Toglo gwelededd dewislen symudol

Trên Bach Bae Abertawe

Trên tir 72 sedd yw Trên Bach Bae Abertawe, sy'n teithio ar hyd promenâd Abertawe, o Blackpill, West Cross, Norton, Ystumllwynarth, gan gynnig golygfeydd gwych o fae godidog Abertawe i deithwyr.

Swansea Bay Rider Land Train

Swansea Bay Rider Land Train

Amserlen

Tan 22 Medi 2024:

  • bob penwythnos
  • 7 niwrnod yr wythnos yn ystod gwyliau'r ysgol

Mae 5 safle: Blackpill, Parc Sglefrio'r Mwmbwls, West Cross, Norton a Sgwâr Ystumllwynarth (maes parcio'r Llaethdy)

Blackpill i Ystumllwynarth (maes parcio'r Llaethdy)
Blackpill10.30am, 11.30am, 12.30pm, 2.00pm, 3.00pm, 4.00pm
Parc Sglefrio'r Mwmbwls10.35am, 11.35am, 12.35pm, 2.05pm, 3.05pm, 4.05pm
West Cross10.40am, 11.40am, 12.40pm, 2.10pm, 3.10pm, 4.10pm
Norton10.45am, 11.45am, 12.45pm, 2.15pm, 3.15pm, 4.15pm
Sgwâr Ystumllwynarth (maes parcio'r Llaethdy)11.00am, 12.00pm, 1.00pm, 2.30pm, 3.30pm, 4.30pm
Ystumllwynarth (maes parcio'r Llaethdy) i Blackpill
Sgwâr Ystumllwynarth (maes parcio'r Llaethdy)11.00am, 12.00pm, 1.00pm, 2.30pm, 3.30pm, 4.30pm
Norton11.05am, 12.05pm, 1.05pm, 2.35pm, 3.35pm, 4.35pm
West Cross11.10am, 12.10pm, 1.10pm, 2.40pm, 3.40pm, 4.40pm
Parc Sglefrio'r Mwmbwls11.15am, 12.15pm, 1.15pm, 2.45pm, 3.45pm, 4.45pm
Blackpill11.30am, 12.30pm, 1.30pm, 3.00pm, 4.00pm, 5.00pm

Sylwer: Mae Trên Bach Bae Abertawe yn dibynnu ar y tywydd, ac ni fydd yn teithio os bydd yr amodau'n wael.

Prisiau

Mae ein tocyn 'mynd-fel-y-mynnoch' yn eich caniatáu i fynd ar y trên a'i adael gynifer o weithiau ag y dymunwch drwy gydol y dydd.

  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch safonol - £7.00
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch consesiwn (dan 16 oed, myfyrwyr a'r henoed) - £6.00
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch Pasbort i Hamdden - £4.30
  • Tocyn mynd-fel-y-mynnoch tocyn teulu (2 oedolyn a 2 blentyn) - £17.00

Prynwch eich tocyn ar y trên gan ddefnyddio arian parod neu gerdyn.

Gwybodaeth am fynediad

Mae Trên Bach Bae Abertawe yn gwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn.

Caniateir cŵn sy'n ymddwyn yn dda ar y trên os ydynt dan reolaeth ac ar dennyn.

I gael rhagor o wybodaeth am Trên Bach Bae Abertawe: outdoorattractions@swansea.gov.uk

Close Dewis iaith