion), cefndir a gallu.

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 24/4/24)

Gradd 8, £35,411 y flwyddyn (newydd gymhwyso), Gradd 9 £36,298 - £40'478 y flwyddyn (cymwysedig). Yn Abertawe credwn mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir a'r amgylchedd gwaith cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Hebryngwr Croesfan Ysgol (dyddiad cau: 31/03/2024)

£20,812 pro rata (£10.79 p/h). Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac amddiffyniad pob plentyn a pherson ifanc a bydd yn cymryd camau i ddiogelu eu lles. Felly, ar hyn o bryd rydym yn bwriadu recriwtio Hebryngwyr Croesfannau Ysgol mewn gwahanol leoliadau yn Abertawe i ddarparu croesfan fwy diogel i blant ac oedolion sy'n mynychu sefydliad addysg.

Uwch Swyddog Rheoli Adeiladu x2 (dyddiad cau: 18/04/24)

£42,403 y flwyddyn yn ogystal â 15% o dâl atodol. Rydym angen unigolyn brwdfrydig a hunanysgogol i weithio o fewn y tîm Rheoli Adeiladu. Mae sgiliau cyfathrebu da, ymrwymiad i weithio mewn tîm ac agwedd gadarnhaol tuag at ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar gwsmeriaid yn hanfodol.

Swyddog Marchnata Digidol (dyddiad cau: 15/02/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Cytundeb dros dro yw hwn hyd at 31 Mawrth 2025 ar gyfer Swyddog Marchnata Digidol.

Uwch-ymarferydd Gwaith Cymdeithasol (dyddiad cau: 29/04/24)

£43,421 - £45,441 y flwyddyn. Yn Abertawe, rydym yn credu mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf, a byddwn yn sicrhau bod gennych y gefnogaeth gywir ac amgylchedd gweithio cadarnhaol i ddarparu gofal cymdeithasol rhagorol i blant, pobl ifanc a theuluoedd.

Gweithiwr Addurniadau Blodau Tymhorol (dyddiad cau: 02/04/24)

£23,114 y flwyddyn. Rydym yn chwilio ar hyn o bryd am unigolion i fod yn rhan o dîm a fydd yn gyfrifol am ddarparu'r Cynllun Basgedi Crog mewn modd effeithlon ac effeithiol.

Cydlynydd Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol (dyddiad cau: 04/04/24)

£43,421 - £47,420. Mae'n bleser gennym gyhoeddi'r cyfle i weithio fel Cydlynydd y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol yng Ngwasanaeth Priffyrdd a Chludiant yr Adran Lle. Bydd deiliad y swydd yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno polisi cynllunio trafnidiaeth strategol gan gynnwys pob agwedd ar y Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol. Cytundeb cyfnod penodol am 12 mis o'r dyddiad cychwyn.

Swyddog Safonau Masnach : Swyddog Iechyd yr Amgylchedd (dyddiad cau: 29/03/24)

£38,223 - £42,403 y flwyddyn. Rydym yn chwilio am naill ai Swyddog Iechyd yr Amgylchedd neu Swyddog Safonau Masnach cymwys, i ymuno â'n tîm.

Cynorthwyydd Gofal Nos/Domestig x 3 (dyddiad cau: 29/03/24)

£24,294 - £25,119 y flwyddyn (pro-rata). Dyma gyfle cyffrous i ymuno â'n tîm yn yr Hollies i weithio fel Cynorthwyydd Gofal Nos yn barhaol. Rydym yn recriwtio 2 swydd x 20 awr ac 1 swydd x 30 awr.

Cyfreithiwr Cysylltiol - Contractau (dyddiad cau: 29/03/24)

£43,421 - £47,420 y flwyddyn. Gwahoddir ceisiadau gan FCILEX, Cyfreithiwr neu Fargyfreithiwr brwdfrydig, arloesol, cymwys a phrofiadol i weithio yn ein tîm Contractau a Masnachol.

Ysgol yr Esgob Vaughan : Glanhawr

(dyddiad cau : 04/04/24) (5pm) Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gatholig yr Esgob Vaughan yn dymuno penodi glanhawr neu lanhawraig sy'n frwdfrydig, yn ddibynadwy, yn weithgar ac yn gydwybodol, ac a fyddai'n dymuno cyflawni rôl allweddol o ran cynnal amgylchedd diogel. Bydd deilydd y swydd yn rhan o dîm glanhau sefydledig sy'n sicrhau y cynhelir safonau rhagorol o ran glanhau.

Rheolwr Cynorthwyol (dyddiad cau: 02/04/24)

£38,223 - £42,403 y flwyddyn. Mae hwn yn ddatblygiad newydd cyffrous yn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd i fwrw ymlaen â datblygiad ein cynnig gwasanaethau preswyl mewnol. Mae arnom eisiau recriwtio i swydd Rheolwr Cynorthwyol ar gyfer Cartrefi Gofal Plant. Bydd y swydd yn un lawn-amser, barhaol.

