Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Therapi galwedigaethol

Mae'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol Cymunedol yn un o'r gwasanaethau a ddarperir gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i helpu pobl hŷn a phobl ag anabledd corfforol neu synhwyraidd i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain.

Mae therapyddion galwedigaethol (ThG) yn helpu pobl i ddod o hyd i ffyrdd o ymdopi ag effaith anabledd. Maent yn gweithio gyda phobl o bob oedran i'w helpu i fod mor annibynnol â phosib er mwyn gwella ansawdd eu bywydau a bywydau'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Mae hyn yn cynnwys nodi tasgau sy'n anodd i bobl eu cyflawni a datblygu ffyrdd o addasu technegau, defnyddio offer neu addasu cartrefi pobl er mwyn hwyluso tasgau pob dydd.

Nod y Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol yw:

  • rhoi mwy o annibyniaeth a rheolaeth i bobl dros eu bywydau;
  • hwyluso gweithgareddau pob dydd i bobl anabl neu unrhyw un sy'n eu cynorthwyo neu'n byw gyda nhw, a lleihau'r amser a gymerir i'w cyflawni;
  • annog a chynghori pobl am arfer diogel;
  • helpu pobl i addasu i'w hanableddau a gwella'u hyder a'u hunanbarch.

Os ydych yn glaf mewn ysbyty, siaradwch â thîm gwaith cymdeithasol yr ysbyty.

Caiff eich cais ei gyfeirio i'r Gwasanaeth Therapi Galwedigaethol a byddwn yn trefnu apwyntiad i therapydd galwedigaethol ymweld â chi yn eich cartref i asesu eich anghenion.

Cwestiynau cyffredinol am therapi galwedigaethol

Rhestr o'r cwestiynau mwyaf cyffredin am ein Gwasanaethau Therapi Galwedigaethol yn y gymuned.

Gwasanaethau ailalluogi

Mae'r rhan fwyaf ohonom am barhau i fyw gartref, i fod mor annibynnol â phosib. Weithiau ar ôl cyfnod o afiechyd, mae angen ychydig mwy o gefnogaeth ar bobl.
Close Dewis iaith