Datganiadau i'r wasg Tachwedd 2019

Cefnogaeth ar-lein wedi'i threfnu ar gyfer deiliaid cerdyn bws yn Abertawe
Gall teithwyr bysus gael help i gyflwyno cais am eu cerdyn bws consesiynol newydd.
Cyfle i ddweud eich dweud am ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol
Rhoddir cyfle i breswylwyr ddweud eu dweud am sut gall Cyngor Abertawe chwarae ei ran wrth sicrhau ei fod yn cyflwyno'i ymrwymiadau i gydraddoldeb yng nghymunedau'r ddinas.

Lee, y cyn seren bêl-droed, yn cefnogi digwyddiad Diwrnod y Rhuban Gwyn
Mae cyn-seren bêl-droed Abertawe, Lee Trundle, yn cefnogi digwyddiad ddydd Llun i arddangos y gwaith sy'n cael ei wneud yn y ddinas i fynd i'r afael â thrais gwrywaidd yn erbyn menywod.
Adfywio yn sicrhau bod Abertawe'n arwain y ffordd wrth fynd yn wyrdd
Mae Cyngor Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru'n helpu i ddangos sut y gall dinasoedd ymdrechu i fod yn ddod yn lleoedd gwyrddach a mwy atyniadol i bobl fyw a gweithio ynddynt.

Gwasanaeth yn helpu 540 o bobl i ennill cyflogaeth
Cefnogwyd hyd at 540 o bobl i ennill cyflogaeth neu ddod o hyd i swydd well ers ail-lansio gwasanaeth cyflogadwyedd Cyngor Abertawe 18 o fisoedd yn ôl.

Abertawe'n cofio
Bydd Abertawe'n cynnal munud o dawelwch ar gyfer y meirwon y penwythnos hwn a dydd Llun, 11 Tachwedd, i dalu teyrnged i'r rheini a fu farw dros eu gwlad.

Helpwch i ddiogelu bywydau - adroddwch am fandaliaid y glannau
Mae fandaliaid y glannau'n peryglu eu bywydau ar ôl i 56 o gymhorthion achub bywyd gael eu dwyn o'u pyst ar afon Tawe ac ardal y Marina mewn 10 mis yn unig.
Mr X yn apelio am anrhegion Nadolig
Mae apêl Mr X yn parhau am ei 60ain blwyddyn ac mae Cyngor Abertawe'n gweithio gyda Mr X eto eleni i drefnu casgliadau o fewn y cyngor ac i gydlynu'r apêl ar draws Abertawe.

Digwyddiad galw heibio i arddangos cynlluniau buddsoddi ysgol gyfun
Gall pobl gael rhagor o wybodaeth am gynlluniau i wella cyfleusterau mewn ysgol gyfun yn Abertawe yn sylweddol yn ystod dau ddigwyddiad gwybodaeth i'r gymuned.

Digwyddiadau i rieni i dynnu sylw at faterion diogelu
Gwahoddir rhieni a gwarcheidwaid yn nwy ysgol gyfun yn Abertawe, yn ogystal â'r rhai o'u hysgolion cynradd sy'n eu bwydo, i ddigwyddiadau i ddysgu rhagor am rai o'r pryderon sy'n wynebu plant a phobl ifanc wrth iddynt fod allan yn eu cymunedau a'r camau y gellir eu cymryd i'w diogelu.

Awgrymiadau arbed arian mewn digwyddiad am ddim
Cynhelir digwyddiad am ddim ar ddiwedd yr wythnos hon a fydd yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol a allai arbed arian i bobl yn Abertawe a'u helpu i osgoi benthycwyr twyllodrus a gweithredoedd twyllodrus.

Ailgylchwch eich pwmpen calan gaeaf i helpu'r amgylchedd
Caiff preswylwyr yn Abertawe eu hannog i ailgylchu eu pwmpenni ar ôl y dathliadau Nos Galan Gaeaf diweddar.

Ffordd y Brenin i fod yn glir ar gyfer y Nadolig
Bydd Ffordd y Brenin yn glir i siopwyr Abertawe'r Nadolig hwn.
Coeden Nadolig yn helpu i dynnu sylw at gyfle gofal plant
Mae coeden Nadolig yng nghanol dinas Abertawe yn helpu i dynnu sylw at gynnig sy'n rhoi cyfle i rieni gael hyd at 30 awr o ofal plant y flwyddyn, a hynny wedi'i ariannu.

Cannoedd yn bresennol yn seremoni gwobrau twristiaeth fwyaf Cymru
Roedd 540 o gynrychiolwyr y diwydiant yn bresennol yn seremoni gwobrau twristiaeth fwyaf Cymru yn Neuadd Brangwyn Abertawe.
Awards salute for Wales Airshow, Plantasia and LC
Council staff and partners were honoured at Wales' biggest tourism awards ceremony.

Pobl a fydd yn codi arian i elwa o weithdy cyllido torfol
Gwahoddir preswylwyr o Abertawe a hoffai godi arian ar gyfer prosiectau cymunedol i weithdy a gynhelir gan arbenigwyr cyllido torfol.
Ap ffôn clyfar yn cynnig ffordd arall o dalu i barcio yn Abertawe
Mae defnyddwyr meysydd parcio Cyngor Abertawe'n cael cynnig ffordd ychwanegol o dalu i barcio drwy ddefnyddio ap ffôn clyfar yn hytrach na cherdyn neu arian parod yn ei feysydd parcio talu ac arddangos.
Llwybr arfordir Gŵyr newydd yn agor i'r cyhoedd
Agorwyd llwybr troed newydd ar hyd arfordir Gŵyr i'r cyhoedd - pythefnos yn gynt na'r disgwyl.
Cyfle i'r cyhoedd fynegi barn ar gynllun drafft i helpu i gyflwyno Abertawe wyrddach
Gofynnir i bobl ar draws Abertawe rannu eu barn am gynllun drafft sy'n bwriadu creu dinas wyrddach.