Trydanwr (dyddiad cau: 02/04/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae Gwasanaethau Adeiladu yn awyddus i recriwtio trydanwr gydag amser gwasanaeth i weithio mewn Ardal brysur sy'n canolbwyntio ar y cwsmer.

Cyfrifydd Grŵp Addysg (dyddiad cau: 05/04/24)

£48,474 - £52,591 y flwyddyn. Mae hwn yn gyfle cyffrous i gyfrifydd â chymwysterau proffesiynol chwarae rôl bwysig yn Is-adran Cyfrifeg yr adran Gyllid. Byddwch chi'n bennaf cyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyllid a chyfrifeg ar lefel broffesiynol ar gyfer y gyfarwyddiaeth Addysg.

Swyddog Gofal Preswyl (dyddiad cau: 05/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Allech chi fod ein Swyddog Gofal Preswyl nesaf? Rydym am recriwtio 4 x Swyddog Gofal Preswyl. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych, p'un a ydych chi wedi gweithio mewn gofal yn y gorffennol, wedi gofalu am rywun annwyl neu â diddordeb dechrau ar yrfa ym maes gofal.

Ymgynghorydd Cyswllt Cwsmeriaid (Teleffoni) (dyddiad cau: 05/04/24)

£24,294 - £25,119 y flwyddyn. Rydym am recriwtio 2 driniwr galwadau amser llawn i Ganolfan Cyswllt Ffôn brysur ein hadran Amgylchedd a fydd yn ymdrin yn bennaf ag ymholiadau rheoli gwastraff gan aelodau'r cyhoedd, a threfnu i ddarparu gwasanaethau priodol.

Gweithiwr Achos Digartrefedd (dyddiad cau: 09/04/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae cyfle cyffrous wedi codi ar gyfer Gweithiwr Achos Digartrefedd, fydd yn gyfrifol am gynorthwyo cleientiaid sy'n ddigartref neu dan fygythiad o ddigartrefedd, yn ein gwasanaeth Opsiynau Tai prysur.

Gweithiwr Achos Digartrefedd Ieuenctid (dyddiad cau: 09/04/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn. Mae Opsiynau Tai yn chwilio am Weithiwr Achos Digartrefedd Ieuenctid i weithio mewn partneriaeth ag Info-Nation. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n deall heriau a chymhlethdodau pobl ifanc sy'n ddigartref.

Gweithiwr Achos Digartrefedd Ieuenctid (dyddiad cau: 09/04/24)

£29,777 - £33,024 y flwyddyn pro rata. Mae Opsiynau Tai yn chwilio am Weithiwr Achos Digartrefedd Ieuenctid rhan-amser i weithio mewn partneriaeth ag Info-Nation. Rydym yn chwilio am ymgeisydd sy'n deall heriau a chymhlethdodau pobl ifanc sy'n ddigartref.

Gweithiwr Cymorth Dydd (dyddiad cau: 09/04/24)

£24,294 - £25,119 y flwyddyn pro rata. Gweithiwr Cymorth Dydd, 25 awr, cefnogaeth 1:1

Gweithiwr Cymdeithasol (dyddiad cau: 12/04/24)

£33,945 - £37,336 Gradd 8 Newydd Gymhwyso, £38,223 - £42,403 Gradd 9 y flwyddyn. Ni yw'r Tîm Gwaith Cymdeithasol Cymunedol, ac rydym yn gweithio gydag oedolion ag anableddau corfforol, yn eiddil neu'n fregus sy'n gymwys i gael cymorth gartref neu mewn gofal preswyl dros gyfnod hwy o amser.

Cynorthwyydd Gofal Cymunedol (dyddiad cau: 15/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Mae ein Cynorthwywyr Gofal Cymunedol yn darparu gofal a chefnogaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, byw'n dda, adennill annibyniaeth a/neu aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac yn eu cymuned.

Cynorthwyydd Gofal Cymunedol (dyddiad cau: 15/04/24)

£25,979- £28,770 y flwyddyn pro rata. Mae ein Cynorthwywyr Gofal Cymunedol yn darparu gofal a chefnogaeth i helpu pobl i gyflawni canlyniadau cadarnhaol, byw'n dda, adennill annibyniaeth a/neu aros yn annibynnol yn eu cartref eu hunain ac yn eu cymuned.

Ymgynghorydd Gwella Ysgolion (dyddiad cau: 07/05/24)

£65,097 - £68,301 y flwyddyn (Soulbury 19-22 + 3 pwynt SPA). Gwahoddir ceisiadau ar gyfer swydd Ymgynghorydd Gwella Ysgolion i gyfrannu i wella addysg ar draws ysgolion cynradd Abertawe.
Close Dewis iaith